Agenda item

Prif gynllun arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio, mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau:

 

  1. Amserlenni
  2. Yn unol â'r cynlluniau, y dogfennau a'r Datganiad Amgylcheddol a gymeradwywyd.
  3. Deunyddiau.
  4. Draenio
  5. Amseroedd adeiladu.
  6. Tirlunio a chwblhau'r cynigion lliniaru.
  7. Gwarchod coed.
  8. Ymchwiliad archeolegol ym mharseli G a J.
  9. Mesurau lliniaru'r iaith Gymraeg - hysbysebu'r safle, enwau'r datblygiad, arwyddion mewnol.
  10. Parhau i fonitro ymlusgiaid.
  11. Y llwybr arfordir i gael ei wyro yn unol â'r llwybr a ddengys dros gyfnod y gwaith morglawdd ac iddo gael ei adfer ar ôl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau.
  12. Gosod trapiau saim ar y draeniau dŵr aflan yn y caffi.
  13. Cyflwyno CEMP
  14. Cyflwyno cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer safleoedd gwarchodedig (cynefinoedd)
  15. Defnydd gwyliau yn unig ar y safle, cadw cofrestr, llety ddim i'w ddefnyddio fel llety preswyl parhaol.
  16. Amodau datblygu graddol.
  17. Nifer yr unedau (75 carafán deithiol, 1,323 carafán sefydlog)

 

Er gwybodaeth:  SuDS, cyngor safonol CNC i'r datblygwr.

 

 

Cofnod:

Prif gynllun arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio, mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle (20/10/21)

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais. Gohiriwyd y penderfyniad ym mhwyllgor 4ydd Hydref 2021 er mwyn cynnal ymweliad safle. Eglurwyd bod y cais yn ceisio caniatâd llawn i ddymchwel 56 rhandy, creu seiliau newydd i leoli carafanau sefydlog, llety newydd i'r tîm, caffi traeth newydd gyda theras ac ardal chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, mân ail-alinio i Lwybr Arfordir Cymru yn ogystal â gwaith tirlunio cysylltiedig, draenio, mynediad a seilwaith ym Mharc Gwyliau presennol Hafan y Môr. 

 

b)    Rhannwyd y datblygiad yn barseli:

·      Parsel B - Lleoli 27 o garafanau sefydlog.

·      Parsel E - Lleoli 3 carafán sefydlog a chodi dau adeilad deulawr i ddarparu llety i staff.

·      Parsel F - Dymchwel 4 bloc rhandai (56 rhandy / 272 gofod i ymwelwyr) a lleoli 26 o garafanau sefydlog.

·      Parsel G - Lleoli 80 o garafanau sefydlog.

·      Parsel H - Ailddatblygu cyn safle gwaith trin carthion a chodi caffi unllawr gyda theras yn y blaen a maes parcio

·      Parsel I - Lleoli 18 o garafanau sefydlog.

·      Parsel J - Gwaith amddiffyn yr arfordir sy'n cynnwys gwaith ar 320m o'r arfordir. Mae’r bwriad yn golygu ail-linio'r arfordir i gyfeiriad y tir i greu traethau tywod a graean rhwng pedwar morglawdd cerrig amddiffyn ar siâp cynffon pysgodyn.  Bydd oddeutu 120m o'r gwaith yn cymryd lle'r amddiffynfeydd carreg linellol bresennol. Bydd Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn cael ei ail-alinio.

 

Trafodwyd y cynlluniau ac amlygwyd y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd mewn ymateb i ail ymgynghori gydag asiantaethau perthnasol. Ystyriwyd bod egwyddor prif agweddau'r datblygiad, oedd yn cynnwys gwaith ar forgloddiau, gosod carafanau sefydlog ychwanegol, darparu llety ychwanegol i staff ac adeiladu caffi, yn parhau yn dderbyniol wedi ystyried yr holl faterion cynllunio, gan gynnwys y polisïau a'r canllawiau lleol a chenedlaethol.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn cefnogi’r cais

·         Bod Hafan y Môr yn cynnig cyflogaeth leol - 96% o weithwyr yn lleol (bod canran o weithwyr (oddeutu 4%) o du allan i’r Sir, yn rhan o’r adloniant). Bod Rheolwyr yn derbyn cyflogau cystadleuol a’r gweithwyr tymhorol yn derbyn cyflogau uwch na’r cyflog isaf (minimum wage)

·         Bwriad  y cwmni oedd datblygu a moderneiddio’r safle

·         Bod y gwaith amddiffynfeydd arfordirol i’w groesawu

·         Bydd contractwyr lleol yn cael eu defnyddio i wneud y gwaith - rhai eisoes wedi cysylltu yn pryderu petai’r cais yn cael ei wrthod y byddent yn gorfod rhyddhau gweithwyr

·         Bod 14,000 yn llai o bobl yn defnyddio’r Parc o gymharu â defnydd y Parc yn ei anterth yn y 90au

·         Bod 26 acer o goed wedi eu plannu – rhain erbyn hyn yn goed aeddfed

·         Bod 20 acer o wyneb caled wed ei godi

·         Symud a moderneiddio'r adeilad staff yn unig yw’r bwriad - dim sail i wrthod hyn

·         Bod bwriad rhoi estyniad ar yr amgueddfa i uchafu hanes lleol

 

ch)  Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod ymweld â’r safle wedi bod yn fuddiol dros ben ac yn gyfle i weld lleoliadau a safleoedd y datblygiadau arfaethedig

·           Bod y lleoliad ar gyfer adeilad newydd i’r staff yn addas ac wedi ei sgrinio yn dda

·           Bod y safle yn drefnus a thaclus

·           Bod y carafanau ym mharsel G wedi eu gosod yn ôl ar y tir ac felly yn gwarchod yr olygfa ar hyd yr arfordir

·           Bod y Parc yn cynnig gwaith yn lleol - hyn yn hanfodol os am gadw ein pobl ifanc yn lleol

·           Bod y cabanau yn cael eu gwened ym Mhorthmadog ac felly’r Parc yn cefnogi  cyflogaeth busnesau lleol

·           Bod yr ymgeisydd wedi gwneud ymgais rhesymol i gyfarch yr angen

·           Bod y cais wedi ei gyflwyno ers Rhagfyr 2019 - yr ymgeisydd wedi cydweithio gyda’r Adran Economi a’r Adran Cynllunio - y cynllun yn fuddsoddiad mawr i Wynedd - 13m o fuddsoddiad preifat - pam dewis gwrthod hyn?

·           Y bwriad yw diweddaru a moderneiddio’r Parc fel ei fod yn ymateb i safonau a gofynion y 21ain ganrif

·           Nad oedd unrhyw newid i faint y safle.

 

·           Bod gormod o garafanau ar y safle

·           Llawer o arwyddion uniaith Saesneg

·           Nad oedd angen caffi ar y traeth - digon o lefydd bwyta o fewn y Parc - yr adeilad yn ymwthiol ar yr arfordir ac yn orddatblygiad

·           Byddai'r caffi newydd yn tynnu busnes oddiar bwytai eraill lleol ar yr arfordir

·           Angen ystyried goblygiadau llifogydd – CNC heb ymateb i bryder llifogydd dwr wyneb

 

dd)         Mewn ymateb i sylw bod y Cynghorydd Owain Williams yn berchennog maes carafanau cyfagos ac na ddylai gymryd rhan yn y drafodaeth, nododd y Pennaeth Cyfreithiol mai cyfrifoldeb y Cynghorydd oedd datgan buddiant, ond bod y Cynhgorydd wedi derbyn cyngor yn nodi gan nad oedd ei safle carafanau o fewn 6 milltir i’r Parc, nad oedd hyn yn cynnig elfen gystadleuol ac nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu.

 

Mewn ymateb i gais i ohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal trafodaeth bellach ynglŷn â’r niferoedd (gan nad oedd defnydd i 61 llain, awgrym  i diddymu’r 61 o’r cyfanswm 85  gan adael cynnydd o 24 yn unig, fyddai yn lleddfu pryderon Cyngor Cymuned), nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd a bod y nifer lleiniau ac effaith weledol eisoes wedi ei lleihau o ganlyniad i drafodaethau.  Amlygwyd bod rhaid ystyried y cais dan sylw a phetai cynnig i addasu'r cais, byddai disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno cais o’r newydd. Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol bod yr adroddiad yn un manwl ac mai moderneiddio ac uwchraddio’r parc oedd dan sylw a bod y polisïau yn gefnogol i’r egwyddor o uwchraddio.

 

Mewn ymateb i sylw am lifogydd, nodwyd nad oedd y safle wedi ei leoli o fewn parth llifogydd C1 a C2 ac nad oedd yr ystyriaethau yn newid o dan y TAN newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau:

 

1.      Amserlenni

2.      Yn unol â'r cynlluniau, y dogfennau a'r Datganiad Amgylcheddol a gymeradwywyd.

3.      Deunyddiau.

4.      Draenio

5.      Amseroedd adeiladu.

6.      Tirlunio a chwblhau'r cynigion lliniaru.

7.      Gwarchod coed.

8.      Ymchwiliad archeolegol ym mharseli G a J.

9.      Mesurau lliniaru'r iaith Gymraeg - hysbysebu'r safle, enwau'r datblygiad, arwyddion mewnol.

10.    Parhau i fonitro ymlusgiaid.

11.    Y llwybr arfordir i gael ei wyro yn unol â'r llwybr a ddengys dros gyfnod y gwaith morglawdd ac iddo gael ei adfer ar ôl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau.

12.    Gosod trapiau saim ar y draeniau dŵr aflan yn y caffi.

13.    Cyflwyno CEMP

14.    Cyflwyno cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer safleoedd gwarchodedig (cynefinoedd)

15.    Defnydd gwyliau yn unig ar y safle, cadw cofrestr, llety ddim i'w ddefnyddio fel llety preswyl parhaol.

16.    Amodau datblygu graddol.

17.    Nifer yr unedau (75 carafán deithiol, 1,323 carafán sefydlog)

 

Er gwybodaeth:  SuDS, cyngor safonol CNC i'r datblygwr.

 

Dogfennau ategol: