Agenda item

I ystyried yr adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2021 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2021/ 22.

Penderfynwyd yn y Pwyllgor Pensiynau, 25 Mawrth 2021 i ganiatáu i gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno a’u cyd-fuddsoddi â llif arian cyffredinol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.

Eglurwyd bod rhaglen lwyddiannus i gyflwyno brechiadau yn bositif o ran credyd yn gyffredinol i'r sector gwasanaethau ariannol, ac o ganlyniad i'r rhagolwg economaidd gwell bod rhai sefydliadau wedi gallu lleihau'r darpariaethau ar gyfer benthyciadau gwael. Adroddwyd bod y cyfnod wedi bod yn un heriol, ond gyda’r cyfyngiadau yn llacio gwelwyd mwy o weithgaredd yn ail chwarter y flwyddyn. Nodwyd hefyd bod Arlingclose wedi estyn uchafswm cyfnod rhai buddsoddiadau i 100 diwrnod.

Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol sydd yn cael eu rheoli yn allanol lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai o ystyriaeth. Er bod y gwerth cyfalaf cyfun o £9.243m yn llai na’r buddsoddiad cychwynnol o £10m, gwnaed y buddsoddiadau gan wybod y byddai gwerthoedd cyfalaf yn ansefydlog ar fisoedd, chwarteri a hyd yn oed blynyddoedd; ond gyda'r hyder y bydd cyfanswm yr enillion dros gyfnod o dair i bum mlynedd yn uwch na chyfraddau llog arian parod. O ganlyniad gwireddir yr amcanion drwy sefydlogrwydd prisiau tymor canolig.

Cyfeiriwyd at ddefnydd Swyddfa Rheoli Dyledion fel cerbyd buddsoddi sydd yn talu ychydig mwy nag eraill ac yn hyblyg, hawdd a diogel i’w ddefnyddio. Er bod y cyfraddau yn isel a’r rhagolygon yn wan ac ansefydlog, adroddwyd bod y Cyngor yn buddsoddi cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol; yn parhau i wneud eu gorau i geisio enillion drwy wasgaru risg, ond hefyd yn gweithredu yn ofalus yn unol â chyngor Arlingclose.

Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio’n llawn gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys ac yng nghyd-destun hyfforddiant buddsoddi bod swyddogion, yn ystod y cyfnod, wedi mynychu hyfforddiant buddsoddi gydag Arlingclose a CIPFA sy’n berthnasol i’w swyddi.

Amlygwyd bod Arlingclose yn disgwyl i'r Gyfradd Banc gynyddu yn Ch2 2022 a hyn oherwydd dymuniad Banc Lloegr i symud o lefelau argyfwng gymaint ag ofn pwysau chwyddiant. Mae buddsoddwyr wedi cynnwys sawl cynnydd yn y Gyfradd Banc i 1% erbyn 2024 yn eu prisiadau. Er bod Arlingclose yn credu y bydd y Gyfradd Banc yn codi, ni fydd mor uchel â disgwyliadau'r marchnadoedd.

Adroddwyd bod £25m o arian parod y Gronfa Bensiwn wedi ei fuddsoddi yng Nghronfa Incwm Sefydlog Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Hydref 2021 sydd yn lleihau lefel arian parod y Gronfa. Nid yw’r Gronfa eisiau cadw lefel uchel o arian parod gan fod dychweliadau yn isel, ac felly yn buddsoddi unrhyw arian dros ben gyda’r rheolwr buddsoddi pan mae hylifedd yn caniatáu.

Nododd y Pennaeth Cyllid bod y perfformiad yn dderbyniol er gwaethaf cyfraddau llog echrydus o isel.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:

·         Bod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn llwyddiannusangen llongyfarch hyn

·         Bod Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi ychwanegu gwerth a sefydlogrwydd

·         Bod y Cyngor yn mesur a rheoli ei ddatguddiad at risgiau rheolaeth trysorlys wrth ddefnyddio'r dangosyddion perthnasol.

PENDERFYNWYD

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Dogfennau ategol: