Agenda item

I ystyried a chymeradwyo'r Adroddiad Adolygu drafft am gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus o 6 wythnos

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Cymeradwyo'r Adroddiad Adolygu drafft am gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus o 6 wythnos
  • Dirprwyo’r hawliau i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd, wneud unrhyw newidiadau ansylweddol a allai fod yn angenrheidiol cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus

 

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Heledd Jones yn amlinellu pwrpas a’r gwaith yn gysylltiedig â pharatoi Adroddiad Adolygu. Nodwyd mai pwrpas yr Adroddiad Adolygu yw edrych ar yr holl dystiolaeth sydd yn berthnasol i’r CDLl ar y Cyd a dod i gasgliad ynglŷn â’r math o adolygiad bydd yn cael ei ddilyn.

 

Nodwyd hefyd nad diben yr Adroddiad Adolygu yw manylu ar unrhyw newidiadau bydd yn cael eu gwneud i’r Cynllun. Tynnwyd sylw y Panel at y ffaith fod yr Adroddiad Adolygu yn cynnwys y canlynol:-

• Pa wybodaeth sy'n cael ei hystyried i lywio adolygiad o'r Cynllun a pham.

• Sut mae'r canfyddiadau’n effeithio ar weledigaeth, nodau ac amcanion y cynllun, gan gynnwys rhoi'r strategaeth ar waith.

• Adolygiad o bob maes pwnc yn y cynllun gan nodi'n glir beth sydd angen ei newid a pha rannau o'r sail dystiolaeth y mae angen eu diweddaru i gefnogi'r newidiadau.

• Goblygiadau i’r rhannau o’r Cynllun na fwriedir ei ddiwygio o ran cydlyniad ac effeithlonrwydd y Cynllun yn ei gyfanrwydd.

• Ailystyried yr Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd.

• Archwilio ac esbonio'r cyfleoedd i baratoi CDLl ar y Cyd gyda ACLlau cyfagos a chynyddu gweithio traws-ffiniol.

• Casgliadau clir ynghylch pam mae angen dilyn y drefn adolygu lawn (sydd gyfystyr a pharatoi Cynllun newydd), neu'r weithdrefn adolygu ffurf fer (sydd gyfystyr ag addasu rhannau o’r Cynllun cyfredol).

 

Yn ogystal fe amlygwyd fod newidiadau wedi cael ei gynnwys i’r Adroddiad yn dilyn adborth gan Tîm Arweinyddiaeth Ynys Môn. Rhain oedd cynnwys cyfeiriad tuag at Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn, rhan ychwanegol ar gyfer Bioamrywiaeth, man newid i’r rhan Brexit a’r rhan sydd yn cyfeirio tuag at Wylfa Newydd. Cadarnhawyd fod yr Adroddiad Adolygu yn dod i gasgliad ynglŷn â’r angen i gynnal Adolygiad Llawn o’r Cynllun. Ymhellach fe amlygwyd yr amserlen a’r drefn adrodd yn gysylltiedig â derbyn cymeradwyaeth o’r Adroddiad Adolygu.

 

Materion a Godwyd

· Nodwyd y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd i’r cyfnod ymgynghoriad er mwyn cael gyn gymaint a phosib i roi mewnbwn ar y materion pwysig mae’r ardal yn ei wynebu e.e. llety gwyliau. Gofynnwyd os bydd datganiad i’r wasg yn cael ei baratoi? · Os yw’r Cynghorau yn gwneud penderfyniad gofynnwyd faint o ddylanwad mae Llywodraeth Cymru yn ei gael arno ni?

· Yn sgil y pwysau i ymgymryd a’r Adolygiad ar frys, mynegwyd pryder yn y llithriad o fis yn yr amserlen. Nodwyd fod yr Adroddiad Adolygu fod i gael ei gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd Tud. 5 3 Ionawr 2022, fodd bynnag y bydd hi’n fis Mawrth ar y Cynghorau mewn sefyllfa i allu wneud hynny. Beth yw’r rheswm am yr oedi yma ac a fydd yr oedi yma yn effeithio ar yr amserlen gyfan?

 

Ymateb

· Fe nodwyd fod aelod o’r wasg yn y cyfarfod ac felly yn debygol o adrodd yn ôl fod cyfnod o ymgynghori ar yr Adroddiad Adolygu am gymryd lle. Bydd y GPCC yn ymgysylltu a’r holl Gynghorwyr, Cynghorau Cymuned, Rhanddeiliaid Allweddol ynghyd a’r holl fudiadau/ unigolion sydd wedi dangos diddordeb yn y broses o baratoi Cynllun Datblygu yn ogystal a chodi ymwybyddiaeth pellach am y broses ymgynghori yma.

 · Rhaid cofio mae pwrpas yr Adroddiad Adolygu yw dod i gasgliad ar pa fath o adolygiad sydd ei angen o'r Cynllun sef Adolygiad Llawn yn yr achos yma.

· Mae’r oedi wedi bod oherwydd yr angen i gynnwys canfyddiadau Adroddiad Monitro Blynyddol 3 yn yr Adroddiad Adolygu. Yn ogystal mae yna nifer o gyfarfodydd mewnol wedi cymryd lle ac wedi ei raglennu er mwyn sicrhau fod yr adroddiad wedi cael ei graffu yn fewnol a chael mewnbwn priodol iddo.

 

Nid ydym yn rhagweld bod yr oediad yma o fis yn effeithio ar yr amserlen o baratoi’r Cynllun. Bydd yr etholiadau flwyddyn nesaf yn effeithio ar yr amserlen ac un o dasgau cyntaf y ddau Gyngor newydd fydd ystyried y Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun diwygiedig.

 

Penderfyniad Penderfynwyd y Pwyllgor dderbyn yr argymhelliad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Adroddiad Adolygu.

Dogfennau ategol: