skip to main content

Agenda item

Atodiad 1-3 - Ynghlwm

Atodiad 4 - Eithriedig (wedi’i ddosbarthu i Aelodau Cabinet)

Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Willias a Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

     I.        Cymeradwywyd y Strategaeth Ddigidol Addysg yn ei chyfanrwydd.

    II.        Cytunwyd i gyd ariannu hyd at hanner costau adnewyddu’r dyfeisiadau drwy ymrwymo £2filiwn o falansau’r Cyngor, gyda disgwyliad i ysgolion dalu’r hanner arall .

  III.        Cytunwyd i ysgolion Gwynedd dderbyn cefnogaeth dechnegol gan wasanaeth Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod o Ebrill 2022 ymlaen.

  IV.        Cytunwyd i ariannu £145mil er mwyn cynnig cefnogaeth dechnegol hyd at Ebrill 2022, er mwyn prysuro amserlen cyflwyno dyfeisiadau i’r ysgolion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams.  

 

PENDERFYNIAD

 

     I.        Cymeradwywyd y Strategaeth Ddigidol Addysg yn ei chyfanrwydd. 

    II.        Cytunwyd i gyd ariannu hyd at hanner costau adnewyddu’r dyfeisiadau drwy ymrwymo £2filiwn o falansau’r Cyngor, gyda disgwyliad i ysgolion dalu’r hanner arall .  

  III.        Cytunwyd i ysgolion Gwynedd dderbyn cefnogaeth dechnegol gan wasanaeth Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod o Ebrill 2022 ymlaen. 

  IV.        Cytunwyd i ariannu £145mil er mwyn cynnig cefnogaeth dechnegol hyd at Ebrill 2022, er mwyn prysuro amserlen cyflwyno dyfeisiadau i’r ysgolion.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu pleser o gyflwyno’r strategaeth arloesol yma. Pwysleisiwyd fod hwn wedi bod yn gynllun trawsadrannol rhwng yr adran Addysg a Technoleg Gwybodaeth a nodwyd gwerthfawrogiad i’r cyd-weithio agos sydd wedi bod yn creu’r Strategaeth. Mynegwyd mai bwriad y Strategaeth yw i ddefnyddio y ddarpariaeth ddigidol orau i gefnogi disgyblion a staff ysgolion i sicrhau cyfleon cyson ar draws y sir. Eglurwyd fod y bwriad hwn yn amlygu’r uchelgais sydd i ddefnyddio technoleg gwybodaeth i wella addysg gan ddyrchafu’r defnydd i bob cam o’r cwricwlwm.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod y cyfnod y pandemig wedi amlygu’r angen sydd i sicrhau fod disgyblion yn gallu defnyddio technoleg yn hyderus. Pwysleisiwyd fod y gwaith ar y strategaeth wedi cychwyn cyn y cyfnod clo ond fod y cyfnod y pandemig wedi gwthio y cynllun yn ei blaen.

 

 

Tywysydd y Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion drwy’r adroddiad gan nodi fod sgiliau ddigidol bellach ar yr un lefel a llythrennedd a rhifedd ac felly fod angen sicrhau fod gan ddisgyblion y sgiliau digidol sydd ei angen. Eglurwyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i wella’r ddarpariaeth ac wedi rhoi cyfrifoldeb i’r awdurdodau lleol i arwain ac y gwaith i sicrhau cyd-weithio rhwng yr ysgolion.

 

Eglurwyd yn bresennol fod nifer o ddyfeisiadau wedi dyddio ac ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o systemau gwahanol. Nodwyd y bydd y strategaeth yn sicrhau cysondeb ar draws ysgolion. Pwysleisiwyd fod y cyfnod clo wedi amlygu diffyg dyfeisiadau addas ac eu bod yn syfrdanol y nifer o aelwydydd nad oedd ganddynt ddyfeisiadau addas. Nodwyd fod bron i 2000 o ddyfeisiadau wedi er rhannu yn ystod y cyfnod ond fod yr angen wedi bod i rannu mwy oherwydd fod nifer o deuluoedd yn rhannu dyfais yn hytrach nac un i bob disgybl. Mynegwyd fod y strategaeth yn sicrhau dyfais i bob disgybl ac athro, ac y byddant wedi ei dewis yn unol a anghenion oedran y disgybl ac wedi ei gosod yn Gymraeg ar draws y sir.

 

Tynnwyd sylw at gostau adnewyddu gan fod rhai miloedd o ddyfeisiadau ar y ffordd i’r ysgolion gyda hyd bywyd o oddeutu 5 mlynedd. Eglurwyd y bydd angen £3.9miliwn i’w hadnewyddu. Pwysleisiwyd y bydd angen i’r dyfeisiadau gael ei cynnal a cadw yn effeithiol er mwyn sicrhau na fydd un disgybl yn colli addysg. Amlygwyd y drefn bresennol ar hyn o bryd i gefnogi ysgolion gan nodi yn y tymor byr y bydd y gefnogaeth yn cael ei dynnu mewn i wasanaeth technoleg gwybodaeth y Cyngor tra fydd yr adran yn sicrhau trefn cefnogi tymor hir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾    Nodwyd fod y cynllun yn un uchelgeisiol ac yn rhoi cyfleodd a profiadau gorau a cyson ar draws y sir. Nodwyd yn yr ysgolion y bydd yn gweithio yn arbennig o dda ond holwyd sut y bydd cymorth ar gael i unigolion heb gyswllt y we. Eglurwyd fod y panedmig wedi amlygu problemau ond fod ysgolion wedi eu cynorthwyo drwy focsys we o’r ysgolion ond fod rhai  wedi parhau gyda problemau oherwydd fod rhai tai heb signal ffon Er mwyn ymateb i hyn bydd yr adran yn edrych ar bob opsiwn posib ac y bydd modd i ysgolion geisio am grantiau.

¾    Holwyd yn dilyn y 5 mlynedd bydd y dyfeisiadau yn cael ei uwchraddio a felly gofynnwyd sut y bydd y dyfeisiadau yn cael ei ailgylchu neu a fydd modd eu ailddefnyddio. Mynegwyd o ran y dyfeisiadau, yn benodol ar ddiwedd ysgol uwchradd, y bydd cynnig yn cael ei roi i’r disgyblion i gadw ei cyfarpar ar ddiwedd y 5 mlynedd, ond eglurwyd y bydd y dyfeisiadau eraill yn cael eu hailgylchu o fewn Prydain.

¾    Holwyd o ran cydraddoldeb fod angen rhoi ystyriaeth i’r ddisgyblion sydd yn cael ei lleoli mewn lleoliadau tu hwnt i’r sir. Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei gynnal i gael yr unigolion yma ynghyd a plant gyda’r anableddau dwys yn rhan o’r cynllun.

¾    Tynnwyd sylw yn ogystal at ddisgyblion sydd yn cael eu haddysgu adref gan fod cynnydd mewn niferoedd o ganlyniad i’r pandemig. Eglurwyd fod cefnogaeth ar gael i’r teuluoedd drwy’r tîm lles.

¾    Rhoddwyd y cyd-destun ariannol gan bwysleisio fod y Cyngor wedi derbyn arian grant ond y bydd angen ariannu cost adnewyddu. Mynegwyd yn amodol ar ysgolion yn ariannu hanner y gost y bydd angen ymrwymo £2filiwn o falensau y Cyngor i adnewyddu y dyfeisiadau ymhen 5 mlynedd.

 

Awdur:Gwern ap Rhisiart a Huw Ynyr

Dogfennau ategol: