Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth W Griffith
Cyflwyno’r Adroddiad Adolygu a derbyn
sylwadau’r Pwyllgor ar y cynnwys.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
gan yr aelod cabinet dros Amgylchedd drwy nodi bod yr adroddiad yma gerbron y
Pwyllgor ar gyfer derbyn sylwadau’r aelodau.
Eglurodd y Rheolwr
Polisi Cynllunio ar y Cyd bod gofyniad ar y Cyngor i baratoi adroddiad adolygu
cryno a chynnwys rhai pethau penodol e.e.
wybodaeth fydd yn cael ei hystyried i lywio’r Cynllun datblygu lleol.
Cyfeiriwyd at Atodiad 1 a nodwyd ei fod wedi rhannu i mewn i
6 rhan. Trafodwyd y rhannau i gyd yn drylwyr gan esbonio pwrpas bob un.
Trafodwyd y camau nesaf sef bod ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos cyn
bydd adroddiad terfynol yn dod gerbron y Cyngor Llawn. Gofynnwyd I'r Pwyllgor
ystyried yr adroddiad adolygu drafft a chynnig sylwadau ar faterion fydd angen
eu hadolygu wrth baratoi’r cynllun diwygiedig.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau fel a ganlyn:
-
Holwyd pam fod y Cyngor yn cynllunio ar y cyd efo
Môn gan nad oes yr un Sir arall yng Nghymru sy’n cydweithio yn yr un modd.
Nododd bod Gwynedd gyda’u hanghenion unigryw sy’n haeddu cynllun unigol.
-
Cyfeiriwyd at dudalen 53 yn y rhaglen lle nodwyd
bod y ddarpariaeth tai wedi disgyn o dan darged.
-
Codwyd cwestiynau ynghylch dymchwel ac
ail-adeiladu tai o fwy o faint a’r effaith amgylcheddol. Er yn fwy costus i’w
brynu gallai tŷ newydd mwy o faint fod yn fwy gost effeithol
gyda’r costau rhedeg yn is.
-
Mynegwyd pryder ynghylch codi tai heb fod yr
angen yno a nodwyd nad oeddent yn fforddiadwy i fwyafrif o drigolion Gwynedd a
Môn.
-
Croesawyd yr adolygiad a chytunwyd a sylwadau’r
aelodau eraill ynghylch angen y tai newydd gan fod poblogaeth Gwynedd a Môn yn
statig.
-
Awgrymwyd bod angen tai fforddiadwy marchnad
leol ar draws y siroedd ac nid mewn rhai ardaloedd yn unig gan fod tystiolaeth
yn dangos bod tai allan o gyrhaeddiad mwyafrif y bobl leol.
-
Holwyd ynghylch y cynllun peilot ‘Scottish Power’ gan fod tlodi tanwydd ym Mhenllyn ond nad yw’r cynllun yn ei gynnwys.
-
Mynegwyd balchder bod ystyriaeth yn cael ei roi
i fioamrywiaeth, fodd bynnag tynnwyd sylw at y diffyg trafodaeth ar yr ardal
AHNE.
-
Codwyd pwynt ynghylch defnyddio deunyddiau lleol
megis llechi lleol ar dai sy’n cael eu hadeiladu er mwyn sicrhau gwaith yn y
chwarel ac arian yn aros yn lleol.
-
Mynegwyd siom nad oes modd i blant o deuluoedd
ffermio aros yn eu cartrefi gan nad oes modd iddynt adeiladu tai ar y tir.
Ategwyd bod hyn yn arwain at ffermydd yn cael eu gwerthu.
Mewn ymateb nododd y Swyddogion y canlynol:
-
Cytunwyd bod y sefyllfa yn wahanol erbyn hyn yn
dilyn newyddion nad oes datblygiad wylfa ar y gorwel a bod hyn yn cael ei
gynnwys wrth ddiwygio’r cynllun.
-
Nododd bod sicrhad y bydd tystiolaeth gadarn ei
hangen er mwyn datblygu tai a bod yr angen lleol ar eu cyfer yna.
-
Ategodd ei fod yn hynod berthnasol o bob agwedd
y cynllun newydd ar gyfer bob math o ddatblygiad eu bod yn cwrdd â gofynion
carbon y Cyngor.
-
Atgoffwyd y Pwyllgor bod papur wedi bod ger eu
bron yn ymwneud ag ail gartrefi ac o ganlyniad cyflwynwyd adroddiad i'r Senedd.
-
Nodwyd bod gwybodaeth ynghylch cynllun ‘Scottish Power’ ar eu gwefan er mwyn derbyn fwy o wybodaeth
ar yr ardaloedd sy’n rhan o’r cynllun.
-
Cydnabuwyd pwynt yr aelod ar ddefnydd o
ddeunyddiau lleol, fodd bynnag nododd ei fod yn anghyfreithlon gosod amodau ar
ddeunyddiau a dim ond amod sy’n sicrhau bod y deunydd yn debyg o ran edrychiad
sy’n bosib ei wneud.
-
Awgrymwyd y dylai’r aelodau gymryd rhan yn yr
ymgynghoriad er mwyn lleisio eu barn ar y pwyntiau sydd wedi codi yn y Pwyllgor
heddiw ond sydd tu hwnt i gylch gwaith yr adroddiad.
Dogfennau ategol: