I
Dderbyn Adroddiad gan y Rheolwr Harbwr Pwllheli
Atodiad 1 – Cymhariaeth Gwynedd i Eraill 2021
Atodiad 2 – Cymhariaeth Cychod Pŵer i Hwylio 2021
Atodiad 3 – Cymhariaeth Ystadegau Cwch ym Mhob Harbwr 2021
Atodiad 4 – Cymhariaeth Ystadegau Cychod Pwllheli 2021
Atodiad 5 – Ystadegau Pwyllgor Harbwr Pwllheli – Hydref 2021
Atodiad 6 – Cyfanswm Cofrestrau Cychod Pwer 2021
Atodiad 7 – Cyfanswm Cofrestrau Beiciau Dwr 2021
Penderfyniad:
(1) Nodi
a derbyn yr adroddiad.
(2)
Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran
Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational
and personal watercraft”:-
i.
Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef
llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a
Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach
1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr
Personol.
ii.
Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i
ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr
hamdden a Badau Dwr Personol
(3)
Hysbysu
defnyddwyr Llithrfa yr Hafan am yr angen i sicrhau bod pob Cwch Hamdden a Bad
Dwr Personol wedi cofrestru gyda Cyngor Gwynedd cyn lansio. Roedd hyn yn sgil
pryderon a godwyd am y defnydd presennol.
Cofnod:
Atgoffwyd Aelodau’r Pwyllgor mai pwrpas y Pwyllgor
oedd rhoi cyfle i godi pryderon a’i bod yn bwysig cael cyfraniadau yr holl randdeiliaid. Yn
sgil hyn, nodwyd y pryder bod nifer o aelodau y Pwyllgor yn absennol.
Cyrff
Allanol
Atgoffwyd Aelodau y Pwyllgor hefyd bod angen iddynt
gyflwyno cofnodion eu cyfarfodydd, ynghyd a chopi o’u cyfansoddiad, er mwyn
cwrdd â’r rheolau, a sicrhau bod y rhestr cynrychiolwyr yn gywir a chyfredol.
Cod
Diogelwch Harbwr
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol at y papur roedd wedi ei gylchreded
ynglŷn â Chod Diogelwch Harbwr, gan nodi fod y papur y rhoi sicrwydd bod rhanddeiliaid yn cydymffurfio a'r Cod, a chyfeiriodd at y
cyfle sydd wedi codi i Aelodau y Pwyllgor fwydo i mewn i’r ymateb. Cadarnhaodd bod dau archwiliad wedi ei wneud
gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a bod yr asesiadau risg yn eu lle ac mewn
trefn.
Adolygiad
Strategol o Hafan a Harbwr
Cadarnhawyd bod Grŵp Gwaith wedi ei sefydlu er
mwyn gallu trafod yr Hafan a Harbwr gyda busnesau lleol a chytuno ar y ffordd
ymlaen, gan fod Pwllheli yn uned hollol bwysig.
Cadarnhawyd mai y nod yw cael Prif Gynllun ar gyfer y dyfodol, i gynnwys
strwythur yr Hafan a Harbwr Pwllheli.
Adolygiad o
waith 2019
Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a
Chymuned ddiweddariad gan nodi fod y Rhaglen wedi bod ar oediad a materion
eraill wedi cymryd blaenoriaeth, ond bod angen ail-afael yn y rhaglen
nawr. Cadarnhaodd bod mesurau tymor byr
wedi eu hadnabod i gynnwys
· Strwythur Mewnol Hafan a Harbwr, yn sgil ymddeoliad
Rheolwr Cynorthwyol yr Hafan
· Materion eiddo, cyfreithiol, ariannol sydd o dan
reolaeth yr Hafan ac yr Harbwr
· Comisiynu Prif Gynllun i adnabod y weledigaeth
· Strategaeth Carthu ac Ymdrin â’r gwaddod
· Paratoi Strategaeth Buddsoddi yr Hafan a Harbwr ar
gyfer y tymor byr, hir a chanolig
Cadarnhawyd y bydd
diweddariad ar gael yn y cyfarfod nesaf.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag amseriad newid mewn rheolaeth, cadarnhawyd ei bod yn
hynod bwysig bod y gwasanaeth yn parhau ac nad oes unrhyw newid i’r gwasanaeth,
ac mai newidiadau gweinyddol y byddent er mwyn gwella y gwasanaeth. Nodwyd nad oedd swydd Rheolwr Cynorthwyol yr
Hafan wedi ei llenwi. Y weledigaeth yw y byddai rhywun wedi ei benodi i'r swydd
Rheolwr Masnachol a Busnes Harbwr Pwllheli a bod y swyddog newydd yn y swydd
erbyn Mawrth 2022. Cadarnhawyd bod yr
amser wedi dod i gymryd golwg strategol ar Hafan a Harbwr a symud ymlaen i
gynnig gwell gwasanaeth.
Holiwyd a oedd
cynlluniau ar gyfer yr Hen Glwb Hwylio a chadarnhawyd bod yr adeilad o dan
Reolaeth Plas Heli a’r gobaith fyddai cydweithio gyda Phlas Heli gydag unrhyw
gynllun. Ategwyd yr angen i drafod cyn
gynted â phosib, a chadarnhawyd fod y Clwb Hwylio wedi gosod ‘Portacabin’ ar y safle ar gyfer defnydd Bwrdd Iechyd Betsi
Cadwaladr a defnydd i blant ar gyfer gwersi 1 i 1, ai fod wedi bod yn adnodd
defnyddiol yn sgil cau Canolfan Frondeg. Cadarnhawyd y dymuniad hir dymor i’w weld yn
cael defnydd fyddai a chyswllt morwrol.
Ymgyrch Carthu
Cadarnhawyd bod yr
ymgyrch carthu wedi oedi oherwydd y sefyllfa Covid.
Cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn fwriad i garthu ceg yr harbwr tua mis
Ebrill 2022. Mae pryder yn parhau ynglŷn â lleihad y defnydd allai gael ei
garthu allan o geg yr Harbwr mewn cyfnod byr oherwydd y llanw.
Cadarnhawyd y bydd
cwmni Royal Small yn carthu
Doc Fictoria tan ddiwedd Hydref/dechrau Tachwedd ac yna ym Mhwllheli
yr ail wythnos o Dachwedd. Bydd gwaith
yn cael ei wneud ar garthu y sianel, asesu llaid yn y pontŵn a capasiti a’r bwnd
distyllu. Cadarnhawyd eu bod wedi
treialu defnyddio carthwr yn agosach i geg yr harbwr, ond bod cwpwl o broblemau
wedi codi, megis cerrig mawr wedi dod i mewn. Fe fydd treialon yn cael ei
gwneud ar garthu rhan o’r sianel drwy arllwys y tywod yn ardal y domen dywod
ger Craig yr Imbill.
Cafwyd trafodaeth
ar ddulliau eraill o garthu, megis ei roi mewn bagiau i’w sychu a’i ddanfon o’r
safle mewn lori, ond cadarnhawyd ei bod yn anodd gwaredu y llaid ac y bydd hyn
yn broblem hir dymor. Cadarnhawyd y bydd
y cytundeb gyda Jones Brothers ar gyfer gwaith ar geg yr Harbwr yn parhau
flwyddyn nesaf. Nodwyd y bydd y gwaith
carthu gan ddefnyddio sugnydd wedi ei gwblhau erbyn
canol Rhagfyr pe na fyddai yna gyfyngiadau Covid
pellach, ac yn sgil hyn y bydd arolwg hydrograffeg y cael ei gynnal i fesur
llwyddiant ac y bydd yr ymgyrch nesaf o gwmpas y pontŵn yn cael ei wneud
tua Gwanwyn 2023.
Mewn ymateb i’r
uchod, tynnwyd sylw at y banc o dywod sydd yn erbyn Iard Gychod
Llyn Marine lle nad oes llawer o ddŵr, a holiwyd a yw yn cael sylw?
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod yr Uned Forwrol wedi adnabod
ardaloedd i’w targedu ble mae y sianel yn dod yn ôl yn ddyfnach.
Cwestiynwyd a oedd
gwahaniaeth i’w weld gyda Morglawdd Y Crud. Mewn ymateb adroddwyd bod yna
debygrwydd bod yna bar tywod yn cael ei greu yn dilyn y gwaith. Cadarnhawyd bod
y morglawdd newydd llawer cryfach na’r morglawdd blaenorol, ac awgrymwyd
efallai y byddai modd gwneud arolwg topograffig i fesur maint y tywod sydd yn
disgyn i'r dwyrain o’r morglawdd.
Cadarnhawyd hefyd yn dilyn arolwg lluniau o’r awyr fod yna newid yng
ngheg yr harbwr.
Yn sgil y
cadarnhad o’r gwaith bydd Jones Brothers yn ei wneud ar geg yr afon, gan y bydd
rhan o’r cynllun ym mynd mor bell â phosib, nodwyd bod eisiau creu bwced i
adael y tywod ddisgyn iddo fel na fydd yn cael ei gario i fewn i'r harbwr. Awgrymwyd y byddai yr asesiadau priodol yn
dangos beth sydd yn bosib.
Diolchwyd am gael
golwg ar yr arolygon hydrograffeg.
Cadarnhawyd y bydd angen symud y cychod pe byddai modd carthu oddi
amgylch y pontwn ac nad yw hyn yn broblem, er ei bod
yn bosib carthu yr ardal rhwng y prif pontwn heb
symud cychod os bydd angen.
Materion Ariannol
Yn anffodus, nid
oedd y wybodaeth ariannol wedi ei rannu ymlaen llaw, ond rhagwelwyd y bydd
£259,121 yn cael ei ddanfon i’r gronfa. Adroddwyd bod y Gwasanaeth yn rhagweld
gwariant yn yr harbwr yn £18,666 llai wariant.
Cadarnhawyd er bod y sefyllfa yn edrych yn iach, bod hanner y flwyddyn
dal i ddod.
Ffioedd a Thaliadau
Cyfeiriwyd at y
sefyllfa o ran codiadau mewn pris nwy a thrydan, a’r angen i gadw llygaid ar y sefyllfa. Nodwyd yr angen i fod yn ofalus a chadw mewn
cof yr angen am arian tuag at gostau ychwanegol posib.
O ran ffioedd a
thaliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf, cadarnhawyd bod angen trafod ymhellach sut
i symud y mater yn ei flaen. Cadarnhawyd
bod unrhyw gynnydd mewn cost yn effeithio ar gadw cwsmeriaid a denu cwsmeriaid
newydd. Nodwyd y gobaith o gadw unrhyw
gynnydd mewn ffioedd cyn ised â phosib a bydd modd rhoi ystyriaeth well pan
fydd y ffigwr chwyddiant ar gael.
Yn dilyn yr uchod,
nodwyd ymhellach
· Bod y ffigyrau angorfeydd yn llawer gwell na’r
disgwyl, ond bod rhaid gwneud ymdrech nerthol i gadw cymaint o’r incwm hwn a
phosib yn Harbwr a Hafan
· Mae newid mewn rheolaeth ar y gweill flwyddyn nesaf o
ran TAW ar ddod a chychod yn ôl i’r Wlad hon, cyfeiriwyd ato fel difidend Brexit, a holiwyd am wybodaeth bellach.
· Gyda phrisiau tanwydd yn cynyddu efallai byddai modd
cynnwys paneli solar yn yr Hafan fel gôl tymor hir yn y Prif Gynllun
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Morwrol
bydd materion TAW yn cael effaith, megis costau uwch a chadarnhaodd yr angen i
drafod ymhellach gydag arbenigwyr TAW y Cyngor
Croesawyd y cysyniad o fonws teyrngarwch.
Adroddiad
Rheolwr Hafan
Trinity House
Cadarnhawyd bod ymchwiliad wedi ei wneud gan
Trinity House a bod popeth
yn dderbyniol, ac nad oedd Rhybudd i Forwyr yn
gyfredol ar hyn o bryd.
Cei
Tanwydd
Cadarnhawyd bod gwerthiant petrol ar gynnydd
sylweddol, gyda y drefn hunanwasanaeth cei tanwydd wedi bod yn wych. Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo i
edrych ar y sefyllfa disel yn sgil y newidiadau, ond nad oedd mwy o wybodaeth
wedi dod i law gan CaT EM, ond rhaid cadw mewn cof
efallai y bydd yn dod i ben Ebrill 2022.
O ran y sefyllfa petrol, cadarnhawyd bod mwy
o stoc, gyda E10 ynddo, a chadarnhawyd bod rhybudd wedi ei gyflwyno i
berchenogion cychod o’r angen i fod yn ofalus.
Cadarnhawyd hefyd bod un o’r pympiau yn ddeg oed a bod cynlluniau ar y
gweill i’w newid yn fuan iawn yn 2022.
Cofrestru
Cychod
Mae y drefn o gofrestru cychod ar lein yn
gweithio yn dda ac yn arbed llawer o waith papur.
Llithrfa
Cadarnhawyd bod cynnydd wedi bod o’r
flwyddyn 2019, oedd yn 299 o breswylwyr blynyddol i 378 yn 2020. Yn ychwanegol, bu nifer y cychod ymwelwyr yn
dda iawn hefyd. Mynegwyd pryder a siom enfawr fod cwmnïau Parcio a Lansio ddim
yn cydymffurfio a rheoliadau’r harbwr a rheoliadau’r Cyngor mewn perthynas â
chofrestru cychod a Badau Dwr Personol.
Yn ystod y tymor roedd nifer fawr o gychod a
Badau Dwr Personol yn cael ei lansio heb fod y llestr wedi cofrestru gyda’r
Cyngor. Roedd agwedd y rhai a oedd yn lansio’r cychod yn negyddol tuag at staff
ac nid oedd hyn yn dderbyniol. Ar gyfer 2022 fe fydd y Cyngor yn codi’r ffi ac
yn cryfhau diogelwch ar y safle drwy osod rhwystr ar y fynedfa a drwy benodi
swyddog gyda chyfrifoldeb am sicrhau bod pob cwch a ddefnyddir harbwr Pwllheli
wedi cofrestru gyda’r Cyngor.
Storio
Cychod
Cyfeiriwyd at y prinder lle ar y lan ar
gyfer storio cychod, ond bod y cynnig cyntaf yn cael ei roi i’r deiliaid
angorfa blynyddol yr Hafan a Harbwr Allanol i storio cychod ar y lan, a nodwyd
bod hwn yn gweithio yn dda ac yn cael ei werthfawrogi.
Staffio
Yn dilyn colli aelod o staff yn ystod yr
haf, hysbyswyd y swydd dymhorol ond ni fu i’r hysbyseb dderbyn nifer o
ymgeiswyr. Tra bod un o’r cymhorthion tymhorol eisoes wedi gadael canol yr haf,
mae dau wedi parhau i weithio yn yr Hafan drwy gydol y tymor a rhagwelir y
byddent yn cael eu cadw ymlaen dros y gaeaf.
Yn dilyn y diweddariad ymatebwyd fel a
ganlyn :
·
Roedd y rhanddeiliaid yn falch o weld y diffibiwlwr
yn ei le
·
Mae Plas Heli
wedi gweld twf yn y niferoedd sydd yn
gwneud ymholiadau, a nodwyd bod y sustem gyfrifiadurol i gymryd archebion mewn
lle, a bo cydweithio da gyda yr Hafan.
·
Mae pryder am y
llithrfa a llawer yn anwybyddu y rheoliadau a’r rheolaeth
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Morwrol
at yr adroddiad gan ddiolch i staff yr Hafan.
Cadarnhawyd bod y sustem ddiogelwch wedi ei newid, tra bod trafodaeth ar
y gweill gyda Phlas Heli i drafod materion parcio ac o bosib gosod rhwystrau
electroneg.
Adroddiad Ffioedd a Thaliadau Parcio a
Lansio
Adroddwyd ar faterion ffioedd a thaliadau, a
dwy flynedd yn ôl, sylweddolwyd bod y ffi ddim yn gyfraniad teg o gwbl. Yn dilyn cefnogaeth y Pwyllgor i’r adroddiad
ar ffioedd, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag Aelodau Cyngor
Gwynedd, ynglŷn â thalu llai ar y sicrwydd bod pob cwmni cwch yn sicrhau
bod pawb yn cofrestru cychod.
Adroddwyd nad oedd unrhyw gydweithrediad o
gwbl wedi digwydd, gyda y drefn gofrestru yn cael ei hanwybyddu, a sgil-effaith
hyn oedd ei bod yn amhosib adrodd ar berchnogaeth cychod. Nodwyd yr angen felly nawr i ail-edrych ar y
trefniadau, ac mai un o’r opsiynau fyddai cynyddu y ffi yn sylweddol neu osod
rhwystr ar ben yr Hafan. Tynnwyd sylw y
Pwyllgor at yr hyn oedd fod i ddigwydd o’i gymharu â’r hyn a fu ddigwydd. Atgyfnerthwyd y sylw gan nodi fod agwedd hyll
tuag at staff gan rai at barcio a lansio a’r siomedigaeth o amgylch hyn, yn
enwedig gan fo cytundeb wedi ei wneud a chadarnhawyd bod yn rhaid cymryd y
camau priodol. Nodwyd y teimlad mai yr
un cwsmeriaid sydd yn creu problemau parcio, gan barcio ar balmentydd ac
ardaloedd gwyrdd. Gresynwyd nad oedd
presenoldeb yn y cyfarfod o Barcio a Lansio. Nodwyd mai yn Llithrfa Hafan
Pwllheli mae y problem ac nid yn yr Harbwr Allanol.
O ran y parcio, cadarnhawyd bod modd parcio
300 o gychod rhwng 5 cwmni a bod gan bob cwmni eu compound ond bod dim lle yn y compound
oherwydd y gofyn. Nodwyd y dylai fod gan
y cwmnïau le parcio cerbydau ei hunain a nodwyd bod yn rhaid i neges i’r perwyl
hwn gael ei rhannu ac yna adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn.
O ran y ffi, cadarnhawyd ei fod yn sylweddol
isel wrth gymharu ag eraill gydag unigolyn preifat yn talu £150 y tymor. Nodwyd yr angen i sicrhau bod cychod wedi eu
cofrestru gan ei bod yn sefyllfa annheg ar staff.
Cadarnhawyd bod Plas Heli yn awyddus i
gydweithio gyda y Cyngor, ond bod unrhyw ateb i’r sefyllfa parcio angen dod gan
yr holl randdeiliaid.
Efallai bydd modd dod i gytundeb gyda Phlas Heli gan y byddai unrhyw
incwm i Blas Heli yn dderbyniol. Nododd
y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod cwmnïau yn ymwybodol o’r teimladau a bod
pryder wedi ei ddatgan.
Ymgynghoriaeth ar y Defnydd o
Fadau Dwr
Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriaeth
oedd eisoes wedi ei rannu a nodwyd y byddai y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn
gwerthfawrogi sylwadau neu farn neu argymhelliad aelodau y Pwyllgor erbyn y
dyddiad cau 1/11. Cadarnhawyd mai Opsiwn
3 oedd argymhelliad y llywodraeth.
Teimlad y Pwyllgor oedd bod is-ddeddfau
digonol ar gael ai fod o bosib ddim yn gwneud fawr o wahaniaeth, er bod y
cysyniad o gryfhau y rheoliadau yn cael ei gefnogi.
Cadarnhawyd bod rhai rhanddeiliaid
wedi gofyn am farn eraill, a rhai am wneud sylwadau unigol. Diolchwyd am gefnogaeth y Pwyllgor ac
atgoffwyd pawb i gysylltu os oes mater yn codi rhwng cyfarfodydd.
PENDERFYNWYD :
(1) Nodi a derbyn yr adroddiad.
(2) Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft” :
i.
Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan
Adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn
darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i
gynnwys Badau Dŵr Hamdden a Badau Dwr Personol.
ii.
Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am
godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru Badau Dŵr Hamdden a Badau Dwr Personol
(3) Hysbysu defnyddwyr Llithrfa yr Hafan am
yr angen i sicrhau bod pob Cwch Hamdden a Bad Dwr Personol wedi cofrestru gyda
Chyngor Gwynedd cyn lansio. Roedd hyn yn sgil pryderon a godwyd am y defnydd
presennol.
Unrhyw
Fater Arall
·
Hysbyswyd y
Pwyllgor am ddigwyddiad mawr gan RWE Cymru a’r cyfle ddaw i ddangos beth sydd
gan Ogledd Cymru i’w gynnig a’r dymuniad i’w wneud yn brofiad gwerth chweil.
·
Adroddwyd bod cwt
newydd y Bad Achub yn siapio a bod y Cwch ar waith. Nodwyd hefyd bod chwe aelod arall wedi ei
recriwtio i’r tîm.
Diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau
gwerthfawr.
Dogfennau ategol: