Agenda item

I ystyried yr adroddiad ynghyd ag ymatebion Cyngor Gwynedd i’r argymhellion

 

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo ymateb Cyngor Gwynedd i argymhellion Archwilio Cymru

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn amlygu ymatebion Cyngor Gwynedd i adroddiad gan Archwilio Cymru yng nghyswllt cynaliadwyedd ariannol y Cyngor. Tynnwyd sylw at bedwar argymhelliad oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Croesawyd Alan Hughes, Archwilydd Arweiniol o Archwilio Cymru i gyflwyno’r canfyddiadau.

 

Nodwyd bod gan y Cyngor ddealltwriaeth dda o’i sefyllfa ariannol, ond bod sawl her ariannol o hyd gan gynnwys parhau i gario drosodd arbedion heb eu cyflawni sydd yn achosi pwysau ariannol heb ei datys ar wasanaethau ac y bydd canfod a chyflawni arbedion yn fwy o her yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at yr ymatebion gan ofyn i’r Pwyllgor gefnogi’r gweithredu.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Yn argymhelliad 2 a 3 bod angen ystyried nad gofynion data cyllidol sydd yma

·         Pwysig i’r Cyngor wneud defnydd o wybodaeth gefndirol

·         Bod pob penderfyniad ariannol yn seiliedig ar ddata

·         Pam yr angen i ragweld 3 blynedd i’r dyfodol? Nid oes gan y Llywodraeth gynllun 3 blynedd pam felly gofyn i’r Cyngor wneud? Derbyn bod posib rhagweld ond ni fyddai sail cadarn i dafluniadau

·         Nodyn ‘tystiolaeth i ddangos defnydd o gronfeydd wrth gefn i wella a thrawsnewid gwasanaethau a all yn eu tro helpu a chynaliadwyedd y Cyngor’ – gofynnwyd i Archwilio Cymru am enghraifft o sefyllfa – angen gwybodaeth ehangach

·         A’i sylwadau cyffredinol sydd dan sylw ynteu wendidau mewn adrannau?

 

Cytunwyd gyda’r sylw bod data yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau buddsoddi ond y gellid defnyddio data cyfredol hefyd i ddad-fuddsoddi lle efallai nad oes galw  neu wneud pethau yn wahanol. Ystyriwyd bod £71m wrth gefn yn swm sylweddol all gyfrannu tuag at raglenni trawsnewidiol fyddai'n gwneud gwasanaeth cynaliadwy

 

Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cyllid bod arian wrth gefn yn cyfrannu at brosiectau newydd e.e., strategaeth technoleg gwybodaeth ysgolion, swydd prosiect rheoli hinsawdd, gwella Galw Gwynedd, ac fe anogir adrannau i gyflwyno cynlluniau ynghyd a bidiau am arian.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adrannau yn cyflwyno cynlluniau ac os yw’r cynlluniau yn cael eu gwyntyllu i sicrhau bod yr arian yn mynd i’r lle iawn, nodwyd bod llu o gynlluniau wedi eu cyflwyno ac y byddai’r Cabinet yn trafod bidiau ym mis Ionawr.

 

Mewn ymateb i sylw am ragolygon tair blynedd, nododd yr Archwilydd bod gwerth mewn rhagolygon, er nad oes ffynhonnell ariannol wedi ei gytuno. Awgrymwyd mai data ariannol  sydd yn rhan o’r sgwrs bresennol, ond y gellid ystyried gwybodaeth gefndirol megis twf yn y galw, achosion cymhleth neu brisiau marchnad fel enghreifftiau fyddai’n cyfoethogi’r sgwrs. Nodwyd bod y broses rheoli perfformiad yn cael ei foderneiddio gyda gosodiad mesurau a dangosyddion, er yn anffodus nid yw’n cael ei wneud gan bob adran. Ategodd bod cyfeiriad y Cyngor yn galonogol a’i fod yn hyderus yng ngallu'r Cyngor i weld newidiadau gan ddefnyddio cyd-destun sefyllfaoedd - byddai hyn yn rhoi'r Cyngor mewn lle da.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Aelod Cabinet bod angen ystyried a defnyddio pob math o ddata er mwyn cynnig gwell gwasanaethau i drigolion

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cymeradwyo ymateb Cyngor Gwynedd i argymhellion Archwilio Cymru

Dogfennau ategol: