Agenda item

Cais ar gyfer newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Penderfyniad:

Gohirio fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd

 

Cofnod:

Cais ar gyfer newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer datblygu maes carafanau teithiol newydd. Byddai’r bwriad yn cynnwys defnyddio cae amaethyddol ar gyfer gosod 19 carafán deithiol, adeilad toiledau, gwella mynedfa bresennol a gwaith tirlunio ar hyd clawdd / gwrych presennol. Disgrifiwyd y cae ble bwriedir lleolir y carafanau teithiol fel un gweddol wastad gyda’r unedau wedi ei gosod ar hyd y terfyn gogledd dwyreiniol a de ddwyreiniol y safle.   Eglurwyd bod yr egwyddor o greu safle carafanau teithiol wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r CDLl lle caniateir y fath ddatblygiadau os gellid cydymffurfio gyda’r meini prawf.

 

Nodwyd bod y cynllun yn dangos bod yr unedau teithiol wedi eu lleoli ar hyd terfyn gogledd dwyreiniol a de ddwyreiniol cae ble mae coed a gwrychoedd yn bodoli ar hyn o bryd; sylweddolir y byddai'r llys dyfiant hwnnw yn creu sgrin er lleihau effaith y bwriad ar y tirlun, fodd bynnag, nid yw llystyfiant o’r fath yn nodwedd barhaol a byddai eu trin, torri neu ladd yn creu safle amlwg iawn o’r ffordd sirol gyfochrog ac yn amharu yn sylweddol ar y tirlun. Sylweddolir bod yr ymgeisydd wedi datgan bodlonrwydd i dewychu a chryfhau'r gwrychoedd presennol drwy blannu ychwanegol. Er hynny, ni ystyriwyd y byddai hynny yn creu mesurau digonol na pharhaol i gyfarfod amcanion y polisi.

 

Yn dilyn derbyn sylwadau cychwynnol gan yr Uned Bioamrywiaeth derbyniwyd asesiad ecolegol rhagarweiniol. Amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi darparu sylwadau pellach yn cadarnhau'r angen am asesiad ecolegol llawn oherwydd effaith cronnus datblygiadau eraill ar y safle a’r gwaith lefelu tir diweddar. Nid oedd yr adroddiad ecolegol yn ymateb i bryderon y Cyngor o ran  effaith ar goed na chyfiawnhau datblygiad o dan PAMG 6 o warchod safleoedd bywyd gwyllt.

 

Ar sail yr asesiad a sylwadau hwyr yr Uned Bioamrywiaeth, ystyriwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol oherwydd effaith weledol y datblygiad, diffyg gwybodaeth er mwyn asesu’r effaith ar fioamrywiaeth a choed a diffyg cyfiawnhad am ddatblygu safle bywyd gwyllt.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr ymgeisydd yn wreiddiol o Swydd Stafford ac wedi symud i Gymru yn Rhagfyr 2020 ar ôl prynu Gefail Y Bont. Wedi treulio blynyddoedd lawer ar wyliau yng Ngogledd Cymru ond erbyn hyn wedi gwneud y penderfyniad i symud yma yn barhaol.

·         Bod datblygiad y safle yn cynnwys cyflogi contractwyr lleol i adeiladu bloc toiledau a chawodydd ynghyd a phlannu coed, codi ffensys ac adeiladu waliau cerrig newydd

·         Bod y datblygiad, os caiff ei gymeradwyo, yn cyflogi 3 aelod staff lleol llawn amser ar gyfer glanhau, cynnal a chadw a derbyn archebion

·         Y safle mewn lleoliad delfrydol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023.

·         Y safle wedi'i leoli mewn lleoliad gwych, yn ddelfrydol i deuluoedd dreulio amser yn gweld adar, bywyd gwyllt yn y coed neu losgi egni yn rhedeg o amgylch y maes

·         Nid yw'r safle'n rhy bell o draethau lleol. Mae'n agos at dafarndai lleol, siopau a bwytai.

·         Y safle wedi'i gysgodi'n dda gan wrych aeddfed ger y briffordd fydd yn cael ei gynnal i isafswm uchder o 10 troedfedd

·         Ychydig o safleoedd carafanau teithiol sydd yn yr ardal.

·         Mae’n gyfleus gyda mynediad hawdd i Nefyn, Pwllheli, Criccieth a Porthmadog.

·         Yn lleoliad perffaith ar gyfer llwybrau beicio Abersoch, Nefyn, Caernarfon a Chwilog a theithiau cerdded llwybr arfordirol Penllyn

·         Y safle'n elwa o fod mewn lleoliad sydd i ffwrdd o unrhyw anheddau preswyl eraill ac felly ni fydd yn achosi niwsans sŵn i unrhyw breswylwyr.

·         Y safle mewn lleoliad delfrydol i ymweld a chefnogi atyniadau a busnesau lleol megis; Parc Glasfryn, Parc Antur Eryri, Parc Gweithgareddau'r Ddraig, y Fferm Cwningod, pentref Portmeirion ynghyd a chestyll, traethau a llynnoedd pysgota. Hyn yn cefnogi’r economi leol.

·         Y safle ychydig oddi ar yr A497, felly’n hawdd ei gyrraedd a gwelededd o'r safle i'r briffordd yn rhagorol. Bydd y gwaith o adeiladu pont newydd ac alinio ffyrdd cyfagos yn fanteisiol

·         Gellid gorchuddio'r adeilad atodol gydag estyll pren crwn yn hytrach na chladin llwyd

·         Cynhaliwyd asesiad ecolegol rhagarweiniol gan Cambrian Ecology ar 24/09/21. Fe’i cyfeiriwyd ymlaen at Gyngor Gwynedd ar y 05/10/2 - derbyniwyd e-bost yn cadarnhau

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd gohirio’r cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Angen rhoi mwy o ystyriaeth i’r cais - cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i weld os oes modd datrys rhai o’r rhesymau gwrthod

·         Nid yw’r safle yn ymwthiol, nid yw’n agored ac nid oes materion gweledol

·         O fod wedi gweld y safle o’r ffordd, y rhesymau gwrthod yn annelwig

 

PENDERFYNWYD gohirio fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd

 

Dogfennau ategol: