I ystyried yr adroddiad a chytuno ar yr argymhelliad ynglŷn a maint y Pwyllgor i’r dyfodol.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro yn diweddaru'r Pwyllgor ar
gynnydd yn y rhaglen waith mewn ymateb i Ddeddfwriaeth sy’n cyflwyno newidiadau
a grymoedd llywodraethiant Llywodraeth Leol yng Nghymru. Atgoffwyd yr Aelodau
bod y Pwyllgor wedi mabwysiadu rhaglen waith (Mai 2021) sy’n ymateb i ddarpariaethau a gofynion
y Ddeddf ac sy’n cyfarch y camau mewn modd amserol a phriodol.
Tynnwyd sylw at newidiadau penodol statudol i
swyddogaethau a chyfansoddiad y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o fewn y Ddeddf
gan gyfeirio at yr atodiad oedd yn amlinellu prif newidiadau i’r
Cyfansoddiad. Adroddwyd, gyda thraean yr
aelodaeth yn Aelodau lleyg, bod hysbyseb i ganfod aeldoau wedi ei chyhoeddi a
bod cyfundrefn gyda phanel penodi mewn lle i argymell i’r Cyngor Llawn fydd yn
cymeradwyo’r penodiadau yn unol a drefn a sefydlwyd Mai 2017.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol cafwyd y
cwestiynau a’r ymatebion canlynol:
·
A oes modd i
Gynghorydd sydd yn ymddeol roi ei enw ymlaen fel Aelod Lleyg?
Byddai rhaid cael bwlch o 12 mis rhwng ymddeol a
gwneud cais
·
A fydd y
Cadeirydd yn derbyn tal am fod yn Gadeirydd?
Bydd Cadeirydd yn derbyn lwfans aelod cyfetholedig
sydd wedi ei osod gan y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
·
A oes ymateb wedi ei
dderbyn i’r hysbyseb?
Dyddiad cau yw Tachwedd 25ain - gwybodaeth wedi ei
rannu gyda’r Aelodau i annog rhywun addas i geisio
·
Pwy fydd
yn penodi’r Aelodau Lleyg?
Yn unol â threfn a sefydlwyd yn Mai 2017, bydd y
panel yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Aelod
Cabinet Cyllid a fydd wedi eu cynghori gan y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog
Monitro. Bydd y ceisiadau yn cael eu hystyried ac argymhelliad yn cael ei
gyflwyno i’r Cyngor llawn.
·
A fydd
Cynghorau ymylol yn chwilio am yr un Aelodau ac a fydd modd i un person fod yn
aelod ar ddau bwyllgor?
Derbyniol i Aelodau fod yn aelodau Pwyllgor mewn
mwy nag un Sir
·
Os methu
penodi a fydd ‘sedd wag’ yn cael ei nodi?
Er bod penodi efallai yn heriol, os na fydd pob
sedd yn cael ei llenwi, bydd rhaid amlygu sedd wag
·
A yw’r Aelodau Lleyg
yn gorfod bod o Wynedd?
Dim rhaid i aelodau fod o Wynedd, ond bod gofyn
iddynt fod a chysylltiad a’r Sir
·
Pwy fydd
yn monitro safon? A fydd balans gwleidyddol yn cael ei ystyried?
Bod aelodau lleyg gyda barn annibynnol - bydd angen
i unrhyw fuddiant gael ei gofnodi gyda manylion cofrestru gyda phlaid
wleidyddol
·
A fydd
modd ystyried cynnal cyfarfod anffurfiol i bawb ddod i adnabod ei gilydd cyn
dechrau’r drefn newydd?
Hyn heb ei drafod yn swyddogol. Nodwyd ynghyd ag
aelodau lleyg y bydd aelodau newydd posib hefyd ar y Pwyllgor, felly derbyn yr
awgrym i gynnal sgwrs ymlaen llaw yn nodi dyheadau rôl, cyn efallai penodi
Cadeirydd
·
Gydag
Aelod Lleyg i’w benodi fel Cadeirydd ar y Pwyllgor, awgrym i’r panel cyfweld
holi ymgeiswyr os ydynt yn ystyried eu hunain yn addas ar gyfer bod yn
Gadeirydd.
Posib holi os oes ‘diddordeb’ gan ymgeisydd i fod
yn Gadeirydd. Ategwyd bod yr hysbyseb
hefyd yn amlygu hyn
·
Os
penodi 4 aelodau lleyg a fydd yn dderbyniol cael dwy sedd wag os penderfynir
parhau gydag 18 aelod?
Os mai'r penderfyniad fydd parhau gydag 18 aelod
dyma beth fydd cyfansoddiad yr aelodaeth ar gyfer y Pwyllgor - bydd angen
parhau i geisio llenwi’r seddau gwag.
·
Derbyn
bod newidiadau sylweddol i’r Pwyllgor hwn - bydd gweld colli nifer o aelodau
profiadol
PENDERFYNWYD
·
Cymeradwyo cynnydd yn y Rhaglen Waith a cheisio diweddariad ar gyfer
cyfarfod Mis Chwefror
·
Argymell i’r Cyngor Llawn maint cyfansawdd o 18 aelod ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio - 12 Aelod Cyfetholedig a 6 Aelod Lleyg. I fod yn weithredol o 5
Mai 2022
·
Derbyn y newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad – newidiadau statudol i’w
cyflawni gan y Swyddog Monitro yn unol a’i hawl dan y Cyfansoddiad.
Wrth ddod ar cyfarfod i ben amlygodd y Cadeirydd mai dyma gyfarfod
diwethaf Mr Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid) - diolchwyd iddo am ei waith, ei
gefnogaeth i’r Pwyllgor a’i agwedd broffesiynol o sicrhau bod y Cyngor mewn
dwylo da. Dymunwyd ymddeoliad hyblyg hapus iddo.
Dogfennau ategol: