Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Amgylchedd i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr adran Amgylchedd. Nododd addasiad i’r adroddiad sef bod 67.8% o’r adran wedi llenwi’r holiadur hunanasesiad iaith Gymraeg a bod 93% o’r rhai ymatebodd yn cyrraedd gofynion iaith eu swyddi. Cyfeiriodd at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad:

-          Nodwyd ei bod yn anodd cael unigolion gyda’r arbenigedd cywir i ddod i weithio yn y maes cynllunio a gwarchod y cyhoedd. Eglurodd bod cyrsiau cynhwyso yn cael eu trefnu i gynorthwyo gyda hyn. 

-          Mynegodd bod y gallu i weithredu’n rhithiol wedi newid systemau gweithiol yr adran a bod nifer o staff wedi gadael yr adran i geisio swyddi mewn lleoliadau eraill. Fodd bynnag, nodwyd hefyd bod gweithio’n rhithiol yn golygu y gall y Cyngor annog unigolion i ddod i weithio gyda nhw. Adnabuwyd bod angen hyfforddi a buddsoddi yn y swyddogion er mwyn eu hannog i aros yn eu swyddi.

-          Nodwyd angen i ddatblygu’r maes recriwtio ac i greu a chynnal cyswllt ysgolion a cholegau yn ôl i’r arfer ar ôl cyfnod COVID

-          Eglurwyd bod cyfyngiadau ieithyddol wrth greu dogfennau rhwng yr adran a chwmnïau allanol a bod sicrhau nad oes cam  camddehongli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.

-          Pwysleisiwyd fod llawer o gwmnïau yn gweithredu yn wirfoddol ar argymhellion yr adran i enwi datblygiadau yn Gymraeg er nad oes deddfwriaeth i'w gorfodi

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau pellach -

-          Holwyd pam fod nifer wedi gadael yr adran ac os oedd rheswm dros hyn. Gofynnwyd, yn ogystal, am ddiweddariad am y newidiadau yn yr adran. Nodwyd eu bod yn buddsoddi mewn hyfforddi staff yr adran er mwyn eu datblygu ymhellach. Ychwanegodd fod cyfnod hir o sefydlogrwydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn dilyn newid mewn ffordd o weithio dros y pandemig fod hyn wedi rhoi mwy o gyfleon tu hwnt i’r Cyngor i unigolion 

-          Gofynnwyd a oedd bwriad cael cyswllt gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu ysgolion a cholegau i annog pobl ifanc ymrwymo i'r swyddi sydd ar gael efo Cyngor Gwynedd. Amlygwyd yr angen i ddatblygu’r maes recriwtio, ac yn anffodus fod cynlluniau oedd ganddynt wedi ei dal yn ôl gan y pandemig ond eu bod yn gobeithio ailgychwyn yn fuan. Er hyn, eglurwyd fod llawer o waith wedi ei wneud i hyrwyddo swyddi yn lleol. 

-          Holwyd a oedd bwriad i ddatblygu terminoleg Cymraeg o fewn yr adran. Eglurwyd fod y derminoleg yn un anodd a’i bod yn ofynnol i’r gwasanaeth gynnig gwahoddiad tendro’n ddwyieithog. Nodwyd yr angen i fod yn ofalus efo’r cytundebau a chontractau ac nad oes camddehongli i’w weld rhwng y ddwy iaith. O ganlyniad i hyn, y cyngor cyfreithiol mae’r adran wedi ei dderbyn yw cyflwyno cytundebau a chontractau mewn un iaith, a bod yr iaith felly’n amrywio o gwmni i gwmni.

-          Mynegwyd siom nad oedd Deddf i sicrhau fod enwau gwreiddiol Cymraeg sydd yn cael ei defnyddio yn lleol yn cael eu blaenoriaethu, ond pwysleisiwyd fod yr adran yn annog defnydd o’r Gymraeg gyda chanran uchel o gwmnïau yn derbyn argymhellion yr Uned Iaith.

PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: