I ystyried y wybodaeth, risgiau sy’n deillio o’r strategaeth, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad ar gais yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi amserlen,
rhagolygon a risgiau perthnasol yng nghyswllt strategaeth cyllideb y Cyngor i’r
Pwyllgor. Gosodwyd cyd-destun i’r adroddiad gan amlygu i’r Cabinet ystyried yr
adroddiad 28 Medi 2021. Penderfynodd y Cabinet gymeradwyo’r drefn ac amserlen
llunio Cyllideb 2022/23, gan nodi os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb
2022/23, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru
colledion adnoddau yn y tymor byr, a phwyllo cyn adnabod arbedion ychwanegol
fydd angen yn ystod Haf 2022. Hefyd, penderfynodd y Cabinet dderbyn cynnwys yr
adroddiad fel Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, gan nodi bod cynllunio
ariannol yn hynod heriol.
Mynegwyd bod sawl cais eleni am adnoddau ychwanegol o ganlyniad i bwysau
ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd mai Grant Llywodraeth Cymru yw prif
ffynhonnell ariannol y Cyngor a bod y Llywodraeth wedi nodi eu bwriad i
gyhoeddi setliad drafft 2022/23 ar gyfer awdurdodau
lleol ar 21 Rhagfyr 2021 a’r setliad terfynol ar yr 2il o Fawrth 2022. Eglurwyd bod yr
amserlen yma’n un hynod heriol a bod ansicrwydd ariannol o ganlyniad i’r pandemig.
Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Cyllid bwysigrwydd y seminarau rhithiol ar
y gyllideb i aelodau ym mis Ionawr, a phwysodd ar bawb i bresenoli eu hunain yn
y sesiynau.
Nododd y Pennaeth Cyllid, bod cais i isafu unrhyw newid rhwng y setliad
ddrafft a'r setliad grant terfynol, gan mai anodd, o dan yr amgylchiadau
presennol yw cynllunio ar gyfer 2022/23. Ategodd bod niferoedd Covid yn parhau’n uchel yng Ngwynedd ac nad oedd arwydd
clir o pryd fydd y wlad a’r byd yn adfer. Cyfeiriodd at gefnogaeth y Gronfa
Galedi sydd ar hyn o bryd yn ariannu costau sylweddol ychwanegol ym meysydd
digartrefedd, gofal, a phrydau ysgol am ddim, ond amlygodd ei bryder o
ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol na fydd Cronfa Caledi o
Ebrill 2022 ymlaen. O ganlynaid, byddai gallu’r
Cyngor i barhau i gyllido’r gwasanaethau uchod ar lefel uwch yn ddibynnol ar
ddyraniad arian ychwanegol yn y setliad.
Cyfeiriwyd at ragdybiaethau oedd yn gosod tri senario - gorau, canolog a
gwaethaf o fewn rheswm. Er yn ragdybiaethau bras, nodwyd bod sefyllfa gyllidol
gadarn y Cyngor a chronfeydd wrth gefn iach yn golygu fod modd defnyddio’r
cronfeydd hyn i liniaru sefyllfa tymor byr. Tynnwyd sylw at yr heriau fydd yn
wynebu’r Cyngor, yn cynnwys adferiad Covid, a
chynnydd chwyddiant mewn cyflogau, yswiriant cenedlaethol, cost tanwydd, ayb.
Mynegwyd nad oedd rheswm i addasu’r strategaeth, gan nad oedd
tystiolaeth digonol ar hyn o bryd i wneud hynny
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-
·
Bod yr argymhelliad i
ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i liniaru sefyllfa yn gam positif iawn ar gyfer
y tymor byr.
·
Cydweld gyda defnyddio cronfeydd
wrth gefn fel nad oes toriadau.
·
A oes ystyriaeth goblygiadau i
ffordd newydd o weithio wedi eu hystyried?
·
Bod trefn gadarn a
llwyddiannus o fonitro arbedion - hawdd fyddai defnyddio reserfau
- angen rhannu neges gydag adrannau yn nodi, er nad oes arbedion newydd wedi’u
cynllunio, y bydd angen i’r Cyngor weithio yn effeithiol, ac awgrymwyd rhoi
trefn effeithlonrwydd yn ei le.
Mewn ymateb i gwestiwn o effaith Covid ar
gyllideb y Cyngor i’r dyfodol, nododd y Pennaeth Cyllid bod Covid
wedi golygu gwariant sylweddol uwch dros y 18 mis diwethaf. Er hynny mae’r hyn
mae Gwynedd wedi ei hawlio gan y Gronfa Caledi wedi profi yn anrhydeddus iawn.
Penderfyniad y Cyngor yn fuan iawn ar ddechrau’r pandemig
oedd blaenoriaethu iechyd a diogelwch trigolion y Sir, ac wrth i’r Llywodraeth
gamu i mewn wedyn gyda chyfraniadau roedd darlun iach i gyllidebau Gwynedd ar
ddiwedd 2020/21, a’r cronfeydd wrth gefn bellach ar gael i ymdrin gyda
photensial o ergyd ariannol yn 2022/23.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag arbedion costau rhedeg swyddfeydd a
chostau teithio, nodwyd nad oedd costau teithio’r aelodau etholedig a staff
swyddfa yn arwyddocaol o safbwynt cyllideb gyfan y Cyngor, ac nad oedd cwtogiad
aruthrol yn y costau hyn oherwydd bod staff gofal, a staff allanol eraill, yn
gorfod parhau i deithio er mwyn cyflawni eu dyletswyddau.
Mewn ymateb i sefydlu trefn
effeithlonrwydd, awgrymwyd bod cyfle bob amser i wella hyd yn oed mewn
argyfwng. Ystyriwyd mai’r ‘drefn’ fyddai peidio rhuthro gan barhau i fonitro
arbedion hanesyddol gyda phwyslais ar adrannau i gymryd perchnogaeth.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad
·
Nodi’r amserlen, y rhagolygon a’r risgiau
perthnasol yng nghyswllt cyllideb y Cyngor
·
Derbyn penderfyniadau’r Cabinet (28 Medi 2021)
Dogfennau ategol: