Agenda item

Canfod barn a mewnbwn y Pwyllgor Craffu ynglŷn â’r cysyniad o sefydlu Siop Un Stop Tai ac adnabod y camau nesaf.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ynglŷn â’r cysyniad o sefydlu Siop Un Stop Tai ac adnabod y

camau nesaf, gan ofyn i’r Adran roi sylw i’r pwyntiau a godwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad Siop Un Stop gan y Pennaeth Adran, gyda chais am fewnbwn Aelodau y Pwyllgor ar gychwyn y broses ymgynghori, gan gyfeirio at y Siop Un Stop fel mynedfa i drigolion Gwynedd i gael cymorth gyda eu hanghenion tai.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet bod cael gwybodaeth o bersbectif Cynghorwyr yn bwysig iawn o ran deall anghenion lleol, ynghyd a chael cartrefi unigolion yn y llefydd cywir.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a chydnabuwyd ei bod wedi bod yn gam positif i adnabod y broblem, gan fod ymdeimlad ymysg aelodau bod nifer o dai cymunedol mewn rhai wardiau a nifer o unigolion ar restrau aros.  Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :

 

O ran y pryder bod pobl sydd eisoes yn fregus yn cael problemau megis cwblhau ffurflenni, ddim yn siŵr a phwy i gysylltu pan fo amgylchiadau yn newid a ddim yn derbyn diweddariad, nodwyd balchder y bydd y drefn Siop Un Stop yn symleiddio ac ymateb i’r pryderon hyn. Cadarnhawyd y bwriad i’r Siop Un Stop fod yn rhagweithiol gan gadw gwell cyswllt, ac yn ôl Y Pennaeth Tai ac Eiddo yn gafael yn llaw trigolion a cheisio datrys problemau mewn un man.

 

Holiwyd am fanylder y 33 prosiect y cyfeirir atynt yn yr Adroddiad gan gwestiynu y bwriad mewn ardaloedd penodol a’r amserlen.  Cadarnhaodd y Pennaeth Tai ac Eiddo bod llawer o waith yn digwydd yn y cefndir, megis ar dir sydd yn berchen i’r Cyngor, gan gadarnhau y bydd adroddiad gerbron Tîm Arweinyddiaeth y Cyngor maes o law, fydd yn cynnwys amserlen ddrafft. 

 

Nodwyd bod yr egwyddor o Siop Un Stop yn wych a chadarnhawyd y bydd  popeth ar gael ar lein/yn electroneg  ac y bydd unrhyw ddiweddariadau i gais yn cael eu gwneud yn electroneg fydd, o ganlyniad, yn gwella y cyfathrebu.

 

Adroddwyd bod y Trydydd Sector yn awyddus i fod yn rhan o drefniant o’r math.

Soniwyd eto am gymhlethdod y drefn bresennol, ond nodwyd pryder am yr ymdeimlad bod prinder llefydd i unigolion fyw, ac y byddai gwneud y llwybr ymgeisio yn haws iddynt yn werthfawr, ond os nad oes tai iddynt, yna mae hon yn broblem arall.  Cadarnhawyd y bydd y Cynllun Gweithredu Tai wrth gwrs yn ymateb rhywfaint i’r sefyllfa,  ond bod llawer o waith cydgordio i’w wneud rhwng y Cyngor a Chymdeithasau Tai.  Gan fod y nifer sydd yn ddigartref yn uchel iawn cwestiynwyd y trefniant i ddod ac eiddo  gwag yn ôl i ddefnydd, gan nodi dymuniad Aelodau i gael gwybod am unrhyw dai gweigion yn eu Wardiau. 

 

Nodwyd pwysigrwydd staffio Siop Un Stop Tai yn briodol, gyda gwybodaeth yn cael ei gadw mewn un man.

 

Cadarnhawyd bod mewnbwn nid yn unig yr Aelodau ond Aelodau Seneddol Cymru a’r DU yn hanfodol ar gychwyn y broses, gan fod unigolion hefyd yn cysylltu gyda eu Aelodau Seneddol. 

 

Rhoddwyd cefnogaeth y Pwyllgor ar y ffordd ymlaen a diolchwyd i’r Swyddogion am y gwaith.

 

PENDERFYNWYD : Derbyn yr adroddiad ynglŷn a’r cysyniad o sefydlu Siop Un Stop Tai ac adnabod y camau nesaf, gan ofyn i’r Adran roi sylw i’r pwyntiau a godwyd. 

 

Dogfennau ategol: