Agenda item

Cyflwyno trosolwg o’r Prosiect Prentisiaethau gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau

Gwahoddir y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i ystyried y wybodaeth a  gyflwynir

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cais am ddiweddariad o’r gwaith Prentisiaethau ar y Cyd gyda chwmnïau a chontractwyr lleol wedi iddo ddatblygu

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn cyflwyno trosolwg o’r Prosiect Prentisiaethau gan amlygu llwyddiannau , sialensiau a datblygiadau i’r dyfodol. Atgoffwyd yr Aelodau  bod y Cabinet (22/01/19) wedi ymrwymo i wariant o £300,00 o Gronfa Cynllun y Cyngor i sefydlu  Cynllun Prentisiaethau i gyflogi hyd at 20 prentis newydd yn 2019. Adroddwyd bod y cynllun bellach wedi ei gynnwys fel maes blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor 2018 -2023 gyda sgôp prosiect y Cynllun Prentisiaethau wedi ei ehangu a’i ail-enwi yn Cynllunio’r Gweithlu.

 

Ers dechrau’r cynllun yn 2019, mae 30 wedi eu recriwtio gyda 10 o brentisiaethau 2019/20 wedi derbyn swydd yn y Cyngor. Ategwyd bod bwriad i  hysbysebu 7 swydd arall erbyn diwedd y flwyddyn gan ddod ar cyfanswm i 37. Yng nghyfarfod y Cabinet Mai 2021, cymeradwywyd cais am £600,00 ychwanegol dros dair blynedd gan anelu i gynnig o leiaf 20 prentisiaeth y flwyddyn dros gyfnod yr ariannu. Bydd hyn yn caniatáu darparu cefnogaeth a’r weinyddiaeth angenrheidiol ar gyfer y cynllun ynghyd a datblygu’r cynllun i weithio mwy gyda busnesau bach, contractwyr lleol a mentrau cymdeithasol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Llongyfarchwyd yr adran ar y gwaith ac o yrru cynllun llwyddiannus yn ei flaen

·         Bod y maes yn un cyffrous gyda datblygiadau diddorol i’r dyfodol

·         Cais am wybodaeth yn amlygu'r rhai sydd wedi gadael i weithio mewn sefydliadau eraill - hyn hefyd yn dangos gwerth i’r cynllun

 

  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae’r cynllun yn sicrhau bod prentis newydd yn teimlo fel rhan o dîm /adran oherwydd gofynion gweithio o adre, nodwyd bod cefnogaeth ddwys wythnosol ar gyfer yr unigolyn gan y Tîm Dysgu a Datblygu ynghyd a chefnogaeth gan Reolwyr yr adrannau perthnasol i sicrhau nad yw’r prentis yn teimlo’n ymylol.

 

  Mewn ymateb i sylw bod argyfwng staff proffesiynol mewn dwy adran o’r Cyngor ac nad oedd cynlluniau prentis wedi eu cynnwys ar gyfer yr adrannau hyn, nodwyd nad oedd cynlluniau hyfforddiant a chymwysterau proffesiynol ar gael ar gyfer pob maes prentisiaethol, ond bod y Cynllun Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory yn cyfarch y maes cyfreithiol a'r maes eiddo. Ategwyd bod trafodaethau yn parhau ynglŷn â ‘llenwi bylchau’ yn y meysydd yma i’r dyfodol.

 

  Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a dulliau rhannu gwybodaeth a’r broses recriwtio, nodwyd bod canran helaeth o’r gwaith hysbysebu yn cael ei wneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol, Gyrfa Cymru, Ysgolion a Cholegau. Ategwyd bod cofnod o’r unigolion hynny sydd wedi dangos diddordeb yn cael ei gadw ar restr sydd gydag oddeutu 500 enw – bydd rhain yn derbyn gwybodaeth fel mae cyfleoedd yn codi

 

  Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phrinder gofalwyr ac a oes modd denu gofalwyr drwy’r cynllun prentisiaethau, nodwyd  bod nifer uchel yn dangos diddordeb yn y maes gofal. Ategwyd bod y broses penodi yn cael ei gwneud ar y cyd rhwng tîm canolog a rheolwyr gwasanaeth.

 

  Mewn ymateb i sylw ynglŷn â datblygu prentisiaethau ar y cyd gyda chwmnïau preifat, nodwyd yr angen i sicrhau sylfaen gadarn i’r cynllun mewnol cyn datblygu lleoliadau gwaith tu hwnt i’r Cyngor. Er hynny, ategwyd bod gwaith cychwynnol yn cael ei wneud i sefydlu prentisiaethau ar y cyd ac y byddai modd rhoi diweddariad ar yr agwedd yma wrth iddo ddatblygu.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cais am ddiweddariad o’r gwaith Prentisiaethau ar y Cyd gyda chwmnïau a chontractwyr lleol wedi iddo ddatblygu

 

Dogfennau ategol: