Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod newyddion da a drwg. Amlygwyd fod 3 cynllun penodol yn crisialu’r gwaith positif mae’r adran yn ei wneud. Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu Tai bellach yn weithredol ac yn gweithio i sicrhau tai i bobl i leol yn eu cymunedau. Nodwyd fod cynlluniau arloesol ar draws y sir ac fod sawl grawn wedi ei dderbyn i ymateb i gynlluniau fel digartrefedd.

 

Mynegwyd fod cynlluniau ar y gwell i adeiladu tai o fewn y sir ac fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chyrff ar draws Gwynedd i adeiladau tai ar diroedd y Cyngor. Tynnwyd sylw ar gynllun Siop Un Stop fydd ar gael i gynorthwyo unigolion i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth ac yn ymwybodol o unrhyw gyfleodd sydd ar gael. Nodwyd fod y cynllun gosod tai cymdeithasol i bobl leol a gychwynnwyd flwyddyn yn ôl yn cymryd camau mawr ymlaen ac yn parhau i ddatblygu er fod nifer o broblemau wedi codi ar hyd y daith. Er hyn amlygwyd fod yr adran wedi llwyddo i gartrefu nifer uchel o bobl yn eu cymunedau.

 

Eglurwyd er fod y cynlluniau yn uchelgeisiol fod y pandemig wedi arafu nifer o gynlluniau o fewn y Cynllun Gweithredu Tai. Pwysleisiwyd fod camau yn ei le i daclo digartrefedd a oedd yn argyfwng cyn y pandemig ond fod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y deunaw mis diwethaf. Mynegwyd fod y pandeimg wedi cael effaith ar adnoddau sydd ar gael ynghyd ar capasiti i ymateb. Ond, gyda’r drefn herio perfformiad newydd nodwyd fod modd ymateb yn gyflym i heriau ac i daclo problemau yn syth.

 

Ar y cyfan mynegwyd fod ar adran yn llwyddo ac fod derbyn pedair Gwobr Genedlaethol yn profi y llwyddiant yma. Eglurwyd y bydd yr Aelod Cabinet yn mynd i bob ardal adfywio yn ystod y misoedd nesaf i esbonio i Gynghorwyr beth mae’r adran yn gobeithio ei wneud ymhob ardal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at ddigartrefedd cudd sydd i’w gweld ar gynnydd ar draws y sir. Croesawyd cynlluniau yn Cynllun Gweithredu Tai gan amlygu ei fod yn weithredol ers cwta 7 mis. Holwyd os oes modd cael gwybodaeth fesul ward. Nodwyd fod trafodaeth am ddigartrefedd cudd yn hynod bwysig gan fod llwyddiant cynllun i gael unigolion oddi ar y stryd wedi lleihau y tai sydd ar gael i daclo cynyddu mewn digartrefedd cudd.

¾    Eglurwyd fod digartrefedd ar ei lefel uchaf erioed ar mae hyn i’w gweld ar draws Cymru. Eglurwyd fod y Cyngor yn edrych i brynu 6 safle ac yn parhau i geisio prynu tai fel bod modd cynnig lleoliadau gosod yn lleol i unigolion.

¾    Eglurwyd fod arian ar gyfer digartrefedd yn dod o Gronfa Caledi’r Cyngor ond nodwyd fod y Gweinidog wedi pwysleisio na fydd arian ar gael y flwyddyn ariannol nesaf. Eglurwyd os yn parhau y bydd angen arian i’w ariannu ac angen sicrhad fod yr arian yn y setliad a dderbynnir gan y Llywodraeth. 

¾    Nodwyd fod yr adroddiad yn glir, cryno ac i’r pwynt ac yn un cadarnhaol a positif. Mynegwyd od niferoedd digartrefedd yn frawychus o uchel er nad oedd prinder tai, ond fod y nifer uchel o dai yn cael ei defnyddio yn dymhorol yn gyfredol. Gofynnwyd i’r Llywodraeth os yn tynnu yr arian yn ôl fod angen cymorth gyda ail gartrefi.

 

Awdur:Carys Fon Williams

Dogfennau ategol: