Agenda item

Cyflwyniad llafar gan Cynan Jones, Ymgynghorydd.

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd yn yr adroddiad Gwerthusiad Bws Fflecsi Llŷn a’r cyflwyniad llafar gan Cynan Jones, Ymgynghorydd a Wil Parry, O Ddrws i Ddrws.

Cofnod:

Croesawyd yr Ymgynghorydd Cynan Jones a Wil Parry, O Ddrws i Ddrws i’r cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y swyddog O Ddrws i Ddrws ble nododd mai amcan y prosiect Bws Fflecsi Llŷn oedd cynnig gwasanaeth oedd yn fwy hyblyg i deithwyr oedd eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn Llŷn.

 

Ymhelaethodd fod y prosiect Bws Fflecsi Llŷn wedi dod i fodolaeth yn Haf 2021 yn dilyn cynnig gan Drafnidiaeth i Gymru yn Ebrill 2021 i redeg Peilot Fflecsi yn Llŷn. Gwasanaeth bws ar alw, cornel i gornel oedd hwn; fe yrrwyd ymlaen efo’r Peilot gan fod cynlluniau eisoes yn bodoli i wneud bws arfordir Llŷn yn wasanaeth ar alw. Byddai’r cynllun hwn yn gwasanaethu ardaloedd ychwanegol i’r rhai oedd ar lwybr bws arfordir Llŷn. Y bwriad oedd creu gwasanaeth atodol i’r gwasanaethau cyhoeddus ac annog trigolion lleol ac ymwelwyr i ddefnyddio llai ar eu ceri. Gellir archebu’r bws dros y ffôn neu drwy’r Ap.

 

Adroddwyd fod y sefyllfa Cofid19 wedi creu ansicrwydd yn enwedig yng ngwanwyn 2021 pan roedd hi’n anodd cynllunio ymlaen llaw. Cydnabyddwyd fod pethau wedi mynd o’i le; roedd oedi ynghylch yr Ap a materion hawlfraint ynglŷn â diweddaru taflen gan y dylunydd. Ymddiheurwyd na chafodd yr AHNE na Chyfoeth Naturiol Cymru'r sylw a’r cyhoeddusrwydd haeddiannol. Bydd y gwasanaeth yn parhau yn 2022, gobeithiwyd y bydd yr amgylchiadau yn fwy sefydlog bryd hynny.

 

Tywysodd yr Ymgynghorydd y Cydbwyllgor drwy ei werthusiad o’r gwasanaeth gan nodi fod yr Ap wedi gweithio yn eithriadol o dda, e.e. gwybodaeth gyfredol am leoliad y bws yn cael ei ddarparu’n amserol. Roedd y bws hefyd yn cyrraedd pen ei daith yn amserol os nad cynnar. Nodwyd fod y gwasanaeth bws Fflecsi Llyn wedi sgorio 4.9 allan o 5 ar yr Ap gan ddefnyddwyr y gwasanaeth oedd yn galonogol iawn. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd ei fod wedi derbyn rhagor o ystadegau heddiw, bydd yn ychwanegu’r rhain i’w adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

-       Gofynnwyd o fewn pa gyfnod gafodd y ffigwr o 1590 o geisiadau eu derbyn.

-       Mynegwyd diddordeb i gymharu nifer teithwyr o wasanaeth bws 2019 i’r niferoedd yma ac os oedd modd gwneud hyn.

-       Gofynnwyd faint o rybudd oedd ei angen i archebu’r bws. Pryderwyd ein bod yn ymadael â gwasanaeth sefydlog a dibynadwy efo gwasanaeth fyddai’n anodd ei ddefnyddio ar y diwrnod.

-       Holiwyd faint o dwristiaid a faint o bobl leol oedd yn defnyddio’r gwasanaeth.

-       Cwestiynwyd os oedd y gwasanaeth hwn wir yn lleihau ôl-troed carbon.

-       Pryderwyd y byddai’r gwasanaeth hwn yn gwanhau’r gwasanaeth bws cyhoeddus a chwestiynwyd beth fyddai’n digwydd i’r gwasanaeth craidd yno petai llai a llai yn ei ddefnyddio a grantiau fel y fenter hon yn rhedeg allan.

-       Awgrymwyd i edrych ymhellach na cherddwyr ac i gysidro darparu gwasanaeth tebyg gyda’r nos.

 

Mewn ymateb, nodwyd:

-       Bod 1590 o geisiadau wedi eu derbyn rhwng 19 Gorffennaf 2021 i 1 Tachwedd 2021, o’r rhain fe gafodd 1469 o deithiau eu cynnal.

-       Ei bod yn anodd cymharu’r prosiect yma oherwydd ei fod yn wasanaeth gwahanol i’r arfer, h.y. yn wasanaeth sy’n cario llai o deithwyr, ac oherwydd y cyfnod Cofid19. 

-       Y gallai’r bws gael ei archebu mewn mater o oriau ond yn gyffredinol, cyfartaledd archebu ar yr Ap oedd 2 ddiwrnod ymlaen llaw. Nodwyd mai £3 oedd pris siwrnai unffordd, ychwanegwyd fod y pris yma yn rhatach o lawer na phris Tacsi.

-       Bod angen darganfod ffordd i fesur faint o dwristiaid a faint o bobl leol sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Gwerthfawrogwyd y sylw ac awgrymwyd efallai fod modd gofyn beth yw’r rheswm dros y siwrnai fyddai yn rhoi mwy o wybodaeth am bwy sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

-       Fod y dystiolaeth o lefydd eraill yn cefnogi fod y gwasanaeth hwn yn lleihau ôl-troed carbon. Ychwanegwyd y bydd O Ddrws i Ddrws efo bws mini trydan flwyddyn nesaf fydd yn lleihau ôl troed carbon yn sylweddol.

-       Mewn ymateb i bryderon am y gwasanaeth bws cyhoeddus, eglurwyd mai pwrpas y prosiect hwn oedd i weld os oes yna ffordd wahanol o ddarparu’r gwasanaeth craidd. Cydnabwyddwyd fod angen mwy o waith i edrych ar integreiddio yn hytrach na dyblygu. Ychwanegwyd fod y gwasanaeth bws cyhoeddus fel y mae bellach yn aneffeithiol a chynigiwyd bod angen i’r gwasanaeth yno fod yn fwy hyblyg. Byddai’r Swyddog O Ddrws i Ddrws yn falch iawn o weld un o ddarparwyr gwasanaeth bysiau cyhoeddus yn rhedeg y gwasanaeth yma gan ei fod mor gyfleus a hyblyg ac yn lleihau milltiroedd gwag y bws sy’n ei wneud yn fwy cost effeithiol.

-       Eglurwyd fod Trafnidiaeth i Gymru a Chyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad o holl rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus Gwynedd ar hyn o bryd.

         

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd yn yr adroddiad Gwerthusiad Bws Fflecsi Llŷn a’r cyflwyniad llafar gan Cynan Jones, Ymgynghorydd a Wil Parry, O Ddrws i Ddrws.