skip to main content

Agenda item

I ystyried yr adroddiadau

 

Penderfyniad:

  • Nodi a derbyn yr adroddiad.
  • Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

1.    Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.

2.    Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

a)      Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021.

Nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau mai braf oedd cyhoeddi blwyddyn lwyddiannus gyda chynnydd yn nifer ymwelwyr a chwsmeriaid yn adlewyrchu llacio graddol cyfyngiadau covid a rhwystrau teithio tramor.

 

Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

 

Angorfeydd

 

Bod 54 o gychod ar angorfeydd blynyddol yn Harbwr Abermaw yn 2021

 

Materion Staffio

 

Canmolwyd yr holl staff (harbwr a traeth) am eu gwasanaeth yn ystod cyfnod prysur a heriol iawn. Adroddwyd eu bod wedi ymddwyn gydag agwedd rhagweithiol a braf oedd gweld cydweithio da a goruchwyliaeth ddiogel dros yr Haf. Nid oedd cwynion wedi eu derbyn. Ategwyd bod sefyllfa staff yr harbwr wedi cael ei ystyried yn fanwl ac y bwriad oedd bod yr Harbwr Feistr Cynorthwyol a’r Cymhorthydd Harbwr yn cael cynnig secondiad i aros ymlaen gyda bwriad o hysbysebu swydd wag yr Harbwrfeistr yn gynnar yn 2022.

 

Yn dilyn adolygiad diweddar iawn y penderfyniad yw bydd yr Harbwr Feistr Cynorthwyol yn cael dyrchafiad i swydd Harbwr Feistr ar Secondiad hyd at y 30 Fedi 2022 a bod cyfnod cyflogaeth a swydd y Cymhorthydd Harbwr hefyd yn cael ei ymestyn hyd at y 30 Fedi 2022 gyda dyrchafiad ar sail Secondiad.

 

Materion Ariannol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyllid yr Harbwr amlygodd y Swyddog Morwrol y byddai crynodeb bras o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol yn cael ei rannu gyda’r aelodau yn yr wythnosau nesaf. Ategwyd bod gwariant oddeutu £6k pellach i’w wario ar faterion cynnal a chadw, ond bod y lefel incwm eleni wedi cyrraedd y targed. O ran ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr Abermaw ynghyd a ffioedd lansio ar gyfer Cychod Pŵer a Cychod Dŵr Personol ar gyfer tymor 2022/23, nodwyd bod y Gwasanaeth yn bwriadu addasu’r ffioedd yn unol â chyfradd chwyddiant. Nodwyd hefyd yr angen i ystyried costau ynni. Nid oedd y Gwasanaeth wedi derbyn cadarnhad o’r cyfraddau y dylid eu gweithredu - awgrymwyd y byddai’r wybodaeth ar gael cyn y Nadolig. Swyddog Morwrol i gylchredeg crynodeb bras o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol gyda’r aelodau

 

Astudiaeth Dichonolrwydd Carthu

 

Adroddwyd y bydd angen carthu cyfaint o 70,000m3 os dymunir cael y dyfnder priodol oddi fewn ardal fychan gyferbyn a cei yr harbwr. Atgoffwyd yr Aelodau bod bid ariannol gyda chefnogaeth Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG) wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd gyda £10k ychwanegol i’r £35k ar gyfer cynllun samplo natur y llaid. Adroddwyd y bydd dadansoddiad a chanlyniadau’r cynllun yn pennu’r opsiynau posib gydag adroddiad drafft i’w ryddhau ddiwedd mis Tachwedd. Diolchwyd i Peter Appleton a gwaith FLAG am eu cefnogaeth.  Swyddog Morwrol i gylchredeg yr adroddiad drafft i’r Aelodau. Aelodau i ystyried yr adroddiad drafft a chyflwyno adborth /sylwadau / cwestiynau i’r Swyddog Morwrol gynnig i’r arbenigwyr, fel bod modd adrodd yn ôl ar y mater yng nghyfarfod Mawrth 2022.

 

Materion Cofrestru:

 

I hwyluso’r broses cofrestru, gwnaed hi’n bosib i berchnogion cychod pŵer a badau dŵr personol gofrestru eu llestrau ar lein drwy wefan Cyngor Gwynedd. Adroddwyd bod y broses yn effeithiol ac wedi lleihau'r gwaith gweinyddol yn sylweddol. Ategwyd y bydd e-bost yn cael ei anfon i’r perchnogion i ail gofrestru ar lein ym mis Chwefror 2022. Nodwyd bod y gwasanaeth yn parhau i gydweithio gyda’r Uned Technoleg Gwybodaeth i geisio sicrhau y bydd cynllun talu angorfeydd ar gael hefyd ar gyfer Gwanwyn 2022. Awgrymwyd i’r Uwch Swyddog Harbwr ac yr Harbwr Feistr i gyfathrebu gyda fforymau lleol i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun cofrestru ar lein.

 

Mewn ymateb i sylw bod anawsterau cofrestru wedi bod gyda rhai yn lansio cychod dŵr personol o fannau hamdden / parciau gwyliau ar hyn yr arfordir, nodwyd bod swyddogion wedi cyfathrebu gyda rheolwyr y lleoliadau hyn gan ofyn iddynt annog perchnogion i gofrestru eu llestrau cyn lansio. Mewn ymateb i gwestiwn dilynol, nodwyd mai gwan oedd yr ymateb, ond bod swyddogion yn parhau gyda’r fenter. Derbyn bod y flwyddyn wedi bod yn un anodd a bod ‘ymwelwyr newydd’ yn yr ardal - y gobaith yw y bydd y sefyllfa yn gwella. Awgrymwyd bod y Cynghorydd Mathew Harris yn ail gysylltu gyda’r mannau hamdden / parciau gwyliau ac i’r Cynghorydd Rob Triggs codi’r mater yn y Cyngor Tref

 

Papur Ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth

 

Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad oedd yn ymwneud a chynnig addasiadau i ddeddfwriaeth i ddod â badau dŵr hamdden a phersonol i mewn i sgôp Deddf Llongau Masnach 1995 er mwyn sicrhau ymarfer diogel.  Amlygodd y Swyddog Morwrol bod trefniadau Gwynedd ar y mater yn ddigon tynn ar wahân i rai safleoedd preifat. Anogwyd yr Aelodau i gyflwyno ymateb unigol erbyn dyddiad cau 1 Tachwedd 2021, ond cyfeiriwyd at ymatebion Pwyllgor Harbwr Pwllheli a Porthmadog i’r ymgynghoriad.

 

Amlinellwyd prif elfennau’r ymgynghoriad a nodwyd bod rhai addasiadau yn gymhleth a hirwyntog. Cynigiwyd, cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a badau dŵr personol gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a badau dŵr personol

 

 (b)    Adroddiad yr Harbwr Feistr Cynorthwyol yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Diolchodd y Swyddog Morwrol i staff Harbwr Abermaw am ei gwaith dros y tymor - ategwyd gwerthfawrogiad gan yr Aelodau gan adrodd mai braf oedd cael sefydlogrwydd staff a chefnogaeth i’r gymuned

 

Adroddwyd bod Gwasanaeth wedi derbyn ei archwiliad blynyddol o Gymhorthion Mordwyo yn Abermaw a dynesfa'r sianel gan staff Tŷ'r Drindod ar 28 Medi 2021.  Bydd adroddiad ar eu canfyddiadau yn dilyn. 

 

Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw Hysbysiad Lleol i Forwyr yn weithredol sy'n ymwneud â'r marciau mordwyo yn y sianel.

 

PENDERFYNWYD

 

1.      Nodi a derbyn yr adroddiadau.

 

2.      Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

·               Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.

·               Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol

 

Dogfennau ategol: