Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, a gofyn i’r Adran Addysg am ddiweddariadau cyson fel mae’r cynlluniau newydd yn symud yn eu blaenau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn darparu gwybodaeth am drefniadau ysgolion i geisio sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn wynebu diwrnod heb ginio yn yr ysgol, ynghyd â sefyllfa dyledion cinio ysgol a’r prosesau sydd yn weithredol er mwyn ymateb i’r sefyllfa hynny.

 

Cyn cychwyn ar y drafodaeth, cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y llythyr diweddar gan Ysgol Dyffryn Nantlle at rieni ynglŷn â thaliadau cinio ysgol, gan nodi y dymunai roi sicrwydd i’r aelodau nad oedd y Cyngor yn gwrthod cinio ysgol i unrhyw blentyn o fewn y sir, waeth beth oedd yr amgylchiadau.  Nododd ymhellach fod Cadeirydd Corff Llywodraethol yr ysgol wedi gofyn i’r Adran ail-edrych ar eu prosesau, a chadarnhaodd y byddai’r Adran yn sicr yn ymateb i hynny.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd cefnogaeth frwd i fwriad y Llywodraeth i ymestyn cinio am ddim i holl ddisgyblion cynradd.  Nodwyd bod yna nifer o fanteision i hyn, e.e. plant yn dysgu’n well yn y pnawn ar ôl cael cinio maethlon, mynd i’r afael â gordewdra, dim gwahaniaethu rhwng y rhai sy’n cael cinio am ddim a’r rhai sy’n talu ynghyd â chael gwared â’r broblem o deuluoedd sy’n gymwys i gael cinio am ddim, ond ddim yn hawlio am wahanol resymau.

·         Gan gyfeirio at y sefyllfa a gododd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, mynegwyd siomedigaeth na adroddwyd ar hyn i’r Cyngor llawn diwethaf.  Roedd pryder eang a chyffredin ymysg y cynghorwyr ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd, a dylai pob un ohonynt fod wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau.  Nodwyd ymhellach bod yr adroddiad yn cyfeirio at ‘aneglurder’, ond nad oedd yn esbonio beth oedd yr aneglurder hwnnw, nac ychwaith yn cynnig ymddiheuriad am yr hyn ddigwyddodd.  Roedd honiadau wedi’u gwneud gan bennaeth mewn gofal bod yr Awdurdod wedi ei ddefnyddio fel bwch dihangol, ac nid oedd yr adroddiad yn cyfarch y cwestiynau difrifol oedd angen eu hateb ynglŷn â hynny.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn ag unrhyw fwriad i allanoli’r gwasanaeth a chreu ceginau rhanbarthol gan y byddai cau ceginau ysgolion yn arwain at ddiweithdra.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd darparu bwydydd maethlon o ansawdd i blant ysgol ac awgrymwyd bod cyfle yma i ddefnyddio, e.e. llysiau sy’n cael eu tyfu ar dir yr ysgol / yn y gymuned yn y prydau ysgol.

·         Nodwyd, er ei bod yn amlwg bod yr hyn ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Nantlle wedi achosi poen ac embaras i’r Awdurdod, bod yr Awdurdod wedi ymateb i’r sefyllfa yn gyflym ac yn briodol, gan gywiro unrhyw gamargraff.  Roedd rhaid bod yn sensitif i dlodi wrth ymateb i’r sefyllfa, ond roedd angen derbyn hefyd bod yna leiafrif bychan sy’n cymryd mantais o unrhyw systemau gwan o ran casglu arian cinio.  Yr egwyddor bwysicaf oedd nad bai'r plentyn yw os nad yw’r rhieni yn talu, hyd yn oed os oes ganddynt y modd i dalu. 

·         Croesawyd y cadarnhad nad oedd Gwynedd yn atal unrhyw blentyn rhag cael cinio ysgol.

·         Mynegwyd dymuniad i gael diweddariadau cyson ynglŷn â threfniadau’r Awdurdod fel mae’r cynlluniau newydd yn symud yn eu blaenau.

·         Nodwyd bod dysgu gwersi yn hynod bwysig, a bod cyfle i edrych i’r dyfodol i sicrhau llwyddiant y strategaeth bwysig yma o ran cinio am ddim i bob plentyn cynradd, gan hefyd lobïo am yr un peth yn y sector uwchradd a gwneud popeth o fewn ein gallu i unioni anghyfiawnder tlodi.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O ran cynlluniau’r Llywodraeth i ymestyn cinio ysgol am ddim, y deellid ar hyn o bryd bod bwriad i edrych ar hyn yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23, gan gyflwyno’r newidiadau’n raddol a chanolbwyntio ar y plant ieuengaf yn gyntaf.  Cydnabyddid bod yr amserlen yn dynn iawn, ond roedd yr Adran eisoes wedi dechrau edrych ar hyn fel eu bod yn rhagweithiol yn sicrhau bod eu trefniadau mewnol yn galluogi iddynt gyfarch yr angen yma cyn gynted â phosibl.

·         O dan y ddeddfwriaeth bresennol, bod rhaid i riant wneud cais am ginio am ddim, er eu bod, o bosib’, yn derbyn budd-daliadau.  Roedd yr ysgolion yn atgoffa rhieni o hynny, ac yn ceisio eu hannog i gyflwyno cais.  Serch hynny, roedd pobl yn gyndyn o wneud ceisiadau am fudd-daliadau, gan gynnwys cinio am ddim, a nodwyd bod cyfrifoldeb ar yr holl aelodau etholedig i sicrhau bod eu hetholwyr yn cyflwyno’r ceisiadau hyn.  Nodwyd hefyd bod rôl allweddol i Uned Hawlio Lles y Cyngor yn hyn o beth.  Nodwyd ymhellach bod cynllun y Llywodraeth yn gam enfawr yng nghyd-destun llesiant a’n cyfrifoldeb tuag at blant, ac yn dileu unrhyw stigma sy’n gysylltiedig â cheisiadau o’r fath.

·         Bod yr Awdurdod wedi ymddiheuro am y sefyllfa a gododd yn Ysgol Dyffryn Nantlle mewn datganiad i’r wasg, ac i’r ysgolion a’r aelodau etholedig hefyd.  Roedd y digwyddiad yn anffodus ac wedi creu pryder i lawer o bobl, ond roedd gwersi wedi’u dysgu, a chyfathrebwyd yn syth â’r ysgolion i atgoffa pawb o ddyhead yr Awdurdod na ddylai’r un plentyn fynd heb ginio yn ysgolion Gwynedd.  O ran y diffyg eglurdeb yn yr adroddiad, efallai ei bod yn deg dweud nad oedd yr arweiniad yn ddigon eglur ar un pwynt, ond mater o ddehongliad oedd hynny hefyd, a gweithredwyd yn gyflym iawn i glirio unrhyw aneglurder a chryfhau a chadarnhau safbwynt y Cyngor.  Y prif ffocws wrth symud ymlaen oedd sicrhau bod unrhyw drefniant yn cael ei adolygu.  Cafwyd sgwrs aeddfed ac agored iawn gyda’r holl benaethiaid, a derbyniwyd sylwadau cadarnhaol iawn eu bod hwy, fel cyfundrefn, yn prynu i mewn i’r egwyddor yma yn ddiamod.

·         O ran allanoli’r gwasanaeth a chreu ceginau rhanbarthol, eglurwyd ei bod yn ddyddiau cynnar iawn ar hyn o bryd, ac mai ystyriaethau cychwynnol yn unig oedd y rhain.  Byddai’r Adran yn rhoi sylw manwl i bob un o’r opsiynau ar y bwrdd, gan hefyd gymryd sylwadau’r craffwyr i ystyriaeth wrth wneud hynny.

·         Bod ysgolion yn rhydd i ddehongli’r cwricwlwm newydd yng nghyd-destun materion lleol, a bod y sylw ynglŷn â llesiant a byw yn iach, gweithredu’n iach a chael ysgolion iach yn dod yn fwyfwy canolog i’r cwricwlwm newydd.  Gan hynny, croesawyd y cynnig i barhau â’r sgwrs gyda’r ysgolion i sicrhau plethu agweddau dydd i ddydd, fel bwyta’n iach a chinio ysgol, fel rhan o’r cwricwlwm.

·         Y byddai’r Adran yn fwy na bodlon darparu adroddiad pellach maes o law, a gofynnwyd hefyd i’r aelodau weithio gyda’r Awdurdod i hyrwyddo’r cynlluniau newydd yn eu cymunedau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, a gofyn i’r Adran Addysg am ddiweddariadau cyson fel mae’r cynlluniau newydd yn symud yn eu blaenau.

 

Dogfennau ategol: