Agenda item

Adroddiad i ddilyn.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad ar benderfyniad Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn perthynas â Sir Gwynedd. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd, er i’r Cyngor wneud popeth y gallai i sicrhau bod dyheadau’r aelodau yn cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, bod y Llywodraeth wedi anwybyddu’r sylwadau hynny.

·         Nodwyd nad oedd cyfeiriad penodol yn yr adroddiad at rai o wardiau Dwyfor sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau yma, a mynegwyd pryder bod 3 allan o’r 6 sedd sy’n cael ei cholli yn Nwyfor.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr adroddiad gerbron y Cyngor yn gryno iawn, ac yn wybodaeth ddaeth i law yn hwyr iawn yn y dydd, ond bod yr wybodaeth gyflawn ynghlwm iddo, ac ar gael ar y fewnrwyd aelodau hefyd.  Nodwyd bod y swyddogion yn rhannu rhwystredigaeth yr aelodau bod y penderfyniad swyddogol wedi dod mor hwyr yn y dydd, yn enwedig gan fod yr adolygiad wedi’i gynnal ers bron i 3 blynedd, ond bod croeso i unrhyw un gysylltu gyda’r Prif Weithredwr neu’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith i drafod unrhyw ran ohono yn benodol.

·         Mynegwyd rhwystredigaeth fod Ward Bethel yn ymuno â ward arall.  Pwysleisiwyd bod wardiau aml-aelod yn gam yn ôl i ddemocratiaeth ac atebolrwydd a chwestiynwyd y newid, gan fod y drefn bresennol yn gweithio’n iawn, gyda’r etholwyr yn gwybod â phwy i gysylltu.  Nodwyd ymhellach y gobeithid y byddai’r Cyngor yn gallu gwrthod yr adroddiad.  Mewn ymateb, nodwyd y cydymdeimlid â’r sylwadau ac y deellid y rhwystredigaeth ynglŷn â chynnwys y ddogfen, ond bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r aelodau er gwybodaeth yn unig, ac y dylid cyfeirio’r cwestiwn at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

·         Mynegwyd siom aruthrol bod Bangor yn colli 3 sedd a 3 ward ar y Cyngor, a phwysleisiwyd yr angen i gadw, neu hyd yn oed gynyddu, y nifer presennol o gynghorwyr er mwyn cynnal democratiaeth y ddinas.  Fel dinas prifysgol, gydag ychydig iawn o fyfyrwyr yn cofrestru i bleidleisio, roedd demograffi Bangor yn wahanol iawn i rai ardaloedd eraill o’r sir, ac roedd y wardiau newydd a gynigid ar gyfer Bangor yn anferth o ystyried y boblogaeth leol a’r boblogaeth myfyrwyr sy’n byw ynddynt.

·         Nodwyd, fel ardal dwristiaeth gyda nifer uchel o dai haf, bod demograffi rhannau o Ben Llyn hefyd yn wahanol iawn i rannau eraill o’r sir, gan mai ychydig iawn o berchnogion ail gartrefi oedd yn cofrestru i bleidleisio. 

·         Nodwyd y byddai’r pwysau gwaith ar y 69 aelod fydd yn ceisio cyflawni gwaith y 75 aelod presennol yn aruthrol.  Mewn ymateb, nodwyd y byddai yna ofyn, annheg o bosib’, i bawb wneud mwy o waith, a bod hynny’n ofyn na ystyriwyd yn llawn gan y Comisiwn Ffiniau na’r Gweinidog wrth ddod i’w penderfyniad.

·         Awgrymwyd y gallai’r Llywodraeth fod wedi achub ar y cyfle hwn i gyflwyno Cynrychiolaeth Gyfrannol.  Byddai wedyn yn gwneud synnwyr i gael wardiau mwy, a byddai’n ffordd fwy democrataidd o ethol aelodau.  O bosib’ mai un ffordd o ddenu mwy o bobl o gefndiroedd gwahanol ar y Cyngor fyddai drwy dorri ar nifer y cynghorwyr yn sylweddol, a gwneud y swydd cynghorydd yn swydd llawn amser.

·         Croesawyd y penderfyniad i uno Llanfrothen gyda Ward Tremadog i ffurfio etholaeth ‘Glaslyn’ newydd, oherwydd y golygai hynny y byddai’r niferoedd etholwyr yn fwy cyson â Ward Penrhyndeudraeth.  Fodd bynnag, byddai’r aelod dros y ward newydd yn rhan o Bwyllgor Ardal Meirionnydd a Phwyllgor Ardal Dwyfor, ac yn gorfod mynychu cyfarfodydd 4 cyngor cymuned.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Dogfennau ategol: