skip to main content

Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid a chyfeiriodd yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-          Datblygiad yn yr adran dros y blynyddoedd o fod yn bennaf Saesneg o ran arferion gwaith, i fod gyda chanran uchel o staff yn meddu ar sgiliau iaith Gymraeg.

-          Nodwyd fod yr adran yn unigryw yn y modd ei mae’n cynhyrchu cyfrifon drwy gyfrwng y Gymraeg a'u cyfieithu i'r Saesneg, yn annhebyg i unrhyw Gyngor arall.

-          Cyfeiriwyd at y staff rheng flaen sy’n cyfathrebu a’r cyhoedd o fewn yr adran a’u bod yn cwrdd â’r gofynion ieithyddol.

-          Manteisiwyd ar ddeunydd Cymraeg Clir er mwyn symleiddio’r eirfa a ddefnyddiwyd o fewn gwaith yr adran fel bod pobl gyffredin yn eu deall. Ategodd y Pennaeth bod cynghorau eraill yn efelychu’r gwaith hwn ar gyfer safoni terminoleg gan fod yr adran wedi gweithio efo Canolfan Bedwyr i sicrhau defnydd o ffurf geiriau cywir.

-          Ategwyd bod yr adran wedi arloesi gyda’u defnydd o Zoom ar gyfer hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfodydd allanol er enghraifft i sicrhau bod ansawdd a gweithrediad dwyieithog yng nghyfarfodydd gronfa bensiwn. Ychwanegodd bod egwyddorion Ffordd Gwynedd yn cael eu hallforio drwy hyn.

-          Nododd bod y systemau rhithiol wedi amddiffyn y drefn ddwyieithog a bod yr adran wedi lobïo Microsoft drwy ysgrifennu llythyr atynt i fabwysiadu system sy’n caniatáu cyfieithu ar y pryd. Fodd bynnag yn absenoldeb hyn mae Zoom wedi caniatáu hyn ddigwydd yn rhwydd.

-          Ategodd Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth mwy o wybodaeth am y systemau gwe iaith a ddefnyddiwyd mewn ysgolion yn llwyddiannus yn y gorffennol. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-

-          Diolchwyd am yr adroddiad difyr a holwyd pa mor debygol yw’r ddarpariaeth cyfieithu mewn cyfarfodydd ar y cyd gyda sefydliadau allanol.

-          Nododd aelod ei fod yn synnu nad oes cyfieithu ar Teams gan fod Microsoft yn gwmni byd-eang a holwyd a oes rheswm pam nad yw’n cael ei gynnig.

-          Gofynnwyd a oes gan Gyngor Gwynedd le i fynnu bod darpariaeth a chyfleuster cyfieithu fel bod mwy o ddefnydd o Gymraeg mewn cyfarfodydd.

-          Holwyd os daeth unrhyw ateb o’r llythyr a ysgrifennwyd at Microsoft.

-          Croesawyd y trafodaethau efo’r adrannau, gan ei fod yn gyfle da iddynt hunan-arfarnu am sefyllfa’r iaith Gymraeg wrth lunio eu hadroddiadau. Ategodd bod heriau adrannol yn cael eu hamlygu wrth iddynt adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Iaith.

-          Gofynnwyd a yw’n amser i edrych ar flaenoriaethau’r Pwyllgor iaith ar gyfer y dyfodol.

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid:

-          Nad oes llawer o Gymraeg o fewn y cyfarfodydd gyda swyddogion ar draws Cymru. Fodd bynnag o fewn cyfarfodydd cyhoeddus mae cyfleuster cyfieithu ar gael bob tro.

-          Bod Microsoft wedi canolbwyntio ar gyfieithu mecanyddol a heb rannu eu sianel sain yn Teams yn ddwy i alluogi cyfieithu ar y pryd fel mae Zoom wedi ei wneud. Ategodd bod Microsoft yn y broses o newid hyn.

-          Nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod y mater cyfieithu ar y pryd yn cael ei drafod yn yr adroddiad sicrwydd Comisiynydd Y Gymraeg sy’n atodol i'r agenda heddiw. Ategodd bod y Comisiynydd yn pwyso ar Awdurdodau i sicrhau’r ddarpariaeth. 

-          Atebodd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan Microsoft, fodd bynnag gan fod y ddarpariaeth ar y gweill does dim pwrpas i lythyru ar y pwynt yma.

-          Ategodd y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith bod llawer o gydweithio wedi bod yn fewnol ac yn rhanbarthol i ddylanwadu ar awdurdodau eraill i gynyddu eu defnydd.

-          Yn ychwanegol, nododd bod y gwasanaethau cyfieithu llawer haws i'w drefnu yn rhithiol ac o ganlyniad mae gwaith y tîm cyfieithu wedi cynyddu.

-          Cytunodd y byddai edrych ar flaenoriaethau yn helpu llywio cyfeiriad ar gyfer y cyfarfodydd yn y dyfodol.

 PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: