Agenda item

I gymeradwyo trefn prosesu ceisiadau, ffioedd ac amodau safonol ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio sefydliadau rhyw

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo Mabwysiadu ledled y sir y Datganiad o Bolisi Trwyddedu Sefydliadau Rhyw  fydd yn gosod gweithdrefnau ac amodau  er mwyn caniatáu rheoleiddio sefydliadau rhyw drwy gyfundrefn drwyddedu; yn weithredol o’r 6ed o Ragfyr 2021 yn ddarostyngedig i gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol ym mharagraff 3.4 o’r Polisi (rhestr ymgynghorwyr)

 

  • Cymeradwyo gosod y ffi a nodir sydd yn adlewyrchu gweinyddu a phrosesu  ceisiadau am drwydded sefydliad rhyw a chymeradwyo adolygiad blynyddol o’r ffioedd hynny.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn amlygu’r angen i’r Awdurdod Trwyddedu sydd yn dymuno rheoleiddio sefydliadau rhyw yn ei ardal, fabwysiadu darpariaethau Atodlen 3 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009.

 

Penderfyniad unfrydol y Pwyllgor hwn (13 Medi 2021) oedd argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu’r grymoedd ac ar y 7fed o Hydref 2021 penderfynodd y Cyngor llawn i gymeradwyo mabwysiadu’r drefn rheoleiddio ar gyfer sefydliadau rhyw fel a ganlyn

·         Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021.

·         Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r penderfyniad i rym.

·         Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau safonol a chynllun prosesu’r ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

 

Yn unol â chyfarwyddyd y Cyngor llawn a gofynion cyfreithiol cadarnhawyd bod rhybudd statudol wedi ei gyhoeddi yn y wasg ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf  wedi ymddangos dim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daeth y penderfyniad i rym.

 

          Eglurwyd bod y Cyngor yn ystyried pob cais am drwydded yn unol â’i rinweddau ei hun er mwyn sicrhau cysondeb, tegwch a thryloywder. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Gwasanaeth Trwyddedu a’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol dros y blynyddoedd wedi mabwysiadu sawl polisi ac egwyddorion cyffredinol er pwrpas cynnig arweiniad wrth ystyried ceisiadau am drwydded. O ganlyniad, lluniwyd dogfen bolisi, er cymeradwyaeth y Pwyllgor, yn cwmpasu’r prosesau a fabwysiedir mewn perthynas â Sefydliadau Rhyw. Ategwyd bod y Polisi yn manylu ar y broses o geisio am drwydded, adnewyddu, amrywio a throsglwyddo trwyddedau sefydliad rhyw mewn perthynas ag eiddo sydd yn gweithredu oddi fewn i  ddalgylch Cyngor Gwynedd.

 

          Cyfeiriwyd at y broses trwyddedu ynghyd a’r amodau safonol a’r ffioedd i’w talu. Amlygwyd bod deddfwriaeth yn gosod hawl i godi ffi am drwyddedau sefydliadau rhyw a bod y Cyngor wedi gosod ffi sydd yn ddigonol i adennill costau yn unig. Y bwriad yw adolygu’r ffioedd trwyddedau yn flynyddol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Ymatebion i gwestiynau a godwyd yn y drafodaeth ddilynol:

 

Mewn ymateb i sylw bod angen ystyried lleoliad addas ar gyfer unrhyw sefydliad rhyw, gan osgoi e.e. ger ysgolion, nodwyd bod  y polisi yn un grymus a chynhwysfawr oedd yn rhoi ystyriaeth i bob sefyllfa posib.

 

Mewn ymateb i awgrym i  gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol yn y rhestr ymgynghorwyr (paragraff 4.3 o’r adroddiad (3.4 o’r polisi), ystyriwyd hyn yn rhesymol a bod modd ychwanegu’r Bwrdd Iechyd i’r rhestr os mai dyma ddymuniad y Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffurflen gais am drwydded, nodwyd bod y ffurflen gais yn ffurflen safonol (fel yr un ar gyfer trwydded eiddo) ac yn gyson gyda ffurflenni awdurdodau eraill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am sut roedd y ffioedd yn cymharu gyda ffioedd siroedd eraill, nodwyd bod Cyngor Dosbarth Arfon wrth fabwysiadau Atodlen 3 wedi pennu'r ffioedd uchaf posib o dan ddarpariaethau statudol y  Ddeddf. Er hynny, heriwyd ffioedd y Cyngor ar y pryd ac yn unol â dyfarniad Llys gorfodwyd y Cyngor i osod ffioedd fyddai yn adennill costau yn unig. O ganlyniad, eglurwyd bod y ffioedd a argymhellir yn yr adroddiad yn adlewyrchu costau gosod cyfundrefn newydd a chostau prosesu ceisiadau yn unig gyda bwriad o adolygu’r ffioedd yn flynyddol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â’r ffaith bod ffioedd Gwynedd yn ymddangos yn gymharol îs na ffioedd rhai siroedd eraill, nodwyd bod y ffioedd yn gorfod adlewyrchu'r costau ar hyn o bryd fel pwynt cychwynnol yn seiliedig ar y broses. Ategwyd y bydd modd adolygu’r ffioedd yn flynyddol os bydd angen gwneud asesiad manylach neu ychwanegu camau ychwanegol i’r broses.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i gymeradwyo’r argymhelliad yn ddarostyngedig i gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol ym mharagraff 3.4 o’r Polisi (rhestr ymgynghorwyr)

 

PENDERFYNWYD

 

·         Cymeradwyo Mabwysiadu ledled y sir y Datganiad o Bolisi Trwyddedu Sefydliadau Rhyw  fydd yn gosod gweithdrefnau ac amodau  er mwyn caniatáu rheoleiddio sefydliadau rhyw drwy gyfundrefn drwyddedu; yn weithredol o’r 6ed o Ragfyr 2021 yn ddarostyngedig i gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol ym mharagraff 3.4 o’r Polisi (rhestr ymgynghorwyr)

 

·         Cymeradwyo gosod y ffi a nodir sydd yn adlewyrchu gweinyddu a phrosesu  ceisiadau am drwydded sefydliad rhyw a chymeradwyo adolygiad blynyddol o’r ffioedd hynny.

 

Dogfennau ategol: