skip to main content

Agenda item

Adeiladu pont newydd, ail-alinio'r A497 a'r dynesiadau ynghyd a gwelliannau i gyffordd bresennol, torri coed a thirlunio newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig  i amodau

 

  1. Amser
  2. Unol a’r cynlluniau
  3. Bioamrywiaeth
  4. Priffyrdd
  5. Cytuno deunyddiau
  6. Archeoleg
  7. Cyflwyno Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol
  8. Tirlunio/Coed
  9. Materion llifogydd

 

Cofnod:

Adeiladu pont newydd, ail-alinio'r A497 a'r dynesiadau ynghyd a gwelliannau i gyffordd bresennol, torri coed a thirlunio eewydd

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn i adeiladu pont gerbydol newydd ac ail linio priffordd yr A497 oherwydd i’r bont wreiddiol ddioddef difrod strwythurol yn Ionawr 2019. Eglurwyd bod yr A497 yn un o’r prif lwybrau rhwng trefi Pwllheli a Nefyn gyda’r bont bresennol yn strwythur rhestredig gradd II ac yn sefyll dros afon Rhyd Hir. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i Ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli gyda safle bywyd gwyllt Gefail y Bont yn ymylu gydag ochr gogleddol y bont bresennol. Ategwyd bod yr ardal i’r de o’r bont, ble lleolir y bont newydd, o fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn.

 

Eglurwyd y byddai’r cynllun arfaethedig yn mesur oddeutu 600m o hyd, gan gynnwys cysylltiadau i'r ffordd gerbydau presennol ar y ddwy ochr. Bydd y bont arfaethedig yn fwa concrid wedi ei chladio â gwaith maen lleol. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais ac adroddwyd bod yr elfen llifogydd wedi cael sylw sylweddol

 

Nodwyd bod yr ardal o fewn parth llifogydd C2 ar  fapiau llifogydd cyfredol ac yn nogfen Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd (2004). I’r perwyl hyn, cyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd. Amlygwyd pryder gan Cyfoeth Naturiol Cymru nad oedd yr asesiad wedi arddangos sut y byddai’r risgiau a chanlyniadau hynny yn cael eu rheoli. O ganlyniad, cyflwynwyd asesiad diwygiedig er mwyn dangos y glir y mesurau rheoli’r risg llifogydd. Canfuwyd y byddai peth newid yn nyfnder llifogydd oherwydd natur y tir, ond nodwyd mai newid dibwys fyddai hyn mewn gwirionedd hyd yn oed yn ystod cyfnod eithafol. Awgrymwyd y byddai’r newid mwyaf rhwng y ddwy bont pan fydd disgwyl i ddŵr llifogydd godi’r llethr o boptu’r bont. Ategwyd bod bwriad prynu’r tir yma fel rhan o drefniadau adeiladu’r bont newydd.

 

Wedi ystyried yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd diwygiedig yn ogystal â'r wybodaeth berthnasol ychwanegol a gyflwynwyd, arddangoswyd yn ddigonol na fyddai’r datblygiad yn achosi unrhyw gynnydd mewn risg i fywyd nac unrhyw risg arwyddocaol i eiddo. Nid oedd gan CNC wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig ac felly, ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio â NCT 15 a pholisi ISA 1 o'r CDLl ar y Cyd.

 

O ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol ynghyd a’r holl sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ag yn unol â’r polisïau perthnasol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y datblygiad i’w groesawu

·         Ardal y bont yn beryglus

·         Gobaith cael y bont newydd wedi ei chwblhau erbyn Eisteddfod Dwyfor 2023

 

ch)  Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai’r bont yn un aml ddefnydd - yn llwybr cerdded, beicio  a marchogaeth, nodwyd bod bwriad defnyddio’r hen bont ar gyfer hyn.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig  i amodau

 

1.         Amser

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Bioamrywiaeth

4.         Priffyrdd

5.         Cytuno deunyddiau

6.         Archeoleg

7.         Cyflwyno Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol

8.         Tirlunio/Coed

9.         Materion llifogydd

 

Dogfennau ategol: