skip to main content

Agenda item

 

Newid defnydd yr adeilad i ddefnydd cymysg o siopau ar y llawr daear a chreu 6 uned gwyliau hunan-gynhaliol ar y lloriau uchod

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Penderfyniad:

Caniatáu - amodau

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 
  2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif   D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1  a  D794.20P1  a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
  3. Bydd yr unedau gwyliau cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac ni fyddant yn cael eu meddiannu fel unig neu brif breswylfa person. Bydd perchenogion/gweithredwyr yr unedau cadw cofrestr, cofnod cyfamserol o enwau holl berchenogion/deiliaid yr unedau ar y safle a chyfeiriadau eu prif gartref a byddant yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael ar bob adeg resymol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
  4. Ni ddylai unrhyw ddatblygiad (yn cynnwys addasiadau strwythurol neu waith dymchwel) gymryd lle heb fod manylion ar gyfer rhaglen cofnodi archeolegol wedi’i gyflwyno a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dylai ymgymryd â’r datblygiad a’r holl waith archeolegol yn gwbl unol a’r manylion a ganiateir.
  5. Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag amod (a), a chyflwynwyd a chytunwyd yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol. 
  6. Ni chaniateir i ddŵr wyneb oherwydd cynnydd mewn arwynebedd to'r adeilad neu / neu hwynebau anhydraidd o fewn y cwrtil gysylltu, unai yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i'r gyfundrefn garthffos gyhoeddus.
  7. Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i gydweddu’r ffenestri presennol.  Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.   
  8.  Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.
  9. Rhaid i'r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r to. 
  10. Cyn cychwyn y gwaith a ganiateir yma rhaid cyflwyno manylion lleoliad i osod blychau nythu gwenoliaid du, a’u gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllun Lleol, a'u darparu ar y safle yn unol â'r manylion a gytunwyd.
  11. Rhaid i unrhyw arwyddion sy’n hysbysebu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle fod yn Gymraeg neu’n ddwyieithog gyda blaenoriaeth i’r Gymraeg.

Nodyn: Datblygwr i drafod posibiliadau cynnig tocyn parcio lleol i ddefnyddwyr yr adeilad gyda'r Gwasanaeth Trafnidiaeth

Cofnod:

Newid defnydd yr adeilad i ddefnydd cymysg o siopau ar y llawr daear a chreu 6 uned gwyliau hunangynhaliol ar y lloriau uchod

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd i newid defnydd adeilad sydd yn gyn clwb cymdeithasol i ddefnydd cymysg o swyddfa ar y llawr daear a 6 uned gwyliau hunangynhaliol ar y lloriau uchod. Bwriedir rhannu’r gofod llawr daear i un siop gydag ystafell i storio, cegin a thoiled i’r staff a'r rhan arall yn swyddfa gyda chegin a thoiled . Bwriedir creu dwy fynedfa newydd i’r ddwy uned newydd.

 

Aseswyd egwyddor y bwriad yn erbyn polisi TWR 2 “Llety gwyliau o’r Cynllun Datblygu Lleol lle caniateir cynigion sydd yn ymwneud a darparu llety gwyliau hunan wasanaeth cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio a chyfres o feini prawf

i.          Yn achos llety sy’n adeilad newydd, bod y datblygiad wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu, neu’n gwneud defnydd o safle addas a ddatblygwyd o’r blaen;

ii.          Bod graddfa’r datblygiad arfaethedig yn briodol gan ystyried y safle, y lleoliad a/neu’r anheddiad dan sylw;

iii.         Na fydd y bwriad yn arwain at golled yn y stoc tai parhaol;

iv.        Nad yw’r datblygiad yn cael ei leoli mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl ardal;

v.         Nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal.”

 

Wrth ystyried gormodedd llety nodwyd na roddir ystyriaeth ffafriol i geisiadau ar gyfer llety gwyliau hunanwasanaeth pan fo cyfuniad o’r nifer presennol o lety gwyliau ac ail gartrefi o fewn ardal y Cyngor Cymuned/Tref/Dinas yn uwch na 15%. Defnyddiwyd gwybodaeth Treth Cyngor fel  ffynhonnell wybodaeth ac o’r  wybodaeth fwyaf diweddar nodwyd bod cyfuniad o lety gwyliau ac ail gartrefi yng Nghyngor Tref Caernarfon yn 1.31% sydd ymhell o dan y trothwy a nodi’r yn y canllaw. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Yng nghyd-destun adfer adeilad sydd yn adeilad trawiadol o fewn y strydlun ac o fewn muriau’r dref, ystyriwyd y byddai'r gwaith yn welliant sylweddol ac yn cwrdd â gofynion polisi PS 20 ac eraill. Er yn adeilad rhestredig gradd 2, nid oes nodweddion gwreiddiol yn parhau o fewn yr adeilad ac nid oes llawer o ffabrig hanesyddol i’w golli drwy drosi'r adeilad heb law am y ffenestri sydd eisoes yn cael sylw priodol.

 

Amlygwyd nad oedd darpariaeth parcio gyda'r bwriad ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad dros y bwriad oherwydd ei leoliad o fewn tref ble mae cyfyngiadau parcio ar y strydoedd eisoes yn bodoli, bod meysydd parcio  o gwmpas y safle ynghyd a chludiant cyhoeddus.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

 

·         Bod y safle yn amlwg o fewn Hen Dref Caernarfon

·         Yn adeilad rhestredig a godwyd tua 1820 fel neuadd farchnad yn wreiddiol ond erbyn hyn mewn perygl o ddirywiad pellach a difrifol

·         Wedi bod yn wag ers ymhell dros ddegawd a bellach mewn cyflwr difrifol iawn -llawer o gynlluniau aflwyddiannus wedi eu cyflwyno ar gyfer yr adeilad dros y blynyddoedd

·         Yn y gorffennol cyflwr yr adeilad wedi creu anghyfleuster a phryderon lleol

·         Cynnig gerbron yn ymarferol a dim yn tynnu oddi ar y stoc tai lleol presennol - 6 fflat gwyliau o ansawdd uchel ynghyd a 2 uned fanwerthu newydd ar y llawr gwaelod ar gyfer busnesau lleol mewn ardal dwristiaeth allweddol ger y Castell

·         Manteision economaidd i’r gymuned leol - bwriad cyflogi adeiladwyr a masnachwyr lleol yn ystod y cyfnod adeiladu

·         Y datblygiad gorffenedig yn cyflogi gweithwyr lleol i redeg y busnes, rheoli archebion, cadw a chynnal yr adeilad

·         Bydd adnewyddu’r adeilad amlwg yma yn cyfrannu tuag at adfywio’r ardal

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Bod y clwb a’r adeilad yn ei anterth yn un llewyrchus

·         Bellach yn ddolur llygad ac wedi dirywio yn sylweddol gyda rhai agweddau peryglus i’r adeilad megis y to

·         Gwell fyddai gweld datblygiad tai cymdeithasol

·         Cynnydd amlwg mewn llety gwyliau yn yr ardal – hyn yn bryder

·         Croesawu sylwadau’r Gymdeithas Fictorianaidd

·         Croesawu unedau manwerthu

·         Bod y cais yn adfer yr adeilad i safon dderbyniol

·         Hapus gyda’r argymhelliad

 

ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod yr adeilad yn un eiconig ac yn un pwysig o fewn y dref

·           Angen ei wella a’i adnewyddu cyn i’w gyflwr waethygu

 

            dd)  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryderon parcio ac awgrym i ystyried rhoi tocynnau parcio i ddefnyddwyr yr unedau gwyliau, nodwyd bod modd i’r datblygwr drafod y mater gyda’r Uned Trafnidiaeth. Er hynny, y lleoliad yng nghanol y dref lle ceir meysydd parcio cyhoeddus o fewn cerdded i’r adeilad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 

2.    Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif   D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1  a  D794.20P1  a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.

3.    Bydd yr unedau gwyliau cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac ni fyddant yn cael eu meddiannu fel unig neu brif breswylfa person. Bydd perchenogion/gweithredwyr yr unedau cadw cofrestr, cofnod cyfamserol o enwau holl berchenogion/deiliaid yr unedau ar y safle a chyfeiriadau eu prif gartref a byddant yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael ar bob adeg resymol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.    Ni ddylai unrhyw ddatblygiad (yn cynnwys addasiadau strwythurol neu waith dymchwel) gymryd lle heb fod manylion ar gyfer rhaglen cofnodi archeolegol wedi’i gyflwyno a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dylai ymgymryd â’r datblygiad a’r holl waith archeolegol yn gwbl unol a’r manylion a ganiateir.

5.    Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag amod (a), a chyflwynwyd a chytunwyd yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol. 

6.    Ni chaniateir i ddŵr wyneb oherwydd cynnydd mewn arwynebedd to'r adeilad neu / neu wynebau anhydraidd o fewn y cwrtil gysylltu, unai yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i'r gyfundrefn garthffos gyhoeddus.

7.    Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i gydweddu’r ffenestri presennol.  Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.   

8.     Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.

9.    Rhaid i'r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r to. 

10.  Cyn cychwyn y gwaith a ganiateir,  rhaid cyflwyno manylion lleoliad i osod blychau nythu gwenoliaid du, a’u gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllun Lleol, a'u darparu ar y safle yn unol â'r manylion a gytunwyd.

11.  Rhaid i unrhyw arwyddion sy’n hysbysebu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle fod yn Gymraeg neu’n ddwyieithog gyda blaenoriaeth i’r Gymraeg.

 

Nodyn: Datblygwr i drafod posibiliadau cynnig tocyn parcio lleol i ddefnyddwyr yr adeilad gyda'r Gwasanaeth Trafnidiaeth

 

 

Dogfennau ategol: