skip to main content

Agenda item

I ddarparu trosolwg o waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Penderfyniad:

1)      Derbyn yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

2)    Nodi pryder am ddiffyg capasiti staff yr uned a’r risgiau allai godi o ran diogelwch a lles unigolion sy’n derbyn gofal, cynaliadwyedd y farchnad a risgiau i’r Cyngor o ganlyniad i hynny.

3)    Y byddai’r Cadeirydd yn anfon e-bost at aelodau’r Cabinet er mwyn cyfleu pryder y pwyllgor am y diffyg capasiti staff a’r angen i sicrhau capasiti staff digonol er mwyn cynnig cefnogaeth addas a monitro ansawdd gwasanaethau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar y Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Uned Diogelu gan yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd.  Bwriad yr eitem oedd manylu ar y ffordd mae y Cyngor yn monitro darpariaethau gofal oedolion y Sir, sydd yn cynnwys ystod o sefydliadau.  Rhoddwyd trosolwg o waith y tîm.  Nodwyd y pryder bod y Gwasanaeth yn gyfrifol am fonitro nifer o sefydliadau ond dim ond wedi llwyddo i fonitro nifer cyfyngedig a heb fedru ymweld â’r gwasanaeth gofal cartref na gofal dydd.  Yn ychwanegol, yn ystod cyfnod Covid nodwyd nad yw’r ymweliadau dirybudd wedi gallu digwydd fel y byddai yn arferol ond yn hytrach, bod y staff wedi gwneud cysylltiadau ffon gyda’r darparwyr.

 

Adroddwyd bod pum cartref wedi mynd o dan y drefn Pryder Cynyddol dros y 18 mis diwethaf.  Mae’r Tim Sicrwydd Ansawdd wedi gweithio gyda pob un i baratoi a gweithredu rhaglenni gwella er goresgyn problemau a gwella ansawdd gwasanaethau gofal. Un o effeithiau posib y broses yw gosod embargo ar rai mynediadau, sydd yn ei dro yn cael effaith ar unigolion a’u teuluoedd ac wrth gwrs diffyg arian yn dod i mewn i gynnal y busnes.  Adroddwyd hefyd bod tri cartref yng Ngwynedd wedi cau dros y 2 flynedd diwethaf.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd at Adroddiad ‘Winterbourne View’, ac adroddwyd bod diffyg monitro yn ffactor yma, ynghyd a diffyg trosolwg gan y Comisiynwyr.

 

Cadarnhawyd mai pob tua dwy flynedd mae yr ymweliadau i safleoedd yn cymryd lle ar hyn o bryd, ond yn ddelfrydol mae angen ymweld pob chwe mis.  Nodwyd pan mae problem yn codi, mae ymweliadau yn cymryd lle i geisio atal safle rhag mynd o dan y drefn Pryderon Cynyddol. Tra mae hyn yn gwbl angenrheidiol mae yn cael effaith ar allu’r tîm i fonitro gwasanaethau eraill.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :

 

Nodwyd pryder bod pum gwasanaeth wedi bod dan y drefn pryderon cynyddol, ynghyd a’r gwahaniaeth enbyd rhwng amlder ymweliadau Cyngor Gwynedd ac awdurdod cyfagos.

Cwestiynwyd a oes ffordd i ddargyfeirio mwy o adnoddau, bo hynny yn arian neu adnodd arall i gryfhau’r gwasanaeth.  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd, yn dilyn achos o bryderon cynyddol, mai llunio cynllun datblygu gan roi cyfle i’r gwasanaeth sicrhau gwelliannau oedd y cam nesaf.  Nododd ei bod yn rhannu y pryder am y diffyg adnoddau a chyfeiriodd at y bid aflwyddiannus a wnaethpwyd yn 2020/21 am gyllideb i gyflogi staff ychwanegol. Nododd y bydd y cais yn cael ei ail gyflwyno eleni. 

 

Nododd Aelod arall ei bod yn sefyllfa anodd, a bod y ffigyrau yn debyg iawn i’r sefyllfa cyn 2016, ond nododd yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd mai y gwahaniaeth erbyn hyn oedd y berthynas dda gyda darparwyr a thimau ardal a’r swyddogion.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth bod y mater ynglŷn â capasiti yn un sylweddol, er ei fod yn derbyn bod rhannu adnoddau i bob gwasanaeth sydd dan bwysau yn heriol.  Nododd ei fod yn faes lle byddai modd clustnodi arian a dal bod angen mwy, ond adroddodd ei fod yn falch bod arwyddion cynnar o ran pryderon yn cael sylw yn ddi-oed.  Nododd bod adnoddau ar draws yr Adran yn cael eu llyncu pan fo cartref mewn trafferth ac yn tynnu staff i ffwrdd o waith arall.  Nododd bod rhai pethau positif wedi datblygu yn ystod y cyfnod Covid, megis mwy o ymddiriedaeth rhwng yr Adran a’r darparwyr.

 

Nododd bod y newidiadau sydd wedi digwydd ac yn mynd i ddigwydd mewn gofal cartref yn dangos yr angen i fonitro sicrwydd ansawdd yn effeithiol, ond nad oes capasiti i’w wneud yn llawn ar hyn o bryd. Nodwyd nad yw arian dros dro yn cynnig ateb tymor hir.  Nododd ei bod yn bwysig bod yn ymwybodol o waith y tîm, ynghyd ac adborth a dderbynnir gan ddarparwyr, a nododd ei werthfawrogiad bod y tîm yn gwneud pob ymdrech i weithio’n rhagweithiol.

 

Diolchwyd am adroddiad gonest sydd yn codi pryderon, ond hefyd diolchwyd am y

cydweithio da, a’r angen i warchod  y cyd-weithio hwn. 

 

Nododd y Pwyllgor eu bod yno i gefnogi ac y byddai yn dda derbyn diweddariad mewn chwe i naw mis er ei bod yn bryder sut i ddatrys rhai materion. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd bod cyfleon datblygu gyrfa wedi bod oddi fewn i’r Adran  gyda Rheolwr Cartref wedi dod i mewn i’r Tîm, tra bod un aelod o’r tîm wedi symud i fod yn Rheolwr Ardal Darparu.

 

Atgyfnerthodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ei bod yn adroddiad gonest ac y byddai y sylwadau yn cael eu hystyried, ynghyd ac opsiynau oddi fewn i’r Adran.

 

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad, a nodi y pryder am y mater capasiti gyda’r Cabinet a’r awydd i rywbeth gael ei wneud.

 

PENDERFYNWYD  :  

 

1)      Derbyn yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

2)      Nodi pryder am ddiffyg capasiti staff yr uned a’r risgiau allai godi o ran diogelwch a lles unigolion sy’n derbyn gofal, cynaliadwyedd y farchnad a risgiau i’r Cyngor o ganlyniad i hynny.

3)      Y byddai’r Cadeirydd yn anfon e-bost at Aelodau’r Cabinet er mwyn cyfleu pryder y Pwyllgor am y diffyg capasiti staff a’r angen i sicrhau capasiti staff digonol er mwyn cynnig cefnogaeth addas a monitro ansawdd gwasanaethau.

 

Dogfennau ategol: