Agenda item

I Dderbyn Adroddiad gan y Rheolwr Harbwr Pwllheli

 

Atodiad 1 – Cymhariaeth Gwynedd i Eraill 2021

Atodiad 2 – Cymhariaeth Cychod Pŵer i Hwylio 2021

Atodiad 3 – Cymhariaeth Ystadegau Cwch ym Mhob Harbwr 2021

Atodiad 4 – Cymhariaeth Ystadegau Cychod Pwllheli 2021

Atodiad 5 – Ystadegau Pwyllgor Harbwr Pwllheli – Hydref 2021

Atodiad 6 – Cyfanswm Cofrestrau Cychod Pwer 2021

Atodiad 7 – Cyfanswm Cofrestrau Beiciau Dwr 2021

 

Penderfyniad:

(1)  Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

(2)   Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

i.                Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.

ii.              Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol

 

(3)   Hysbysu defnyddwyr Llithrfa yr Hafan am yr angen i sicrhau bod pob Cwch Hamdden a Bad Dwr Personol wedi cofrestru gyda Cyngor Gwynedd cyn lansio. Roedd hyn yn sgil pryderon a godwyd am y defnydd presennol.

 

Cofnod:

Atgoffwyd Aelodau’r Pwyllgor mai pwrpas y Pwyllgor oedd rhoi cyfle i godi pryderon a’i bod yn bwysig cael cyfraniadau yr holl randdeiliaid.  Yn sgil hyn, nodwyd y pryder bod nifer o aelodau y Pwyllgor yn absennol.  

 

 

 

 

Cyrff Allanol

Atgoffwyd Aelodau y Pwyllgor hefyd bod angen iddynt gyflwyno cofnodion eu cyfarfodydd, ynghyd a chopi o’u cyfansoddiad, er mwyn cwrdd â’r rheolau, a sicrhau bod y rhestr cynrychiolwyr yn gywir a chyfredol.

 

Cod Diogelwch Harbwr

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth  Morwrol at y papur roedd wedi ei gylchreded ynglŷn â Chod Diogelwch Harbwr, gan nodi fod y papur y rhoi sicrwydd bod rhanddeiliaid yn cydymffurfio a'r Cod, a chyfeiriodd at y cyfle sydd wedi codi i Aelodau y Pwyllgor fwydo i mewn i’r ymateb.  Cadarnhaodd bod dau archwiliad wedi ei wneud gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a bod yr asesiadau risg yn eu lle ac mewn trefn.

 

Adolygiad Strategol o Hafan a Harbwr

Cadarnhawyd bod Grŵp Gwaith wedi ei sefydlu er mwyn gallu trafod yr Hafan a Harbwr gyda busnesau lleol a chytuno ar y ffordd ymlaen, gan fod Pwllheli yn uned hollol bwysig.  Cadarnhawyd mai y nod yw cael Prif Gynllun ar gyfer y dyfodol, i gynnwys strwythur yr Hafan a Harbwr Pwllheli.

 

Adolygiad o waith 2019

Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned ddiweddariad gan nodi fod y Rhaglen wedi bod ar oediad a materion eraill wedi cymryd blaenoriaeth, ond bod angen ail-afael yn y rhaglen nawr.  Cadarnhaodd bod mesurau tymor byr wedi eu hadnabod i gynnwys

 

·       Strwythur Mewnol Hafan a Harbwr, yn sgil ymddeoliad Rheolwr Cynorthwyol yr Hafan

·       Materion eiddo, cyfreithiol, ariannol sydd o dan reolaeth yr Hafan ac yr Harbwr

·       Comisiynu Prif Gynllun i adnabod y weledigaeth

·       Strategaeth Carthu ac Ymdrin â’r gwaddod

·       Paratoi Strategaeth Buddsoddi yr Hafan a Harbwr ar gyfer y tymor byr, hir a chanolig

 

Cadarnhawyd y bydd diweddariad ar gael yn y cyfarfod nesaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amseriad newid mewn rheolaeth, cadarnhawyd ei bod yn hynod bwysig bod y gwasanaeth yn parhau ac nad oes unrhyw newid i’r gwasanaeth, ac mai newidiadau gweinyddol y byddent er mwyn gwella y gwasanaeth.  Nodwyd nad oedd swydd Rheolwr Cynorthwyol yr Hafan wedi ei llenwi. Y weledigaeth yw y byddai rhywun wedi ei benodi i'r swydd Rheolwr Masnachol a Busnes Harbwr Pwllheli a bod y swyddog newydd yn y swydd erbyn Mawrth 2022.  Cadarnhawyd bod yr amser wedi dod i gymryd golwg strategol ar Hafan a Harbwr a symud ymlaen i gynnig gwell gwasanaeth.

 

Holiwyd a oedd cynlluniau ar gyfer yr Hen Glwb Hwylio a chadarnhawyd bod yr adeilad o dan Reolaeth Plas Heli a’r gobaith fyddai cydweithio gyda Phlas Heli gydag unrhyw gynllun.  Ategwyd yr angen i drafod cyn gynted â phosib, a chadarnhawyd fod y Clwb Hwylio wedi gosod ‘Portacabin’ ar y safle ar gyfer defnydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a defnydd i blant ar gyfer gwersi 1 i 1, ai fod wedi bod yn adnodd defnyddiol yn sgil cau Canolfan Frondeg.  Cadarnhawyd y dymuniad hir dymor i’w weld yn cael defnydd fyddai a chyswllt morwrol.

 

Ymgyrch Carthu

Cadarnhawyd bod yr ymgyrch carthu wedi oedi oherwydd y sefyllfa Covid. Cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn fwriad i garthu ceg yr harbwr tua mis Ebrill 2022. Mae pryder yn parhau ynglŷn â lleihad y defnydd allai gael ei garthu allan o geg yr Harbwr mewn cyfnod byr oherwydd y llanw.

 

Cadarnhawyd y bydd cwmni Royal Small yn carthu Doc Fictoria tan ddiwedd Hydref/dechrau Tachwedd ac yna ym Mhwllheli yr ail wythnos o Dachwedd.  Bydd gwaith yn cael ei wneud ar garthu y sianel, asesu llaid yn y pontŵn  a capasiti a’r bwnd distyllu.  Cadarnhawyd eu bod wedi treialu defnyddio carthwr yn agosach i geg yr harbwr, ond bod cwpwl o broblemau wedi codi, megis cerrig mawr wedi dod i mewn. Fe fydd treialon yn cael ei gwneud ar garthu rhan o’r sianel drwy arllwys y tywod yn ardal y domen dywod ger Craig yr Imbill.

 

Cafwyd trafodaeth ar ddulliau eraill o garthu, megis ei roi mewn bagiau i’w sychu a’i ddanfon o’r safle mewn lori, ond cadarnhawyd ei bod yn anodd gwaredu y llaid ac y bydd hyn yn broblem hir dymor.  Cadarnhawyd y bydd y cytundeb gyda Jones Brothers ar gyfer gwaith ar geg yr Harbwr yn parhau flwyddyn nesaf.  Nodwyd y bydd y gwaith carthu gan ddefnyddio sugnydd wedi ei gwblhau erbyn canol Rhagfyr pe na fyddai yna gyfyngiadau Covid pellach, ac yn sgil hyn y bydd arolwg hydrograffeg y cael ei gynnal i fesur llwyddiant ac y bydd yr ymgyrch nesaf o gwmpas y pontŵn yn cael ei wneud tua Gwanwyn 2023.

 

Mewn ymateb i’r uchod, tynnwyd sylw at y banc o dywod sydd yn erbyn Iard Gychod Llyn Marine lle nad oes llawer o ddŵr, a holiwyd a yw yn cael sylw? Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod yr Uned Forwrol wedi adnabod ardaloedd i’w targedu ble mae y sianel yn dod yn ôl yn ddyfnach.

 

Cwestiynwyd a oedd gwahaniaeth i’w weld gyda Morglawdd Y Crud. Mewn ymateb adroddwyd bod yna debygrwydd bod yna bar tywod yn cael ei greu yn dilyn y gwaith. Cadarnhawyd bod y morglawdd newydd llawer cryfach na’r morglawdd blaenorol, ac awgrymwyd efallai y byddai modd gwneud arolwg topograffig i fesur maint y tywod sydd yn disgyn i'r dwyrain o’r morglawdd.  Cadarnhawyd hefyd yn dilyn arolwg lluniau o’r awyr fod yna newid yng ngheg yr harbwr. 

 

Yn sgil y cadarnhad o’r gwaith bydd Jones Brothers yn ei wneud ar geg yr afon, gan y bydd rhan o’r cynllun ym mynd mor bell â phosib, nodwyd bod eisiau creu bwced i adael y tywod ddisgyn iddo fel na fydd yn cael ei gario i fewn i'r harbwr.  Awgrymwyd y byddai yr asesiadau priodol yn dangos beth sydd yn bosib.

 

Diolchwyd am gael golwg ar yr arolygon hydrograffeg.  Cadarnhawyd y bydd angen symud y cychod pe byddai modd carthu oddi amgylch y pontwn ac nad yw hyn yn broblem, er ei bod yn bosib carthu yr ardal rhwng y prif pontwn heb symud cychod os bydd angen.

 

Materion Ariannol

Yn anffodus, nid oedd y wybodaeth ariannol wedi ei rannu ymlaen llaw, ond rhagwelwyd y bydd £259,121 yn cael ei ddanfon i’r gronfa. Adroddwyd bod y Gwasanaeth yn rhagweld gwariant yn yr harbwr yn £18,666 llai wariant.  Cadarnhawyd er bod y sefyllfa yn edrych yn iach, bod hanner y flwyddyn dal i ddod.

 

Ffioedd a Thaliadau

Cyfeiriwyd at y sefyllfa o ran codiadau mewn pris nwy a thrydan, a’r angen i gadw llygaid ar y sefyllfa.  Nodwyd yr angen i fod yn ofalus a chadw mewn cof yr angen am arian tuag at gostau ychwanegol posib.

 

O ran ffioedd a thaliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf, cadarnhawyd bod angen trafod ymhellach sut i symud y mater yn ei flaen.  Cadarnhawyd bod unrhyw gynnydd mewn cost yn effeithio ar gadw cwsmeriaid a denu cwsmeriaid newydd.  Nodwyd y gobaith o gadw unrhyw gynnydd mewn ffioedd cyn ised â phosib a bydd modd rhoi ystyriaeth well pan fydd y ffigwr chwyddiant ar gael. 

 

Yn dilyn yr uchod, nodwyd ymhellach

 

·       Bod y ffigyrau angorfeydd yn llawer gwell na’r disgwyl, ond bod rhaid gwneud ymdrech nerthol i gadw cymaint o’r incwm hwn a phosib yn Harbwr a Hafan

·       Mae newid mewn rheolaeth ar y gweill flwyddyn nesaf o ran TAW ar ddod a chychod yn ôl i’r Wlad hon, cyfeiriwyd ato fel difidend Brexit, a holiwyd am wybodaeth bellach.

·       Gyda phrisiau tanwydd yn cynyddu efallai byddai modd cynnwys paneli solar yn yr Hafan fel gôl tymor hir yn y Prif Gynllun

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Morwrol bydd materion TAW yn cael effaith, megis costau uwch a chadarnhaodd yr angen i drafod ymhellach gydag arbenigwyr TAW y Cyngor

Croesawyd y cysyniad o fonws teyrngarwch.

 

Adroddiad Rheolwr Hafan

Trinity House

Cadarnhawyd bod ymchwiliad wedi ei wneud gan Trinity House a bod popeth yn dderbyniol, ac nad oedd Rhybudd i Forwyr yn gyfredol ar hyn o bryd.

 

Cei Tanwydd

Cadarnhawyd bod gwerthiant petrol ar gynnydd sylweddol, gyda y drefn hunanwasanaeth cei tanwydd wedi bod yn wych.  Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar y sefyllfa disel yn sgil y newidiadau, ond nad oedd mwy o wybodaeth wedi dod i law gan CaT EM, ond rhaid cadw mewn cof efallai y bydd yn dod i ben Ebrill 2022.

 

O ran y sefyllfa petrol, cadarnhawyd bod mwy o stoc, gyda E10 ynddo, a chadarnhawyd bod rhybudd wedi ei gyflwyno i berchenogion cychod o’r angen i fod yn ofalus.  Cadarnhawyd hefyd bod un o’r pympiau yn ddeg oed a bod cynlluniau ar y gweill i’w newid yn fuan iawn yn 2022.

 

Cofrestru Cychod

Mae y drefn o gofrestru cychod ar lein yn gweithio yn dda ac yn arbed llawer o waith papur.

 

Llithrfa

Cadarnhawyd bod cynnydd wedi bod o’r flwyddyn 2019, oedd yn 299 o breswylwyr blynyddol i 378 yn 2020.  Yn ychwanegol, bu nifer y cychod ymwelwyr yn dda iawn hefyd. Mynegwyd pryder a siom enfawr fod cwmnïau Parcio a Lansio ddim yn cydymffurfio a rheoliadau’r harbwr a rheoliadau’r Cyngor mewn perthynas â chofrestru cychod a Badau Dwr Personol.  Yn ystod y tymor roedd nifer fawr o gychod a Badau Dwr Personol yn cael ei lansio heb fod y llestr wedi cofrestru gyda’r Cyngor. Roedd agwedd y rhai a oedd yn lansio’r cychod yn negyddol tuag at staff ac nid oedd hyn yn dderbyniol. Ar gyfer 2022 fe fydd y Cyngor yn codi’r ffi ac yn cryfhau diogelwch ar y safle drwy osod rhwystr ar y fynedfa a drwy benodi swyddog gyda chyfrifoldeb am sicrhau bod pob cwch a ddefnyddir harbwr Pwllheli wedi cofrestru gyda’r Cyngor.

 

Storio Cychod

Cyfeiriwyd at y prinder lle ar y lan ar gyfer storio cychod, ond bod y cynnig cyntaf yn cael ei roi i’r deiliaid angorfa blynyddol yr Hafan a Harbwr Allanol i storio cychod ar y lan, a nodwyd bod hwn yn gweithio yn dda ac yn cael ei werthfawrogi.

 

Staffio

Yn dilyn colli aelod o staff yn ystod yr haf, hysbyswyd y swydd dymhorol ond ni fu i’r hysbyseb dderbyn nifer o ymgeiswyr. Tra bod un o’r cymhorthion tymhorol eisoes wedi gadael canol yr haf, mae dau wedi parhau i weithio yn yr Hafan drwy gydol y tymor a rhagwelir y byddent yn cael eu cadw ymlaen dros y gaeaf.

 

Yn dilyn y diweddariad ymatebwyd fel a ganlyn :

 

·       Roedd y rhanddeiliaid yn falch o weld y diffibiwlwr yn ei le

·       Mae Plas Heli wedi gweld twf yn y  niferoedd sydd yn gwneud ymholiadau, a nodwyd bod y sustem gyfrifiadurol i gymryd archebion mewn lle, a bo cydweithio da gyda yr Hafan.

·       Mae pryder am y llithrfa a llawer yn anwybyddu y rheoliadau a’r rheolaeth

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Morwrol at yr adroddiad gan ddiolch i staff yr Hafan.  Cadarnhawyd bod y sustem ddiogelwch wedi ei newid, tra bod trafodaeth ar y gweill gyda Phlas Heli i drafod materion parcio ac o bosib gosod rhwystrau electroneg.

 

Adroddiad Ffioedd a Thaliadau Parcio a Lansio

Adroddwyd ar faterion ffioedd a thaliadau, a dwy flynedd yn ôl, sylweddolwyd bod y ffi ddim yn gyfraniad teg o gwbl.  Yn dilyn cefnogaeth y Pwyllgor i’r adroddiad ar ffioedd, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag Aelodau Cyngor Gwynedd, ynglŷn â thalu llai ar y sicrwydd bod pob cwmni cwch yn sicrhau bod pawb yn cofrestru cychod. 

 

Adroddwyd nad oedd unrhyw gydweithrediad o gwbl wedi digwydd, gyda y drefn gofrestru yn cael ei hanwybyddu, a sgil-effaith hyn oedd ei bod yn amhosib adrodd ar berchnogaeth cychod.  Nodwyd yr angen felly nawr i ail-edrych ar y trefniadau, ac mai un o’r opsiynau fyddai cynyddu y ffi yn sylweddol neu osod rhwystr ar ben yr Hafan.  Tynnwyd sylw y Pwyllgor at yr hyn oedd fod i ddigwydd o’i gymharu â’r hyn a fu ddigwydd.  Atgyfnerthwyd y sylw gan nodi fod agwedd hyll tuag at staff gan rai at barcio a lansio a’r siomedigaeth o amgylch hyn, yn enwedig gan fo cytundeb wedi ei wneud a chadarnhawyd bod yn rhaid cymryd y camau priodol.  Nodwyd y teimlad mai yr un cwsmeriaid sydd yn creu problemau parcio, gan barcio ar balmentydd ac ardaloedd gwyrdd.  Gresynwyd nad oedd presenoldeb yn y cyfarfod o Barcio a Lansio. Nodwyd mai yn Llithrfa Hafan Pwllheli mae y problem ac nid yn yr Harbwr Allanol.

 

O ran y parcio, cadarnhawyd bod modd parcio 300 o gychod rhwng 5 cwmni a bod gan bob cwmni eu compound ond bod dim lle yn y compound oherwydd y gofyn.  Nodwyd y dylai fod gan y cwmnïau le parcio cerbydau ei hunain a nodwyd bod yn rhaid i neges i’r perwyl hwn gael ei rhannu ac yna adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn.

 

O ran y ffi, cadarnhawyd ei fod yn sylweddol isel wrth gymharu ag eraill gydag unigolyn preifat yn talu £150 y tymor.  Nodwyd yr angen i sicrhau bod cychod wedi eu cofrestru gan ei bod yn sefyllfa annheg ar staff.

 

Cadarnhawyd bod Plas Heli yn awyddus i gydweithio gyda y Cyngor, ond bod unrhyw ateb i’r sefyllfa parcio angen dod gan yr holl randdeiliaid.  Efallai bydd modd dod i gytundeb gyda Phlas Heli gan y byddai unrhyw incwm i Blas Heli yn dderbyniol.  Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod cwmnïau yn ymwybodol o’r teimladau a bod pryder wedi ei ddatgan.

 

Ymgynghoriaeth ar y Defnydd o Fadau Dwr

Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriaeth oedd eisoes wedi ei rannu a nodwyd y byddai y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn gwerthfawrogi sylwadau neu farn neu argymhelliad aelodau y Pwyllgor erbyn y dyddiad cau 1/11.  Cadarnhawyd mai Opsiwn 3 oedd argymhelliad y llywodraeth.

 

Teimlad y Pwyllgor oedd bod is-ddeddfau digonol ar gael ai fod o bosib ddim yn gwneud fawr o wahaniaeth, er bod y cysyniad o gryfhau y rheoliadau yn cael ei gefnogi.

 

Cadarnhawyd bod rhai rhanddeiliaid wedi gofyn am farn eraill, a rhai am wneud sylwadau unigol.  Diolchwyd am gefnogaeth y Pwyllgor ac atgoffwyd pawb i gysylltu os oes mater yn codi rhwng cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD :

 

(1) Nodi a derbyn yr adroddiad.

(2) Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft” :

 

i.                Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan Adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys Badau Dŵr Hamdden a Badau Dwr Personol.

ii.              Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru Badau Dŵr Hamdden a Badau Dwr Personol

 

(3) Hysbysu defnyddwyr Llithrfa yr Hafan am yr angen i sicrhau bod pob Cwch Hamdden a Bad Dwr Personol wedi cofrestru gyda Chyngor Gwynedd cyn lansio. Roedd hyn yn sgil pryderon a godwyd am y defnydd presennol.

 

Unrhyw Fater Arall

·       Hysbyswyd y Pwyllgor am ddigwyddiad mawr gan RWE Cymru a’r cyfle ddaw i ddangos beth sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig a’r dymuniad i’w wneud yn brofiad gwerth chweil.

·       Adroddwyd bod cwt newydd y Bad Achub yn siapio a bod y Cwch ar waith.   Nodwyd hefyd bod chwe aelod arall wedi ei recriwtio i’r tîm.

 

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau gwerthfawr.

 

 

Dogfennau ategol: