skip to main content

Agenda item

YSGOL ABERSOCH

Cyflwynwyd gan:Cyng. Bethan Lawton

Penderfyniad:

Penderfynwyd i beidio addasu y  penderfyniad a wnaethpwyd ar 28 Medi 2021 a cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

Cofnod:

YSGOL ABERSOCH

 

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Bethan Lawton – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i beidio addasupenderfyniad a wnaethpwyd ar 28 Medi 2021 a cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y mater wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor Craffu gan nad oeddent yn teimlo fod y Cabinet wedi rhoi sylw digonol i bump agwedd benodol pan yn ystyried y mater yn ffurfiol wedi y cyfnod gwrthwynebu statudol.

 

Eglurwyd fod y Pwyllgor Craffu wedi trafod yr eitem yn ystod eu cyfarfod ar y 21ain o Hydref, ble cafwyd trafodaeth a cyfle i graffu ymhellach. Mynegwyd fod nifer o’r agweddau wedi eu hateb yn ystod y cyfarfod a penderfynodd y Pwyllgor i gyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’r ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn sef nad oedd yr adroddiad yn cymryd ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y pentref.  Pwysleisiwyd fod yr aelodau Craffu yn bryderus nad oedd ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith posib datblygiadau arfaethedig ar y ffigyrau tafluniad ar gyfer Ysgol Abersoch cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Gofynnwyd i’r Cabinet ail ystyried eu penderfyniad yn sgil eu pryderon.

 

Ychwanegodd yr Aelod Lleol fod y drafodaeth dros Ysgol Abersoch wedi bod yn broses hir iawn ac fod angen i’r aelodau Cabinet roi sylw penodol i’r materion Tai sydd ar y gwell yn y pentref. Eglurwyd fod sôn am ddatblygiadau tai yn y ward a tu hwnt ac o ganlyniad i hyn fod angen darpariaeth addysg i blant a theuluoedd fydd yn symud i’r ardal. Tynnwyd sylw fod Ysgol Llanbedrog dros ei gapasiti. Mynegwyd fod y datblygiadau yma a’r Gwesty newydd yn newyddion da i’r ardal ond pwysleisiwyd nad oes dim sôn am y datblygiadau hyn yn yr adroddiadau a mynegwyd fod ymdeimlad yn lleol fod yr adroddiadau o’i ganlyniad yn gamarweiniol â ddim yn cyd-fynd a Deddf Llesiant. 

 

Efynnwyd ar yr aelodau i beidio cau’r Ysgol am y rhesymau a nodwyd heddiw ac yn y gorffennol ac i beidio cau yn ganol tymor yr ysgol, ac i flaenoriaethu addysg plant yr ardal.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet i’r adroddiad gan nodi cefndir yr eitem. Eglurodd yn ôl ym mis Mehefin fod y Cyngor wedi cyhoeddi y rhybudd statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021 a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Nodwyd fod y Cabinet yn dilyn ystyried y gwrthwynebiadau wedi cadarnhau y penderfyniad i gau’r Ysgol. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad a gyflwynwyd wedi ymdrin a sylwadau am effaith datblygiadau posib  yn yr ardal ac fod y Cabinet wedi eu hystyried cyn dod i benderfyniad.

 

Nododd ei fod yn cynnig i’r Cabinet i beidio addasu’r penderfyniad gan fod cau’r ysgol yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu yr ysgol ac yn arwain at gyfleodd fwy cyson i blant y dalgylch gan gynnig addysg o ansawdd uchel, profiadau, sgiliau a hyder i fod yn ddinasyddion dwyieithog llwyddiannus.

 

Nododd y Swyddog Monitro y drefn gyfansoddiadol yn unol a’r drefn galw i mewn gan nodi fod y penderfyniad a wneir heddiw yn derfynol a ni fydd modd galw’r penderfyniad hwn i mewn i graffu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd na fyddai angen trafod y posibiliadau o agor y gwesty gan y buasai’r cwmni, gobeithio, yn penodi unigolion lleol ac felly ni fydd angen i bobl symud i mewn i’r ardal. Gofynnwyd os y bydd y datblygiadau tai os y bydd gan Ysgol Sarn Bach y capasiti i gymryd mwy o blant. Eglurwyd y buasai capasi yn y ysgol.

¾    Mynegwyd fod trafodaethau cychwynnol yn cael ei cynnal i drafod ac ymateb i angen am dai yn yr ardal ond nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei gadarnhau ac o ganlyniad ddim eisiau codi unrhyw ddisgwyliadau yn yr ardal.

¾    Pwysleisiwyd fod llawer o’r dadansoddi wedi ei wneud yn barod, a nodwyd os tai yn cael ei codi mai tai i bobl leol yn ardal fydd rhain ac nid i bobl tu allan i’r ardal, ac felly ni fydd yn cynyddu niferoedd y plant. Nodwyd o ran safle Penrhos y flaenoraeth fydd ar gyfer darpariaeth gofal, gyda nifer bychan ar gael i deuluoedd. Mynegwyd na fydd y rhain yn gwneud llawer o newid i’r tafluniad yr ysgol.

¾    Eglurwyd hyd yn oed os oes datblygiad y buasai capasiti yn Ysgol Sarn Bach i’r nifer o ddisgyblion.

Dogfennau ategol: