Agenda item

Addasiadau mewnol ac allanol i drosi'r adeilad yn siopau a defnydd unedau gwyliau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol gyfeirio’r cais at CADW gydag argymhelliad i ganiatáu.

Amodau

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 
  2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif   D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1  a  D794.20P1 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
  3. Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i gydweddu’r ffenestri presennol.  Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.    
  4. Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.
  5. Rhaid i’r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r to. 
  6. Rhaid i'r holl nwyddau dwr glaw fod o wneuthuriad haearn bwrw.

 

Cofnod:

Addasiadau mewnol ac allanol i drosi'r adeilad yn siopau a defnydd unedau gwyliau

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Datblygu bod y cais yn ymwneud a’r un adeilad yn y cais blaenorol ond yn ymateb i elfennau’r gwaith ffisegol sydd angen caniatâd cynllunio. Cyfeiriwyd at baragraff 5.13 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried y materion canlynol:

·         Pwysigrwydd a gradd yr adeilad a’i ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol cynhenid

·         Nodweddion ffisegol yr adeilad sy’n cyfiawnhau ei restru ac yn cyfrannu at ei arwyddocâd, gan gynnwys unrhyw nodweddion pwysig, megis y tu mewn i'r adeilad, a all fod wedi dod i’r amlwg ar ôl i’r adeilad gael ei gynnwys ar y rhestr

·         Cyfraniad cwrtil a lleoliad yr adeilad at ei arwyddocâd, yn ogystal â chyfraniad yr adeilad at yr olygfa leol

·         Effeithiau’r gwaith arfaethedig ar arwyddocâd yr adeilad

·         I ba raddau y byddai’r gwaith yn dod a manteision cymunedol sylweddol, er enghraifft drwy gyfrannu at economi’r ardal neu at wella ei hamgylchedd lleol.

 

Adroddwyd, gyda’r adeilad wedi gweld gymaint o newid dros amser nad oedd nodweddion gwreiddiol yn parhau o fewn yr adeilad ac nad oedd llawer o ffabrig hanesyddol i’w golli drwy drosi'r adeilad, heb law am y ffenestri sydd eisoes yn cael sylw priodol. Nodwyd fod y Gymdeithas Henebion Hynafol a’r Gymdeithas Fictorianaidd yn adlewyrchu hyn yn eu sylwadau.. Nododd y Gymdeithas Fictorianaidd hefyd bryder dros sut y byddai’r llawr newydd ar yr ail lawr yn cael effaith ar y ffenestri presennol, gan y byddai’r llawr yn mynd ar draws y ffenestri. Erbyn hyn, mae’r cynlluniau wedi eu haddasu yn dilyn derbyn y sylwadau a chynnal  trafodaethau ac y byddai’r llawr gyda llethr arno oddi wrth y ffenestr yn lleihau’r effaith gweladwy.

 

Ystyriwyd  y byddai'r gwaith o adfer yr adeilad sydd yn adeilad trawiadol o fewn y strydlun a hefyd o fewn muriau’r dref yn welliant sylweddol  ac yn cwrdd â gofynion y polisiau perthnasol ac yn dderbyniol i'w ganiatáu.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Mai materion cynlluniau rhestredig oedd dan sylw yma

·         Dim llawer o nodweddion penodol ar ôl

·         Ei fod yn derbyn sylwadau’r Gymdeithas Fictorianaidd

·         Y cynllun yn rhoi bywyd newydd i hen adeilad o fewn y dref

 

c)         Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol gyfeirio’r cais at CADW gydag argymhelliad i ganiatáu.

Amodau

1.         Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 

2.         Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif   D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1  a  D794.20P1 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.

3.         Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i gydweddu’r ffenestri presennol.  Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.    

4.         Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.

5.         Rhaid i’r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r to. 

6.         Rhaid i'r holl nwyddau dwr glaw fod o wneuthuriad haearn bwrw.

 

Dogfennau ategol: