Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas
Ystyried adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y cyfarfod.
Cofnod:
Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr
Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi a Chymuned, ar gais y pwyllgor craffu, yn amlinellu’r newidiadau yn
niweithdra a pha gefnogaeth mae’r Cyngor yn ei gynnig i bobl Gwynedd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Mynegwyd
pryder bod cymaint o bobl ifanc y sir yn gadael bob blwyddyn, a phryderid hefyd
na ellid dibynnu ar yr ystadegau a gyflwynwyd i’r pwyllgor oherwydd bod yna
gymaint o allfudo. Roedd gan Lywodraeth
Cymru nod i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac os oedd y cynlluniau
hyn yn ddibynnol ar grant gan y Llywodraeth, roedd cyfle yma i ateb yr allfudo
sydd wedi bod, yn enwedig oherwydd demograffi’r sir a
phwysigrwydd y Gymraeg yn y sir, drwy ddweud wrth y Llywodraeth beth y gellir
ei wneud i gryfhau’r ardaloedd Cymraeg ac i geisio atal yr allfudo.
·
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd edrych ar anghenion cyflogaeth i’r dyfodol er mwyn sicrhau y bydd y
bobl ifanc hynny sy’n mynd drwy’r gyfundrefn addysg ar hyn o bryd yn meddu ar y
sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddi fydd ar gael ar ddiwedd eu cyfnod mewn
addysg. Mynegwyd pryder bod pobl ifanc
mewn ardaloedd gwledig megis Pen Llŷn yn gorfod teithio’n bell i fynychu
cyrsiau yn y colegau. Nodwyd hefyd bod
yna bobl â gwahanol arbenigeddau fyddai, o bosib’, mewn sefyllfa i ddarparu
hyfforddiant i bobl leol i’w cynorthwyo i gael gwaith, ac awgrymwyd y dylid
targedu’r math hynny o bobl.
·
Nodwyd
bod y sefyllfa swyddi / tai yn y sir yn gylch dieflig. Roedd angen swyddi, ond i ddenu cyflogwyr da,
roedd angen tai. Roedd yna brinder tai,
ond ni ellid adeiladu tai yn y gobaith o ddenu cyflogwyr. Nodwyd bod Brighter
Foods yn Nhywyn yn awyddus i ymestyn yn sylweddol yn sgil derbyn buddsoddiad o
£42m, ond eu bod yn cael anhawster denu staff oherwydd prinder tai yn yr
ardal. Ychwanegwyd bod De Meirionnydd
wedi dioddef yn ddifrifol ers i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig a Datblygu
Canolbarth Cymru ddod i ben rai blynyddoedd yn ôl. Cyfeiriwyd hefyd at siop fferm, oedd yn
awyddus i ymestyn ac adleoli i uned wag ar Stryd Fawr Tywyn, ond yn methu cael
caniatâd cynllunio i wneud hynny, ac awgrymwyd y dylai’r Cyngor lacio’r
cyfyngiadau cynllunio ac annog mwy o adeiladu tai yn yr ardal.
·
Mynegwyd
pryder bod ymgyrchoedd recriwtio mewn sawl sector, megis gofal, lletygarwch, cymorthyddion ysgol a rhaglen frechu’r Bwrdd Iechyd, i gyd
yn pysgota yn yr un pwll, ac y gallai llwyddiant un sector fod ar draul y
gweddill.
·
Nodwyd
bod cyfle yma i gael llwybr gyrfa i bobl sy’n dod i weithio i’r Cyngor, yn
enwedig yn y sector gofal, ond nad oedd yr adroddiad yn cyfarch hynny.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod
gan yr Adran raglen creu gwaith gwerth uchel, gyda’r nod o greu swyddi o safon
yng Ngwynedd i gadw ein pobl ifanc yma. Fodd
bynnag, roedd rhai o benderfyniadau’r Llywodraeth, yn enwedig y penderfyniad
diweddar i beidio bwrw ymlaen â chynllun ffordd osgoi Llanbedr, wedi bod yn
ergyd drom i’r ardal, ac yn golygu y byddai’n anodd iawn cael cwmnïau i
fuddsoddi yn y Ganolfan Awyrofod i’r dyfodol.
Roedd yn amlwg bod y Llywodraeth yn troi cefn ar yr ardaloedd gwledig ac
yn canolbwyntio popeth yn y trefi a’r dinasoedd.
·
Bod
ambell sylw yn adroddiad y Panel Annibynnol yn creu pryder, megis y sylw y
dylai gwaith gael ei gyfeirio at yr ardaloedd twf sydd wedi’u hadnabod yn y
Fframwaith Datblygu Rhanbarthol, gan nad oedd Gwynedd yn un o’r ardaloedd
hynny. Yn naturiol, roedd pobl ifanc
eisiau’r profiad o fynd i ffwrdd i ardaloedd gwahanol i gael profiadau
gwahanol, ond roedd yn bwysig ein bod yn gallu creu’r cyfleoedd iddynt allu
dychwelyd i’r sir. Gwendid economi
Gwynedd oedd y diffyg amrywiaeth swyddi, a nod yr ymdrech yn Llanbedr, a hefyd
yn Nhrawsfynydd, oedd cael yr amrywiaeth hynny
fyddai’n galluogi i deuluoedd aros yn yr ardal.
Croesawid y ffaith bod yna gytundeb gwleidyddol i sefydlu Rhaglen Arfor am gyfnod pellach, a gobeithid y gellid dylanwadu ar
y rhaglen yma er mwyn canolbwyntio ar gadw gwaith mewn cymunedau gwledig i
gynnal gwasanaethau.
·
O
ran cefnogi’r sector lletygarwch a thwristiaeth, nodwyd bod y cynnydd sylweddol
yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal dros yr haf diwethaf, wrth i lai o bobl fynd
dramor ar wyliau, wedi creu problemau i’r diwydiant, a hefyd i’r gymdeithas
sy’n cynnal y diwydiant hwnnw. Mynegwyd
gobaith y byddai’r gwaith ar y cyd â’r Parc Cenedlaethol i ddatblygu economi
ymweld cynaliadwy o gymorth i’r diwydiant, a chyfeiriwyd at gynhadledd
ddiweddar ar hyn. Nodwyd ymhellach bod
gweithdai i’w cynnal ym mis Ionawr, gyda’r nod o lunio rhaglen weithredu erbyn
Mawrth.
·
Bod
y sefyllfa dros y 18 mis diwethaf wedi prysuro’r angen i greu, nid yn unig mwy
o swyddi, ond gwell swyddi. Roedd yr
Adran yn cefnogi busnesau, ochr yn ochr â chefnogi pobl i gael y swyddi hynny,
ac roedd Tîm Gwaith Gwynedd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd ar rai ymyraethau
fyddai’n hwyluso hynny, e.e. drwy gefnogi pobl sydd eisoes mewn swyddi i symud
ymlaen i swyddi sy’n talu’n well, ayb, a thrwy hynny greu cyfleoedd i bobl sy’n
dychwelyd i waith, neu’n dod i waith am y tro cyntaf. Hefyd roedd yr Adran yn arwain Rhaglen STEM y
Gogledd ar ran cynghorau Gwynedd, Môn a Chonwy. Roedd yr Adran wedi datblygu eu perthynas
gyda’r Adran Addysg yn sylweddol yn y cyfnod diwethaf hefyd ac roedd darn o
waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn edrych ar anghenion cyflogwyr, a sut i’w
hamlygu i blant tra’n dal yn yr ysgol.
Roedd y flwyddyn nesaf, sef blwyddyn olaf Cynllun y Cyngor 2018-23, yn
mynd i fod yn gyfnod o adolygu a chymryd stoc, gan edrych ar yr anghenion o ran
yr economi ac o ran pobl Gwynedd wrth symud ymlaen.
·
Bod
llawer mwy o ddata ar gael na’r hyn oedd yn yr adroddiad. Roedd y trydydd graff yn Atodiad 1 i’r
adroddiad yn dangos y patrwm diweithdra dros y tair blynedd ddiwethaf (sefydlog
yn 2019, naid anferth yn 2020 a gostyngiad yn 2021) a nodwyd y gellid anfon
ffynhonnell at yr aelodau iddynt fedru gweld y math yma o wybodaeth mewn mwy o
fanylder. Nodwyd ymhellach bod Tîm
Gwaith Gwynedd yn gweithio’n agos gyda Thîm Gofal y Cyngor, nid yn unig o ran
codi awydd pobl i weithio yn y maes a’u helpu i gael y sgiliau angenrheidiol,
ond hefyd i helpu’r sector gofal i feddwl sut maent yn pecynnu’r gwaith, er
mwyn denu mwy o bobl. Nodwyd ymhellach y
lluniwyd hysbysfwrdd swyddi er mwyn dadansoddi lle mae’r cyfleoedd gwaith yn
codi ar draws y sir, ac ym mha sectorau, a bod y Tîm hefyd yn dadansoddi i ba
sectorau mae’r bobl a gefnogwyd i swyddi wedi mynd, er mwyn gweld a yw hynny’n
cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr. Nodwyd,
yn fras, ers cychwyn Ebrill, bod tua 40% o’r 150 o unigolion a gefnogwyd i
waith wedi mynd i’r sector twristiaeth a lletygarwch, a tua 8% i’r sector
gofal. Nodwyd hefyd, ers paratoi’r
adroddiad, bod nifer yr unigolion a gefnogwyd bellach wedi codi o 150 i
170. Ychwanegwyd bod y Tîm yn parhau i
weithio gyda’r Tim Datblygu Staff Gofal i geisio denu
mwy o bobl i’r maes, ac roedd un ffrwd gwaith yn edrych yn benodol ar
ddefnyddio sgiliau trosglwyddadwy i gefnogi’r sector gofal dros y gaeaf, e.e.
cyflogi staff tymhorol sy’n glanhau carafanau i gyflawni gwaith gofal domestig
dros y gaeaf.
·
Bod
yr her o dangyflogaeth, neu bobl fyddai’n dymuno, neu’n gallu cyflawni mwy o
ran gwaith, ond ddim yn cael y cyfle, yn un o’r heriau o ran cynyddu incwm i
deuluoedd, a hefyd o ran diwallu’r anghenion sydd gan fusnesau a sectorau
eraill. Roedd yna waith yn digwydd o ran
marchnata a hysbysebu i helpu pobl fyddai’n hoffi gwella eu capasiti
i weithio, a hynny drwy gyfrwng llinell gymorth a’r cyfryngau cymdeithasol,
ayb, ond roedd newid y sefyllfa’n mynd i gymryd amser. Roedd yn broses eithaf parhaus hefyd o edrych
ar batrymau gwahanol o weithio. Roedd
Tîm Gwaith Gwynedd wedi gwneud darn o waith i edrych ar y posibilrwydd y gallai
cwmnïau gyflogi staff tymhorol drwy gydol y flwyddyn drwy ledaenu’r cyflog dros
12 mis, yn hytrach na thalu dros fisoedd yr haf yn unig. Edrychwyd hefyd ar opsiynau o ran swyddi
allai weithio ochr yn ochr â’i gilydd a chrëwyd hysbysfwrdd cyflogaeth ar
Facebook er mwyn ymateb yn sydyn i anghenion cyflogwyr. Rhannwyd gwybodaeth hefyd drwy Dîm
Budd-daliadau’r Cyngor, banciau bwyd a’r CAB.
·
Bod
gwaith wedi bod yn mynd rhagddo rhwng y Gwasanaeth Adnoddau Dynol a Thîm Gwaith
Gwynedd i edrych ar lwybrau gyrfa yn y Cyngor.
·
Bod
mwy o wybodaeth i ddod ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Disgwylid y manylder ynglŷn â’r broses
ymgeisio yn ystod yr haf, ond ni ellid bod yn sicr na fyddai yna rywfaint o
fwlch o ran hynny. Roedd y Llywodraeth
hefyd yn edrych ar bontio drwy barhau ac ymestyn rhywfaint o raglenni dros
gyfnod.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Dogfennau ategol: