skip to main content

Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Bod y Cyngor hwn , yn wyneb yr argyfwng diffyg cartrefi a achoswyd gan gynnydd prisiau eiddo, cynnydd ail gartrefi a dylanwad llwyfannau gosod eiddo tymor byr ar-lein, yn gofyn i’r Cabinet glustnodi’r holl arian a gesglir drwy godi premiwm treth cyngor ar ail dai / tai haf ar ddiwallu anghenion trigolion   sydd yn byw yn yr ardaloedd lle mae'r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf, sef yn yr ardaloedd hynny lle cesglir y rhan fwyaf o’r premiwm treth. Mae Llywodraeth Cymru’n  annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir gan godi’r premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai lleol, yn unol â bwriadau polisi'r premiymau. Gan dderbyn nad oes gorfodaeth ar y Cyngor i wneud hyn, dyna’r peth cywir i’w wneud a dyna’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan fwyafrif aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd ehangach.

 

Penderfyniad:

Gwrthod y rhybudd o gynnig.

 

Cofnod:

(C)    Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod y Cyngor hwn, yn wyneb yr argyfwng diffyg cartrefi a achoswyd gan gynnydd prisiau eiddo, cynnydd ail gartrefi a dylanwad llwyfannau gosod eiddo tymor byr ar-lein, yn gofyn i’r Cabinet glustnodi’r holl arian a gesglir drwy godi premiwm treth cyngor ar ail dai / tai haf ar ddiwallu anghenion trigolion sydd yn byw yn yr ardaloedd lle mae'r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf, sef yn yr ardaloedd hynny lle cesglir y rhan fwyaf o’r premiwm treth.  Mae Llywodraeth Cymru’n annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir gan godi’r premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai lleol, yn unol â bwriadau polisi'r premiymau. Gan dderbyn nad oes gorfodaeth ar y Cyngor i wneud hyn, dyna’r peth cywir i’w wneud a dyna’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan fwyafrif aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd ehangach.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Yng nghyfarfod y Cyngor yn Rhagfyr 2016, pan drafodwyd codi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag, y cafwyd gwelliant bod y mwyafrif o’r arian a dderbynnid o godi premiwm yn mynd tuag at helpu pobl ifanc yn ein cymunedau i gael tŷ fforddiadwy, ac mai’r cymal ychwanegol hwn oedd wedi ysgogi llawer o gynghorwyr i bleidleisio dros y gwelliant.

·         Bod y Cynllun Gweithredu Tai 2021-2027 yn clustnodi cyfanswm gwariant o gronfeydd premiwm treth cyngor o £23m, ac er bod cynlluniau i leihau digartrefedd, gwella llety gofal a chefnogaeth i bobl ag anghenion yn gwbl deilwng, roedd yn destun pryder nad oedd y cyllid ar gyfer yr elfennau hyn wedi’i glustnodi o ffynonellau craidd neu ddatblygol y Cyngor.

·         Ei bod yn ymddangos bod ymhell dros £10m o’r gronfa premiwm treth cyngor yn cael ei glustnodi ar gyfer gofynion y tu hwnt i gyfarch yr argyfwng diffyg cartrefi, er bod Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir drwy godi’r dreth premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai pobl leol.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Tai wrthwynebiad cryf i’r cynnig, gan nodi:-

 

·         Bod y Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu Tai gwerth £77m mewn ymateb i’r argyfwng cartrefi.  Roedd y swyddogion yn gweithredu ar hynny drwy gartrefu pobl leol yn ein cymunedau mewn tai diogel, gwyrdd a fforddiadwy, a’i rôl yntau, fel Aelod Cabinet, oedd herio’r gwaith dydd i ddydd hwnnw.

·         Er y pandemig a’r cynnydd digynsail mewn digartrefedd a’r niferoedd ar y rhestr aros am dai, a cholli’r Pennaeth, y llwyddodd yr Adran i wario £1.4m ar adnewyddu tai gwag, yn cynnwys sawl un yn yr ardaloedd y cyfeiriwyd atynt yn y cynnig.  Gwariwyd £500,000 ar addasu tai i bobl ag anableddau, rhoddwyd £1m ychwanegol tuag at y cynllun ‘Homebuy’, crëwyd 4 pod arloesol ar gyfer oedolion bregus a 4 o fflatiau cefnogaeth ieuenctid.  Roedd gwaith ar droed i ddatblygu 30 o unedau i unigolion bregus gyda tua £1m ychwanegol yn cael ei wario ar wella cefnogaeth i bobl yn eu tai.  Roedd y Cyngor hefyd yn y broses o adeiladu’r tai cyntaf ers degawdau, ac yn edrych ar diroedd er mwyn datblygu tai dros Wynedd.

·         Bod yr Adran yn dod i gasgliad ar angen lleol drwy ymgynghoriad, a hynny ddylai fod yn sail i benderfyniadau tai, nid y cynnig hwn, oedd yn golygu na allai’r Cyngor ond gwario arian yn yr ardaloedd lle cesglir y rhan fwyaf o’r premiwm treth.

·         Bod yna angen mawr yn ei ward ei hun, ac mewn wardiau eraill ar draws y sir, a dylai arian cyhoeddus gael ei wario lle mae’r angen, ac nid lle mae’r arian yn cael ei gasglu.

 

Ategwyd sylwadau’r Aelod Cabinet gan nifer o aelodau eraill a fynegodd eu gwrthwynebiad i’r cynnig.  Nodwyd:-

 

·         Bod yr egwyddor y dylid gwario’r arian lle mae’r arian yn cael ei godi yn wrthyn o safbwynt tegwch cymdeithasol ac o safbwynt egwyddorion trethiant blaengar, ac o ddilyn yr egwyddor yma i’w eithaf fel llinyn mesur o lle dylid gwario, byddai’r goblygiadau yn gwbl groes i fuddiant Cymru, ac i fuddiant Gwynedd.  Ar lefel Prydain, byddai mwyafrif yr adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwario yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr; ar lefel Cymru byddai mwyafrif y gwariant ar goridor yr M4 rhwng Casnewydd ac Abertawe, ac ar lefel Gwynedd, byddai mwyafrif y gwariant ar hyd glannau’r Fenai, ac nid ym Meirionnydd a Dwyfor. 

·         Er y cydnabyddid bod yna angen mawr yn y cymunedau Gorllewinol, bod yna angen tai o fath gwahanol yn y cymunedau trefol, lle mae miloedd ar y rhestr aros am dai cymunedol a 3-4 cenhedlaeth wedi bod ar y rhestr am flynyddoedd, ac yn byw dan amodau anodd iawn.

·         Bod y cynnig yn ymddangos fel loteri cod post, a lle fyddai hynny’n arwain wrth ystyried holl wasanaethau’r Cyngor?  Petai’r Cyngor yn ystyried mynd i’r eithaf, ac yn ystyried polisi o wario yn y cymunedau lle mae’r Cyngor yn casglu’r dreth, byddai rhai ardaloedd, a hynny’n amlwg yn cynnwys nifer fawr o ardaloedd gwledig y sir, yn colli allan yn sylweddol.

·         Bod y cynigydd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio cynnyrch y premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai lleol, ond credid bod ‘lleol’ yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at yr awdurdod lleol, sef Gwynedd gyfan, ac nid plwyfi neu gymunedau’r sir.

·         Y gellid dadlau bod angen ystyried yr ochr arall i’r hafaliad o godi premiwm ar eiddo, sef bod colledion sylweddol i’r sylfaen dreth wrth i eiddo symud o’r dreth gyngor i’r dreth fusnes.  Yn gyffredinol, roedd y colledion eiddo a’r golled incwm treth yma, yn cyd-fynd â’r ardaloedd lle mae’r incwm premiwm ar ei uchaf, ond yn amlwg, ni fyddai’r Cyngor yn edrych ar hynny’n blwyfol ac yn ystyried gwario llai yn yr ardaloedd hynny.

·         Bod unrhyw gynghorydd sy’n gefnogol i’r cynnig hwn yn mynd i orfod egluro i’w etholwyr pam nad oes tai yn cael eu hadeiladu yn eu ward.

·         Bod wardiau, difreintiedig o bosib’, sy’n ffinio ag ardaloedd gyda nifer uchel o ail gartrefi, yn dioddef mwy o draffig ac ysbwriel yn sgil hynny, a bod prisiau tai yn codi yn y wardiau hynny hefyd.  Fodd bynnag, o fabwysiadu’r cynnig, ni fyddai’r wardiau hynny yn derbyn unrhyw arian premiwm.

·         Y byddai mabwysiadu’r cynnig yn golygu y byddai cynghorwyr yn blwyfol ac yn ymladd yn erbyn ei gilydd fesul ward am arian.  Roedd pob aelod yn adnabod ei ardal ei hun, ond nid oedd yr un aelod yn unigol yn deall y sefyllfa ar draws y sir gyfan.  Rôl yr Aelod Cabinet a’r swyddogion oedd deall hynny a chlustnodi lle mae’r angen mwyaf.  Gellid llwyr ymddiried yn yr Aelod Cabinet i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario mor effeithiol â phosib’ ar draws y sir er mwyn cyfarch yr angen, a mwy na thebyg y byddai hynny’n cynnwys yr ardaloedd lle mae’r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf.

·         Bod y Gymraeg yn fyw ymhob cornel o Wynedd, ac nid ym Mhen Llyn yn unig, ac roedd yna frwydro i gadw’r Gymraeg yn iaith gymunedol mewn llefydd fel Bangor.

·         Bod pawb ar yr un ochr eisiau gweld pobl ifanc lleol yn cael yr hawl i fyw adref.  Roedd yna argyfwng cartrefi yn y trefi hefyd, am wahanol resymau o bosib’, ond yr un oedd yr angen, ac roedd angen datrysiad teg i holl bobl y sir.

·         Bod pobl yn prynu tai ym Mangor, nid i fyw ynddynt, ond fel buddsoddiad i wneud elw, a bod hynny’n creu problemau aruthrol hefyd.

·         Bod yr aelodau’n ffyddiog y bydd y Strategaeth Tai yn mynd i’r afael â’r argyfwng cartrefi i bobl leol ym mhob rhan o Wynedd, a dylid cefnogi’r strategaeth a rhoi cyfle iddi weithio er budd pobl ifanc a phobl leol ar draws y sir.

·         Beth am y sefyllfa lle mae’r gymuned gynhennid wedi’u gwthio allan i ardal gyfochrog?  Beth am lefydd lle mae twf yn digwydd rŵan o ran ail gartrefi, megis y bröydd llechi? Ydyn nhw ddim am gael cefnogaeth?

 

Cefnogwyd y cynnig gan nifer o aelodau eraill.  Nodwyd:-

 

·         Bod yna broblem diffyg cartrefi enfawr yn Nwyfor a Meirionnydd, a diffyg gweithredu gan gymdeithasau tai i adeiladu tai ar rent i bobl leol mewn ardaloedd megis Abersoch a Blaenau Ffestiniog.

·         Bod rhai perchnogion tai yn symud eu tenantiaid allan er mwyn trosi’r tai hynny yn dai haf.

·         Bod rhai perchnogion ail gartrefi yn ddigon bodlon talu’r premiwm, cyn belled â’u bod yn gweld bod eu harian yn mynd tuag at ddiwallu anghenion tai yn yr ardal.

·         Dylai anghenion y digartref, unigolion gydag anghenion cymdeithasol, ayb, gael eu hariannu o ffynonellau craidd neu ddatblygol y Cyngor.

·         Bod yna brinder tai gwag i ddod yn ôl i ddefnydd a phrinder tir ar gyfer adeiladu oherwydd cyfyngiadau’r Cynllun Datblygu Lleol.  Roedd angen ymestyn y ffiniau datblygu a gwneud darpariaeth, nid yn unig ar gyfer y digartref, pobl gydag anghenion cymdeithasol a’r anabl, ond hefyd pobl ifanc broffesiynol, sydd wedi’u gwthio allan o’r farchnad dai.

·         Nad oedd y Cynllun Gweithredu Tai yn cyfeirio at Dywyn, nac unrhyw le i’r De o Abermaw.

·         Bod Shelter yn dweud nad oes gwahaniaeth rhwng person digartref yn Nhudweiliog a pherson digartref yn Grangetown, Caerdydd, ond yr un gwahaniaeth sylfaenol ydi bod digartrefedd yn Nhudweiliog yn effeithio’n ddybryd ar y Gymraeg yn y pentref hwnnw.  Gan hynny, roedd angen sylw penodol ar gyfer yr ardaloedd Cymraeg.

·         Bod y cynigydd yn ymdrechu’n frwd dros ei fro a’r hawl i fyw adra.  Roedd y sefyllfa’n hynod rwystredig, a faint o dystiolaeth oedd ei hangen i brofi ei bod yn argyfwng arnom?  Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth, a chredid bod y cynnig yn codi cwr y llen ar sut i ariannu’r broblem yma.

·         Bod yna wahaniaeth rhwng y stoc tai sydd ar gael yn yr ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd trefol.  Gellid prynu tŷ mewn tref am tua £100,000 o hyd, ond yn ogystal â bod yn llawer drutach, roedd y stoc tai sydd ar gael yn yr ardaloedd gwledig yn is hefyd.  Ers i’r Cabinet gau ysgolion Carmel a’r Fron, gwelwyd cynnydd yn nifer y tai haf a thai Airbnb yn yr ardal, a byddai’r un peth yn digwydd yn Abersoch yn dilyn penderfyniad y Cabinet i gau ysgol y pentref.

·         Mai’r peth mwyaf y gallai’r Cyngor ei wneud i helpu pobl ifanc fyddai caniatáu morgeisi iddynt, yn unol â’i hawliau dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

·         Mai pwrpas y pot ail gartrefi yw helpu pobl yn y cymunedau hynny lle mae gormodedd o ail gartrefi, yn benodol Dwyfor a Meirionnydd, a dylid clustnodi’r arian ar gyfer hynny’n unig.

·         Bod y cymunedau gwledig arfordirol yn gwagio’n sydyn.  Parc gwyliau anferthol fydd Pen Llyn fel mae pethau’n mynd, ac ni fydd neb lleol yn gallu fforddio byw yno, oni bai am yr hwb ariannol o arian y premiwm.

·         Er y cytunid gyda chraidd y cynnig, awgrymid, yn hytrach na bod yr ‘holl arian’ a gesglir o’r premiwm yn cael ei wario yn yr ardaloedd lle mae’r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf, y dylai ‘canran uchel’ neu ‘fwyafrif llethol’ yr arian gael ei wario yn yr ardaloedd hynny.

·         Bod angen mynd ar ôl y bobl hynny sydd wedi trosi eu heiddo o’r dreth gyngor i’r dreth fusnes, ac wedi elwa o’r grant Covid i fusnesau lletygarwch.

·         Bod y drafodaeth wedi amlygu’r tensiynau rhwng y trefi mwyaf ac ardaloedd arfordirol gwledig Dwyfor a Meirionnydd, lle mae’r problemau’n bodoli.  Ni chredid bod pobl yn y trefi yn llawn sylweddoli dimensiwn y broblem yn y cymunedau gwledig oedd dan straen anferth, ac roedd y sefyllfa wedi gwaethygu’n ddifrifol dros gyfnod y pandemig.

 

Nododd rhai aelodau eraill eu bwriad i atal eu pleidlais ar y cynnig.  Nodwyd:-

 

·         Er y deellid ysbryd y cynnig, nad oedd yna ffiniau i’r argyfwng cartrefi yn y sir, ac y byddai’n anodd i aelodau bleidleisio dros y cynnig ac yna wynebu pobl yn eu ward, lle mae yna achosion yr un mor deilwng. 

·         Nad oedd yn syndod bod disgwyliad bod yna ryw fath o berthynas eglur rhwng yr arian sy’n cael ei godi o’r premiwm a chynlluniau yn yr ardaloedd sy’n dioddef waethaf ar hyn o bryd o ganlyniad i’r argyfwng ail-gartrefi, ond roedd yn anodd iawn penderfynu beth sy’n deg, beth ydi’r angen a lle mae’r angen, gan fod gennym gymaint o broblem gyffredinol tai ar draws y sir, a sawl gwedd i’r broblem yma.

·         Yn hytrach na diystyru’r cynnig yn llwyr, dylid ail-ymweld â hyn i gyd yn y dyfodol, gan edrych ar yr union berthynas rhwng casglu a gwariant, a chael y drafodaeth os nad yw’n ymddangos bod yna fuddsoddiad teg neu gymesur mewn cynlluniau sy’n mynd i’r afael â’r ffaith bod pobl ifanc yn methu cael cartrefi.

·         O ystyried dyfnder yr argyfwng cartrefi ar hyn o bryd a’r angen am ddatrysiad brys i’r sefyllfa, bod yna drafodaeth ofalus i’w chael hefyd ynglŷn ag a ddylai peth o’r arian i helpu’r cynlluniau ddod o ffynonellau craidd y Cyngor a chronfeydd datblygol.

·         Bod y Cynllun Gweithredu Tai yn addawol, yn arloesol ac yn bellgyrhaeddol, a bod rhaid rhoi cyfle iddo weithio.

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau, nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Bod ganddo gydymdeimlad llwyr â phwynt sylfaenol y cynigydd, gan fod pawb yn dymuno gweld cymaint o adnoddau â phosib’ yn cael eu cyfeirio at roi mwy o gyfleoedd i’n trigolion lleol fyw yn ein cymunedau.

·         Ei bod yn ddyddiau cynnar iawn yn oes y Cynllun Gweithredu Tai (7 mis i mewn i’r cynllun 6 blynedd), ond bod yna lwyddiannau cynnar iawn i’w gweld yn barod.  Er enghraifft, roedd bron i 100 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd drwy arian y premiwm yn benodol, a diau y byddai yna lwyddiannau ymhob rhan o’r sir, gan gynnwys yr ardaloedd ar hyd yr arfordir Gorllewinol.

·         Bod y Cynllun Gweithredu Tai yn gynllun £77m gyda’r incwm sy’n dod i mewn o’r premiwm yn £23m.  Byddai’r Adran yn gwario’r sylweddol uwch na’r £23m yna ar y mathau o gynlluniau y byddai’r aelodau’n dymuno gweld yn digwydd.  Roedd yna gynllun penodol am £15m ar gyfer prynu tai yn ôl oddi ar y farchnad, oedd ynddo’i hun yn 75% o incwm y premiwm, ond yn dod o ffynhonnell hollol wahanol.

·         Na allai’r Cynllun Gweithredu Tai ddatrys ein holl sefyllfa dai, ac roedd angen newidiadau cenedlaethol, gan gynnwys arian ychwanegol o gyfeiriad y Llywodraeth, a newidiadau ar yr ochr cynllunio. 

·         Bod y Cyngor wedi gwneud yr hyn y gallai o safbwynt defnyddio ein harian ein hunain a llunio Cynllun Gweithredu sy’n destun eiddigedd gan gynghorau eraill ar draws y wlad.  Byddai adroddiad craffu ymhen tua blwyddyn yn dangos yr hyn fyddai wedi’i gyflawni, a hyderid y byddai’n llwyddiant mawr iawn ac yn gwneud cymaint o gyfraniad â phosib’ tuag at y sefyllfa.

 

Cynigiwyd gwelliant bod y ‘mwyafrif llethol’, yn hytrach na’r ‘holl’ arian a gesglir o’r premiwm yn cael ei wario yn yr ardaloedd lle mae’r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod y term ‘mwyafrif llethol’ yn amhendant o ran ei ystyr, a gofynnodd i gynigydd y gwelliant gadarnhau ai ‘mwyafrif’ yr arian a olygai mewn gwirionedd.

 

Nododd aelod ei fod yn gweld y broblem gyda’r term ‘mwyafrif llethol’ ac nad oedd yn hapus gyda ‘holl arian’ chwaith, ac awgrymodd y gallai ‘canran uchel’ fod yn gyfaddawd o bosib’, petai cynigydd y cynnig gwreiddiol yn barod i dderbyn hynny.

 

Gofynnodd y Swyddog Monitro am eilydd i’r gwelliant, sef ‘mwyafrif’ yr arian. 

 

Nododd cynigydd y gwelliant ei fod am dynnu ei welliant yn ôl, ac eilio ‘canran uchel’ o’r arian.

 

Eglurodd y Cadeirydd nad oedd cynnig i’r perwyl hynny wedi’i wneud.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant bod ‘canran uchel’ o’r arian a gesglir o’r premiwm yn cael ei wario yn yr ardaloedd lle mae’r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf.

 

Trafodwyd y gwelliant.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Tai nad oedd yn glir iddo beth fyddai’n pleidleisio drosto, gan nad oedd cyfeiriad yma at unrhyw ffigwr penodol.

 

Nododd rhai aelodau eraill:-

 

·         Nad oedd y gwelliant yn helpu’r sefyllfa o gwbl, ac y byddai’n well gwrthod y gwelliant a’r cynnig.

·         Y cytunid â’r gwelliant gan mai pwrpas y premiwm oedd helpu pobl ifanc yn ein cymunedau i gael tŷ fforddiadwy, a bod yna botiau eraill o arian i ymateb i bethau eraill.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod ‘canran uchel’ yn derm penagored, ac nad oedd yn eglur o ran ei ystyr na’i arwyddocâd. 

 

Rhoddwyd rhybudd o welliant pellach, sef bod ‘70%’ o’r arian a gesglir o’r premiwm yn cael ei wario yn yr ardaloedd lle mae’r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf.

 

Nododd y Prif Weithredwr, petai’r gwelliant yn cario a’r mater yn mynd yn ei flaen i’r Cabinet, mai mater i’r Cabinet fyddai dehongli ystyr ‘canran uchel’, a gofynnodd i gynigydd y gwelliant a ddymunai ail-ystyried.

 

Nododd y cynigydd ei fod yn parhau’n awyddus i roi’r gwelliant i fyny, a chadarnhaodd yr eilydd ei fod yntau am ddal at y gwelliant hefyd.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe ddisgynnodd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant bod ‘70% o’r arian a gesglir o’r premiwm yn cael ei wario yn yr ardaloedd lle mae’r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf.

 

Trafodwyd y gwelliant.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Tai nad oedd yn glir iddo a olygai’r gwelliant y byddai 70% o’r premiwm yn cael ei wario yn y 50.1% o ardaloedd lle mae’r argyfwng ar ei waethaf.

 

Nododd y Prif Weithredwr nad oedd y cynnig gwreiddiol yn anffodus yn diffinio ‘yr ardaloedd lle cesglir’ a gofynnwyd i’r cynigydd daflu rhywfaint o oleuni ar hynny.

 

Nododd cynigydd y cynnig gwreiddiol ei fod yn anodd ei ddiffinio, ond o ran diffiniad fforddiadwyedd, y golygai’r ardaloedd hynny sydd bellach yn ardaloedd lle na all y mwyafrif llethol o bobl leol brynu tŷ.  Ychwanegodd fod 60% o bobl Gwynedd yn methu prynu tai, ond yn yr ardaloedd dan sylw ganddo, roedd y ffigur yn nes at 90% bellach, ac ni chredai ei bod yn anodd gweithio allan lle mae angen gwario’r arian.

 

Nododd y Prif Weithredwr, o ran yr ardaloedd a sut mae eu diffinio, mai’r unig beth penodol y gellid ei roi fyddai’r ardaloedd sy’n cyfrannu’r mwyafrif o’r incwm, felly byddai’n rhaid gosod y ganran ar 50.1%.

 

Nododd cynigydd ac eilydd y gwelliant eu bod yn fodlon gyda’r eglurhad yma.

 

Nododd aelod, waeth pa ffordd y byddai’r Cyngor yn pleidleisio ar y mater, mai’r Cabinet fyddai’n gwneud unrhyw benderfyniad yn y pen draw.

 

Holwyd ar ba sail y gellid dweud bod mwyafrif arian y premiwm yn cael ei gasglu yn yr ardaloedd arfordirol Gorllewinol, oherwydd os ydi’r ail gartrefi’n troi’n fusnesau, nid ydynt yn talu’r premiwm.  Gan hynny, o bosib’ mai’r bobl fyddai ar eu colled petai’r cynnig yn cael ei basio fyddai’r bobl sy’n cyfrannu fwyaf, ac sy’n sybsideiddio pobl sydd wedi gwerthu tai yn yr ardaloedd hynny.  Mewn ymateb, cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y papur ‘Amcangyfrif o’r swm o’r premiwm ail gartrefi a thai gwag a gesglir mewn plwyfi ers Ebrill 2018’ a anfonwyd fel gwybodaeth gefndirol at yr aelodau cyn y cyfarfod, gan egluro bod oddeutu’r 12 cymuned uchaf ar y rhestr yn disgyn oddi fewn i’r 51%.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Tai ei ddymuniad i gael cymaint â phosib’ o gymunedau i mewn i’r grŵp yma, a gofynnodd a fyddai modd i’r ganran fod yn 50.1%, yn hytrach na 51%.

 

Er eglurder, nododd y Prif Weithredwr mai geiriad y gwelliant oedd:-

 

“Bod y Cyngor hwn, yn wyneb yr argyfwng diffyg cartrefi a achoswyd gan gynnydd prisiau eiddo, cynnydd ail gartrefi a dylanwad llwyfannau gosod eiddo tymor byr ar-lein, yn gofyn i’r Cabinet glustnodi 70% o’r arian a gesglir drwy godi premiwm treth cyngor ar ail dai / tai haf ar ddiwallu anghenion trigolion sydd yn byw yn yr ardaloedd lle mae'r argyfwng diffyg cartrefi ar ei waethaf, sef yn yr ardaloedd hynny lle cesglir 51% o’r premiwm treth.  Mae Llywodraeth Cymru’n annog awdurdodau lleol i ddefnyddio unrhyw enillion ychwanegol a gynhyrchir gan godi’r premiwm i gynorthwyo diwallu anghenion tai lleol, yn unol â bwriadau polisi'r premiymau. Gan dderbyn nad oes gorfodaeth ar y Cyngor i wneud hyn, dyna’r peth cywir i’w wneud a dyna’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan fwyafrif aelodau’r Cyngor a’r cyhoedd ehangach.”

 

Nodwyd, wrth i ffigurau’r gwahanol ardaloedd newid o flwyddyn i flwyddyn, y byddai rhai cymunedau’n symud i mewn ac allan o’r 51%.  Er hynny, byddai cynlluniau tai yn cymryd sawl blwyddyn i’w gwireddu, a holwyd sut oedd y Cabinet am ddatrys y broblem honno?

 

Mewn ymateb i gwestiwn, ymhelaethodd y Prif Weithredwr ar y cymunedau unigol fyddai’n derbyn y 70% o arian y premiwm yn ôl ffigurau’r 4 blynedd diwethaf fesul blwyddyn, ac ar gyfartaledd.

 

Nododd yr Arweinydd fod y drafodaeth wedi arwain at gymhlethdod hollol ddiangen, ac argymhellodd wrthod y gwelliant a’r cynnig gwreiddiol.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe ddisgynnodd.

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd cynigydd y rhybudd o gynnig:-

 

·         Ei bod yn amlwg bellach o’r drafodaeth fod y cynnig yn mynd i ddisgyn, ond bod yr arian ychwanegol sydd wedi’i godi o’r premiwm yn bwrs ar ei ben ei hun.

·         Na allai dros 90% o bobl Dwyfor a glannau Meirionnydd, a rhai o’r ardaloedd o gwmpas Llanberis bellach fforddio byw yn eu hardaloedd.

·         Iddo ofyn i’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Tai ac Eiddo faint o arian y premiwm sydd wedi’i wario yn ôl plwyf, a chael yr ateb mai ychydig o wariant o gronfa’r premiwm treth cyngor sydd wedi’i wario hyd yma, a hynny er gwaethaf y ffaith bod yr arian wedi bod yn cael ei gasglu ers 4 blynedd.

·         Y dymunai alw am bleidlais gofrestredig ar ei gynnig gwreiddiol fel bod pawb o’n trigolion yn gweld sut mae eu cynrychiolwyr wedi pleidleisio ar y bleidlais dyngedfennol hon i geisio cadw ein cymunedau Cymraeg.

 

Ar bwynt o drefn, eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd yn bosib’ dechrau gwario’r arian nes bod y Cynllun Gweithredu Tai yn ei le, ac y disgwylid y byddai’r gwariant yn cynyddu’n sylweddol o hyn ymlaen.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig gwreiddiol:-

 

O blaid (15) Y Cynghorwyr:- R.Glyn Daniels, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Aeron M.Jones, Gareth Tudor Morris Jones, Kevin Morris Jones, Dewi Wyn Roberts, Angela Russell, Mike Stevens, Hefin Underwood, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gareth Williams, Gruffydd Williams ac Owain Williams.

 

Yn erbyn (25) Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago, Beca Brown, Gareth Wyn Griffith, Annwen Hughes, R.Medwyn Hughes, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Elin Walker Jones, Eryl Jones-Williams, Cai Larsen, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Dafydd Owen, Edgar Wyn Owen, Gwynfor Owen, Rheinallt Puw, W.Gareth Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Ioan Thomas, Catrin Wager a Cemlyn Williams.

 

Atal (13) Y Cynghorwyr:- Menna Baines, Stephen Churchman, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Simon Glyn, Judith Humphreys, Aled Wyn Jones, Elwyn Jones, Keith Jones, Elfed P.Roberts, Gareth A.Roberts a Gethin Glyn Williams.

 

Nododd y Cadeirydd fod y cynnig gwreiddiol wedi colli.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y rhybudd o gynnig.