Ystyried adroddiad
ar yr uchod.
Cofnod:
Croesawyd swyddogion GwE i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer
2020-21.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE y dymunai gydnabod y gwaith arbennig iawn
oedd wedi’i wneud mewn cyfnod heriol iawn yn yr ysgolion.
Yna manylodd yr Arweinyddion Craidd ar
ddatblygiadau ar gyfer y cwricwlwm newydd fyddai’n cychwyn yn yr ysgolion
cynradd yn 2022.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Croesawyd
y ffaith bod y teitl ‘Swyddogion Her’ wedi diflannu ac mai ‘cefnogaeth’,
‘datblygu’, ‘gwella’ a ‘chymorth’, ayb, oedd y geiriau allweddol bellach.
·
Mynegwyd
pryder nad yw plant, e.e. Blwyddyn 10, sy’n cael profion ffurfiol yn wythnosol,
yn gwybod a fydd canlyniadau’r asesiadau hynny yn cyfrannu at eu graddau
terfynol ai peidio.
Mewn ymateb i’r sylwadau ac i gwestiynau gan
aelodau, nodwyd:-
·
Er
na fyddai data perfformiad ar gael o hyn allan, roedd yr arfer o fynd i mewn i
ddosbarthiadau, craffu ar lyfrau a siarad ag athrawon a phlant o fudd i’r
Gwasanaeth sicrhau bod ganddynt wybyddiaeth dda iawn o’r ysgolion. Ni chredid bod canolbwyntio ar set gul o
ddangosyddion perfformiad ar ddiwedd cyfnod allweddol yn rhoi darlun llawn o’r
ysgol, ac wrth symud ymlaen heb y data hwnnw, roedd yn bwysig cael y darlun
llawn holistig o ysgol o gwmpas 4 diben y cwricwlwm newydd. Roedd y Gwasanaeth yn edrych hefyd ar les y
plant, sut mae’r dysgwyr yn datblygu tuag at y 4 diben, a thrwy lunio
gwaelodlin, byddai’r Gwasanaeth yn paratoi adroddiad ar gyfer pob ysgol yng
Ngwynedd, ynghyd ag adroddiad rhanbarthol gyda naws lleol fel atodiad, yn
crynhoi lle mae’r ysgolion arni, a beth yw’r safonau. Yn amlwg, roedd rhaid bod yn sensitif i
sefyllfa’r ysgolion ar hyn o bryd, ond roedd y Gwasanaeth yn gweithio’n agos
iawn gyda swyddogion yr Awdurdod, sydd â darlun o sefyllfa’r ysgolion o
safbwynt presenoldeb, cynhwysiad, ADY, ayb, er mwyn cael y darlun llawn. Roedd cysondeb ar draws y rhanbarth yn y dull
o weithredu ac o adnabod yr ysgolion, ac roedd angen adnabod unrhyw lithriadau
yn gynnar gan ymateb a rhoi cefnogaeth i’r ysgolion. Drwy gymryd cydberchnogaeth dros y
deilliannau a gweithio hefo’r ysgol i roi cynllun
cefnogaeth mewn lle, gellid sicrhau cefnogaeth lawn ar gyfer sicrhau’r gwella
sydd ei angen. Nodwyd ymhellach bod
Gwynedd wedi bod yn flaenllaw ac wedi gweithredu hyn yn gynnar iawn. Fel pob cynllun rhanbarthol, roedd angen blas
lleol, a gwnaed rhai mân newidiadau i’r cynllun yng Ngwynedd mewn
cydweithrediad â’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion.
·
Na
ddylai ymadawiad athro/athrawes, fu’n gyfrifol am ddatblygu elfen o’r cwricwlwm
newydd yn lleol, fod yn broblem gan fod y cwricwlwm lleol wedi’i baratoi gan yr
ysgol gyfan.
·
Mai
bwriad yr Arolygiaeth yng Nghymru oedd ail-afael mewn arolygiadau ysgolion yn
nhymor y Gwanwyn. Roedd trafodaethau
cyson yn digwydd gydag Estyn, ac roedd angen i’r Gwasanaeth fod yn sensitif i
sefyllfa ysgolion ar hyn o bryd, gan arolygu’r ysgolion yn y cyd-destun
hwnnw. Nodwyd ymhellach y byddai Estyn
yn peilota arolygon mewn tua 30 o ysgolion i gychwyn,
ac roedd cyfle i ysgolion wirfoddoli i fod yn rhan o hyn. Disgwylid dychwelyd yn ôl i’r drefn arferol o
arolygu ar ôl y Pasg, er bod y fframwaith wedi newid rhywfaint. Byddai’r negeseuon o’r cynllun peilot yn
bwysig fel bod ysgolion yn gliriach o ran y disgwyliadau pan fydd pob ysgol yn
gallu cael arolwg o'r Pasg ymlaen, a byddai yna gadw golwg manwl ar y sefyllfa
mewn ysgolion erbyn hynny. Nodwyd
ymhellach y gobeithid y byddai absenoldeb data ysgolion yn cyfoesi’r drefn
arolygu i gymryd cyd-destun ysgolion lleol a chyrhaeddiad plant i ystyriaeth,
yn hytrach nag edrych ar ddata moel yn unig, ac y byddai’r broses honno o
adolygu yn esgor ar adroddiad adolygiad llawer mwy lleol a defnyddiol i’r ysgol.
·
Y
cytunid â’r sylw ynglŷn â’r gair ‘her’ ac y newidiwyd teitl y swydd i
‘Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant’, sydd wedi gwneud gwahaniaeth o ran newid y
diwylliant.
·
O
ran y cyfeiriad at yr agwedd leol yn y cwricwlwm, bod cyfle yma i athrawon fynd
i ddyfnder pynciau i wella dealltwriaeth plant o bynciau sy’n mynd i roi
cyfleoedd gwaith iddynt yn lleol, gan hefyd agor eu gorwelion i’r hyn sydd yn y
byd mawr y tu allan. Nodwyd hefyd bod
cyswllt amlwg yma gyda’r eitem flaenorol ynglŷn ag ansawdd swyddi a
lefelau cyflogaeth yng Ngwynedd. O gael
hyn yn iawn, ac yn benodol efallai y pynciau STEM, a thargedu a sicrhau bod
plant yn cael y dyfnder gwybodaeth sydd ei hangen arnynt yn y maes, byddai’r
blas lleol, nid yn unig yn sicrhau bod plant yn cael mynediad at swyddi o
ansawdd sy’n talu’n briodol ac yn galluogi iddynt aros yn y sir, ond hefyd, o
ystyried y profiadau a’r cymwysterau fydd gan ein pobl ifanc, yn fodd o ddenu
diwydiannau i Wynedd.
·
Bod
yr awdurdodau a’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn gyson yn rhoi pwysau ar
awdurdodau megis Cymwysterau Cymru i fod yn eglur ynglŷn â’u trefn o ran
arholi neu brofi plant a phobl ifanc, ond bod angen yr eglurder hwnnw fwy nag
erioed eleni. Roedd sôn mai dymuniad y
Llywodraeth a Chymwysterau Cymru oedd symud i fodel o arholi allanol yr haf
nesaf, os yn bosib’, ond roedd yr ysgolion hefyd yn paratoi ar gyfer y
posibilrwydd o asesiadau mewnol. Roedd
angen eglurder ar hyn rhag blaen fel bod yr ysgolion yn gallu paratoi’n
briodol, ond deellid na fyddai penderfyniad yn cael ei wneud tan fis Ebrill y
flwyddyn nesaf, sy’n rhy agos at ddiwedd y flwyddyn ysgol. Nodwyd ymhellach bod Cyd-bwyllgor GwE wedi
ysgrifennu at y Gweinidog yn galw am benderfyniad buan ar hyn, ac roedd y
rhanbarth hefyd wedi bod yn flaenllaw yn galw ar Lywodraeth Cymru a
Chymwysterau Cymru am ddatrysiad buan.
Hefyd, roedd yr Aelod Cabinet Addysg wedi bod yn achub ar bob cyfle i
yrru’r neges ac i lobïo ar ein rhan, ac roedd wedi bod yn llais allweddol yn y
drafodaeth ranbarthol a arweiniodd at lythyru’r Llywodraeth am ateb buan.
·
Bod
Cymwysterau Cymru wedi gofyn i ysgolion sicrhau eu bod yn hysbysu plant ymlaen
llaw os bydd asesiad yn cyfrannu at y radd derfynol. Gellid bod yn ffyddiog bod yr ysgolion yn
ymwybodol o’r gofyn yma arnynt. Roedd y
canllawiau yn ddigon clir gan CBAC a Chymwysterau Cymru, ond yn ogystal â’r
cyfrifoldeb ar yr ysgolion, roedd cyfrifoldeb hefyd ar y Gwasanaeth i atgoffa’r
ysgolion o’r rheoliadau ac i’w cefnogi.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau, gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Dogfennau ategol: