Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2021 bod gweithgarwch buddsoddi a benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2021/ 22.

 

Cyfeiriwyd at y cyd-destun allanol oedd yn cyfeirio at y cefndir economaidd, marchnadoedd ariannol ac adolygiad credyd. Yng nghyd -destun benthyca, amlygwyd y gall awdurdodau lleol fenthyca gan Fwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) ar yr amod eu bod yn gallu cadarnhau nad ydynt yn bwriadu prynu ‘asedau buddsoddi yn bennaf ar gyfer cynnyrch’ yn y ddwy flynedd ariannol gyfredol neu nesaf, gyda chadarnhad o bwrpas gwariant cyfalaf gan y Swyddog Adran 151. Nid yw’r Awdurdod yn bwriadu prynu unrhyw asedau buddsoddi yn bennaf ar gyfer cynnyrch o fewn y tair blynedd nesaf ac felly mae’n gallu cyrchu’r PWLB yn llawn - ystyriwyd benthyca o’r PWLB fel yr opsiwn gorau

 

Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol sydd yn cael eu rheoli yn allanol lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai o ystyriaeth. Er bod y gwerth cyfalaf cyfun o £9.243m yn llai na’r buddsoddiad cychwynnol o £10m, gwnaed y buddsoddiadau gan wybod y byddai gwerthoedd cyfalaf yn ansefydlog ar fisoedd, chwarteri a hyd yn oed blynyddoedd; ond gyda'r hyder y bydd cyfanswm yr enillion dros gyfnod o dair i bum mlynedd yn uwch na chyfraddau llog arian parod. O ganlyniad gwireddir yr amcanion drwy sefydlogrwydd prisiau tymor canolig.

 

Cyfeiriwyd at ddefnydd Swyddfa Rheoli Dyledion fel cerbyd buddsoddi sydd yn talu ychydig mwy nag eraill ac yn hyblyg, hawdd a diogel i’w ddefnyddio. Er bod y cyfraddau yn isel a’r rhagolygon yn wan ac ansefydlog, adroddwyd bod y Cyngor yn buddsoddi cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol;

 

Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio’n llawn gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys ac yng nghyd-destun hyfforddiant buddsoddi bod swyddogion, yn ystod y cyfnod, wedi mynychu hyfforddiant buddsoddi gydag Arlingclose a CIPFA sy’n berthnasol i’w swyddi. Tynnwyd sylw at ddiwygiadau i godau CIPFA oedd yn cynnwys

·         Cynnwys materion ESG fel ystyriaeth o fewn Rheolaeth Risgiau TMP 1.

·         Ffocws ychwanegol ar wybodaeth a sgiliau swyddogion ac aelodau etholedig sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau.

 

Amlygwyd bod Arlingclose yn disgwyl i'r Gyfradd Banc gynyddu yn Ch2 2022 a hyn oherwydd dymuniad Banc Lloegr i symud o lefelau argyfwng gymaint ag ofn pwysau chwyddiant. Mae buddsoddwyr wedi cynnwys sawl cynnydd yn y Gyfradd Banc i 1% erbyn 2024 yn eu prisiadau. Er bod Arlingclose yn credu y bydd y Gyfradd Banc yn codi, ni fydd mor uchel â disgwyliadau'r marchnadoedd.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod y perfformiad yn dderbyniol er gwaethaf cyfraddau llog echrydus o isel.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Bod defnyddio PWLB i’w groesawu - sicrhau nad yw arian ar gael ar gyfer masnachu

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gallu’r Awdurdod Lleol i fuddsoddi mewn eiddo neu  adeiladu / prynu tai yn lleol, nododd y Pennaeth Cyllid bod yr Awdurdod yn gwneud hyn drwy’r Strategaeth Tai (er bod Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ar yr hyn y gellid ei wneud). Ategwyd nad oedd yr un tŷ wedi ei brynu hyd yma gan fod y ‘model’ yn edrych am eiddo penodol / pwrpasol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pa mor aml mae’r cyfyngiadau yn cael eu monitro, nodwyd bod hyn yn cael ei wneud yn flynyddol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pheidio buddsoddi mwy mewn banciau a chymdeithasau adeiladu ac awdurdodau, nodwyd bod cyfyngiadau Banc ar yr elfennau hyn a bod angen cadw o fewn y canllawiau gan wneud y gorau o’r hyn sydd ar gael er nad oes llawer o hyblygrwydd.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys

 

Dogfennau ategol: