skip to main content

Agenda item

Newid defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Penderfyniad:

Gohirio fel bod modd trafod cynlluniau diwygiedig yn ymwneud a’r fynedfa

 

Cofnod:

 

Newid defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol, oddeutu 1/3 o gae pori presennol,  i barc carafanau teithiol. Byddai’r gwaith yn cynnwys :

·         40 llain gwair anffurfiol yn mesur o leiaf 8m x 8m

·         Ffordd fynediad 3.6m o led wedi ei greu o gerrig mâl yn ffurfio rhwydwaith unffordd trwy’r safle - fe fyddai hefyd llecyn ar gyfer gwefru ceir trydan.

·         Gofod chwarae diogel yng nghanol y safle.

·         Bloc amwynderau yn darparu toiledau, cawodydd a chyfleusterau golchi - fe fyddai hwn yn adeilad pren gyda tho fflat, 11.4m x 6.8m o arwynebedd llawr a 2.6m o uchder.

·         Creu clawdd newydd ar hyd ffin orllewinol y safle - fe fydd hwn wedi ei ffurfio o 2m o bridd gyda phlanhigion gwrych brodorol wedi eu plannu arno.

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored oddeutu 1.1km i’r gorllewin o glwstwr Llannor fel y'i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn; oddeutu 300m ar hyd ffordd, sy’n rhannol breifat a rhannol ddi-ddosbarth, o briffordd yr A497 sy’n arwain o Bwllheli i Nefyn.

Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth oedd yn nodi bod sawl cofnod o adar sydd wedi’i restru o dan adran 7 Deddf yr Amgylchedd (2016) ar neu yn agos at y safle ac awgrymwyd bod yr ymgeisydd yn darparu Asesiad Ecolegol Cychwynnol o’r safle. Amlygwyd pryder hefyd ynghylch effaith gwella’r mynediad i’r safle ar y coed a gwrychoedd gerllaw. Adroddwyd nad oedd gwybodaeth ynghylch y materion hyn wedi eu derbyn  gan yr ymgeisydd fodd bynnag, ystyriwyd, drwy osod amodau ar gyfer sicrhau mesurau lliniaru priodol, y gall y cynnig fod yn dderbyniol o safbwynt ei effaith bioamrywiaeth ac y gellid, yn y pendraw, fodloni gofynion polisi PS 19.

Mewn ymateb i sylwadau gwreiddiol yr Uned Trafnidiaeth, cyflwynwyd cynhigion pellach ar gyfer sicrhau y gellid cael mynediad diogel at y safle. Fodd bynnag, er gwaetha’r gwelliannau a gynigiwyd, roedd yr Uned Trafnidiaeth yn parhau i fod â phryderon â’r cynllun. Ystyriwyd bod y datblygiad yn debygol o ddenu mwy o draffig ar hyd y ffordd gul at y safle ac, er yn cydnabod y bwriad o gyflwyno man pasio ychwanegol ar y ffordd ddi-ddosbarth yn ogystal â chyflwyno marciau ffordd ar ei gyffordd gyda’r ffordd breifat, roedd y pryder ynghylch diffyg gwelededd ar y gyffordd, rhwng y ffordd ddi-ddosbarth a’r A497 yn parhau. Nid oedd y cynigion a wnaethpwyd megis torri’r gwrych ar yr A489 ger y gyffordd i uchder o 1.1m am 100 lath i gyfeiriad Nefyn, yn ddigonol i oroesi problemau diogelwch o ganlyniad i ddiffyg gwelededd ar y ffordd sy’n llawer is na’r safonau delfrydol. Amlygwyd bod y Gwasanaeth bellach wedi derbyn cynllun diwygiedig ar gyfer y gyffordd a bod yr argymhelliad bellach i ohirio’r penderfyniad fel bod modd trafod y cynlluniau hyn gyda’r ymgeisydd.

b)    Cynigwyd ac eiliwyd gohirio’r cais

PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel bod modd trafod cynlluniau diwygiedig yn ymwneud a’r fynedfa

 

 

Dogfennau ategol: