Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau i fusnesau maes o law.

 

Cofnod:

Croesawyd swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, ar gais y pwyllgor craffu, yn amlinellu pa gefnogaeth mae’r Cyngor yn ei roi i fusnesau, yn arbennig yn sgil y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r pandemig Covid-19.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nododd aelod, o ran cywirdeb, y dylai’r adroddiad gyfeirio at y Deyrnas Gyfunol, yn hytrach na’r Deyrnas Unedig.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod y cynnydd yn nifer yr ymholiadau a cheisiadau am gymorth gan fusnesau dros y 18 mis diwethaf wedi cyflwyno heriau i’r gwasanaeth o ran adnoddau ac o ran ail-gyfeirio a blaenoriaethu’r gwaith.  Hefyd, roedd y gwasanaeth wedi ail-flaenoriaethu mwy tuag at gefnogi a chynnal busnesau i barhau, yn hytrach na datblygu a chreu swyddi o’r newydd, fel yn y gorffennol.  Roedd mwy o fusnesau wedi dod i gyswllt â’r Cyngor yn ystod cyfnod y pandemig nag erioed o’r blaen, ac un o’r pethau cadarnhaol a ddeilliodd o hynny oedd sefydlu’r bwletin busnes, oedd bellach yn mynd allan o leiaf ddwywaith yr wythnos i dros 4,500 o fusnesau’r sir.  Roedd y gwasanaeth hefyd wedi symud tuag at roi cyngor ynglŷn â materion ychydig ehangach o ran arferion da a sut i fabwysiadu technoleg newydd.  Roedd yn rhaid rhoi ymdrech i mewn i’r gwaith o gynnal a sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei dosbarthu, ac roedd y gwasanaeth yn ail-drefnu eu hunain hefyd, gan chwilio am adnoddau trwy law’r Cyngor i’w galluogi i barhau gyda’r gwaith.

·         Na chafwyd sgwrs benodol gyda’r Adran Tai ac Eiddo yn y cyfnod yma o ran cynorthwyo gweithwyr allweddol, ac ati, sy’n symud i mewn i’r ardal i ddod o hyd i rywle i fyw.  Roedd trafodaethau’n mynd ymlaen gyda’r Adran o ran polisïau cynllunio, ac ati, ond roedd angen gwneud mwy o waith ar hynny.  Eglurwyd nad prinder sgiliau oedd y brif gŵyn gan fusnesau ar hyn o bryd, ond prinder pobl i weithio i’r busnesau hynny, ac roedd hynny’n wir ar draws y sectorau.  Cyfeiriwyd at ddarn o waith i geisio cefnogi pobl nad ydynt mewn gwaith i mewn i swyddi mewn meysydd lle mae bylchau, ond roedd graddfa’r broblem yn llawer ehangach nag a fu, a byddai’n rhaid edrych ar hyn yn ehangach gyda phartneriaid eraill, er mwyn cwrdd â lefel y galw presennol.  Nodwyd ymhellach bod dros 120 o bobl wedi cael cymorth drwy’r Tîm Gwaith Gwynedd, ac er nad oedd hyn yn cyfarch y galw yn ei gyfanrwydd, roedd yna weithgaredd sylweddol wedi digwydd.  Hefyd, fe geisiwyd cymryd rhywfaint o gamau bychan, ond ymarferol, i gefnogi busnesau, e.e. drwy hwyluso cael tudalennau ar Facebook, fel bod modd i fusnesau hyrwyddo’r cyfleoedd gwaith sydd ganddynt.

·         Bod cyhoeddiad Llywodraeth Prydain ar y trefniadau grant i’r dyfodol, yn sgil diflaniad arian Ewropeaidd, wedi ei wthio nôl, ond roedd yn debygol y byddai yna ryw fath o gyhoeddiad yn dilyn yr adolygiad ariannol fis nesaf.  Eglurwyd mai’r bwriad oedd cyhoeddi Cronfa Ffyniant Gyffredin, ac er nad oedd y trefniadau wedi’u cadarnhau eto, rhagwelid, yn hytrach na throsglwyddo swm o arian i Lywodraeth Cymru i’w ddyrannu yng Nghymru, y byddai’n rhaid i bob awdurdod ymgeisio’n uniongyrchol am yr arian yma o Lundain.  Disgwylid y byddai yna arian cyfalaf ac arian refeniw, fel yn flaenorol, ond nid oedd yn glir a fyddai’r arian wedi ei gylchu’n benodol i Gymru, er i Lywodraeth Prydain ddweud y byddent yn parhau â’r cytundeb yma, ac y byddwn yn derbyn yn union yr un faint o arian.

·         Bod y gwasanaeth yn bur bryderus am y sefyllfa.  Yn wreiddiol, disgwylid cyhoeddiad, ond ni fu trafod gyda neb ynglŷn â beth fyddai cynnwys y cyhoeddiad hwnnw.  Roedd yn gam ymlaen, o leiaf, bod gennym berthynas a’n bod yn gallu cael trafodaeth ar hyn o bryd i geisio dylanwadu, ond cwestiynid faint o wir ddylanwad oedd hynny mewn gwirionedd.  Unwaith y byddai’r wybodaeth wedi ei chyhoeddi, byddai’r gwasanaeth mewn gwell sefyllfa i’w dadansoddi.  Cafwyd arweiniad i ddisgwyl rhywbeth ar yr un llinellau â’r Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Adfer Cymunedol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ond os mai dyna’r achos, byddai yna gryn le i bryderu.  Awgrymwyd y dylid cyflwyno adroddiad pellach ar hyn i’r pwyllgor i’w graffu pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.

·         Bod y gefnogaeth i fusnesau newydd y cyfeirir ati yn yr adroddiad yn gymorth penodol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau oedd newydd gychwyn pan ddechreuodd y pandemig.  Ymdrechwyd i roi cymorth i fusnesau gychwyn ac i dyfu drwy gyfnod y pandemig.  Ail-gyfeiriwyd sylw ac adnoddau yn ystod y 18 mis diwethaf, nid yn unig gan y Cyngor, ond gan Lywodraeth Cymru hefyd, tuag at gefnogi cynnal a chadw busnesau yn y tymor byr, ond roedd y symudiad yn ôl fwy tuag at gefnogaeth ddatblygol yn dechrau rŵan.  Roedd y galw am arian i ddatblygu neu dyfu wedi parhau’n eithaf cryf drwy gydol y cyfnod, ac yn dal yn rhyfeddol o gryf.

·         O ran cyfeirio pobl tuag at gymorth, anogid pobl i ddod i gyswllt â’r gwasanaeth ac i gofrestru ar gyfer derbyn y bwletin busnes, gan fod hynny’n ffordd dda o fod yn effro i’r cymorth ymarferol a’r grantiau, wrth iddynt ddod ar gael.  Nodwyd bod modd cofrestru drwy wefan y Cyngor, a chytunwyd i gylchredeg cyswllt uniongyrchol at aelodau’r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod, fel bod modd iddynt annog busnesau lleol yn eu hardal i gymryd mantais o’r ddarpariaeth.

·         Eglurwyd bod nifer o gronfeydd yn dal ar gael ar gyfer helpu busnesau i dyfu, ac anogwyd pobl i gysylltu â’r gwasanaeth yn y lle cyntaf.  Yn fwy hirdymor, roedd angen adeiladu ar y cyfathrebu oedd wedi digwydd yn ystod y cyfnod Covid, gan fagu mwy o ymgysylltiad a deialog gyda busnesau, ac roedd yn flaenoriaeth gan y gwasanaeth yn y flwyddyn nesaf i gynyddu’r gallu a’r capasiti i wneud hynny, gan y bu hynny’n heriol yn hanesyddol, oherwydd maint yr adnoddau oedd ar gael.

·         Nad oedd adnoddau’r gwasanaeth yn ddigonol i allu cynnal y berthynas gyda busnesau ar yr un lefel â’r flwyddyn a hanner diwethaf, ac roedd profiad y cyfnod diweddar hwn wedi dangos bod angen cryfhau'r adnodd er mwyn cynnal a chefnogi busnesau mewn mwy o fanylder.

·         Er nad oedd gan y gwasanaeth yr arbenigedd i gynnig cymorth i fusnesau allforio, y gallai’r aelodau gyfeirio unrhyw fusnes yn eu hardal i sylw’r Rheolwr Cefnogi Busnes, fyddai’n dod o hyd i’r arbenigedd ar eu cyfer.

 

Diolchodd y Cadeirydd am yr adroddiad, gan ddymuno bob llwyddiant i’r Adran gyda’r bidiau.

 

Cyn bwrw ei bleidlais ar y mater, holodd y Cynghorydd Mike Stevens a ddylai ddatgan buddiant personol oherwydd bod ganddo fusnes cynhyrchu yng Ngwynedd a’i fod hefyd yn Gadeirydd Siambr Twristiaeth Rhanbarth Tywyn.

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod y cyfle i ddatgan buddiant, dan eitem 2 ar y rhaglen, wedi mynd heibio, ond y byddai’r datgan buddiant yn cael ei nodi ar y pwynt yma.  Ychwanegwyd nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac y gallai’r aelod symud ymlaen i fwrw ei bleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau i fusnesau maes o law.

 

 

Dogfennau ategol: