Cais ar gyfer codi
ty fforddiadwy gyda mynedfa a parcio a tirweddu cysylltiol
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Gwrthod
Rhesymau:
Cofnod:
Cais ar gyfer codi tŷ fforddiadwy
gyda mynedfa a pharcio a thirweddu cysylltiol
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm
Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar
gyfer codi un tŷ fforddiadwy unllawr gyda mynedfa
a llecyn parcio ynghyd a thirweddu cysylltiol a chwrtil sylweddol. Y safle wedi ei leoli
o fewn cae amaethyddol ar gyrion pentref Penygroes ar hyd
ffordd gul sy’n troi’n lwybr
cyhoeddus yn y pen draw – y
llwybr cyhoeddus yn rhedeg rhwng
y cae sy’n destun y cais a’r
tŷ diwethaf yn y pentref (Glaslyn).
Cyflwynwyd y cais
i’r Pwyllgor Cynllunio ar y 12.07.2021, ble penderfynwyd gohirio’r cais fel bod modd derbyn
gwybodaeth bellach ynglŷn â’r isod:
·
Prisiad o’r bwriad
·
Cadarnhad o angen cyfredol yr ymgeisydd o ran nifer o ystafelloedd gwely a sefyllfa’r ymgeisydd
·
Cadarnhad os yw’r ymgeisydd wedi cysidro darparu uned fforddiadwy arall ar y safle,
gan ei fod
yn sylweddol.
·
Cadarnhad os byddai’r ymgeisydd yn fodlon
arwyddo cytundeb 106 person lleol fforddiadwy petai’r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu caniatáu’r
cais.
Eglurwyd bod yr ymgeisydd wedi
darparu ymateb i’r uchod
Nodwyd bod bwlch
rhwng y safle ar ffin datblygu
(sydd yn ymddangos fel llwybr
cyhoeddus) ac yn nhermau polisi cynllunio mae’r safle wedi ei
ddiffinio fel un yng nghefn gwlad
agored ac fe’i ystyriwyd o dan Polisi Tai 16 ‘Safleoedd Eithrio’ sy’n cael ei
ategu yn y Canllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’
Adroddwyd fod
y tŷ arfaethedig yn cael ei
gynnig fel tŷ fforddiadwy gyda chadarnhad gan Tai Teg fod
yr ymgeisydd yn addas ar
gyfer eiddo fforddiadwy. Ategwyd bod asiant y cais wedi
cadarnhau mai angen ar gyfer
dwy ystafell wely oedd gan
yr ymgeisydd ar hyn o bryd,
gyda bwriad o gael teulu o fewn
arwynebedd llawr yr eiddo gerbron.
Amlygwyd bod arwynebedd llawr mewnol y tŷ unllawr dwy lofft oddeutu
50m sgwâr yn fwy na’r uchafswm
a nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer
tŷ unllawr 2 ystafell wely fforddiadwy,
gyda uchder y prif do yn golygu
bod potensial darparu llawr ychwanegol uwchben rhan o’r
tŷ yn y dyfodol. Nodwyd bwriad yr ymgeisydd
o gael teulu o fewn yr eiddo
heb angen ar gyfer estyniad,
ond nid yw’n
glir beth yw’r bwriad gwirioneddol
gan mai dwy
ystafell wely yn unig a gynigiwyd.
Cafwyd prisiad ar ffurf llyfr
coch ar gyfer
yr eiddo a chadarnhaodd yr Uned Strategol Tai o ran fforddiadwyedd y byddai disgownt o 45% yn dod ar lefel
i lawr yn
rhesymol ar gyfer eiddo newydd
sengl ganolradd. Serch hynny amlygwyd pryder
ynglŷn â phrisiau tai
a / neu dir a all gynyddu yn sylweddol
yn y dyfodol i lefel lle
gellid dadlau na fyddai’r eiddo
yn fforddiadwy beth bynnag y lefel
disgownt a'r posibilrwydd o dderbyn cais i godi’r
cytundeb 106. Nodwyd mai cefnogi cynigion am unedau fforddiadwy ble gellid sicrhau eu bod yn aros
yn fforddiadawy am byth y mae’r CDLl.
Ystyriwyd y bwriad
arfaethedig ar gyfer codi un annedd
fforddiadwy yn annerbyniol, a'i fod yn groes
i ofynion polisïau PCYFF 1, TAI 15, TAI 16, CCA Tai Fforddiadwy a NCT 6 o ran priodoldeb
y safle fel safle eithrio a’r
angen am dy newydd yng nghefn
gwlad agored, maint y cwrtil ynghyd a diffyg cadarnhad am nifer y llofftydd fyddai’n diwallu angen/maint
yr eiddo.
b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei bod yn gefnogol i’r cais
·
Bod y cyfle yn un arbennig i’r ymgeisydd
adeiladu cartref ar ddarn o dir
sydd yn berchen
i’w deulu - cartref cynaliadwy, tafliad carreg o’i gartref genedigol
·
Ei fod yn gweithio yn lleol
– lleoliad y cartref yn gyfleus
·
Bod lled
y llwybr cyhoeddus yn hanner medr
- A yw hyn yn sail resymol dros nodi ‘tu
allan i’r ffin’ ac atal cyfle
i berson lleol gael cartref
yn lleol?
·
Nad oedd gwrthwynebiad lleol i’r bwriad
·
Bod y cais yn ymateb i ofynion
Polisi TAI16
·
Bod Tai Teg wedi cadarnhau
bod yr unigolyn yn gymwys
·
Nad oedd y datblygiad yn sefyll ar
ben ei hun – yn ffinio gyda
rhes o dai
·
Bod yr ymgeisydd yn fodlon arwyddo
cytundeb 106
·
Bod adroddiad
prisiad wedi ei gyflwyno yn
unol â’r meini prawf
·
Cyfle i gynorthwyo
a chefnogi person ifanc i ymgartrefu yn
ei gymuned leol
c)
Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r
cais
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Nid yw’r datblygiad yng nghefn gwlad
– tai eraill gerllaw
·
Bod maint
y tŷ yn cynrychioli tŷ fforddiadwy
· Er yn byw ar ben ei
hun ar o bryd, yn cynllunio
i’r dyfodol
·
Derbyn yr angen am dai lleol i
bobl leol ond y tŷ yn
rhy fawr i unigolyn
·
Digon o le ar y safle i adeiladu tri thŷ fforddiadwy
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lleihau maint y tŷ a’r cwrtil i oresgyn yr elfen fforddiadwyedd,
nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod y tŷ dan sylw wedi ei
ystyried fel tŷ ar gyfer
teulu ac felly’n amlygu’r angen i ystyried fforddiadwyedd
oherwydd mai un person fydd yn byw
yn y tŷ. Ategodd y Swyddog Monitro mai ‘cais
unigolyn' oedd gerbron ac nid ‘cais teulu’
d) Pleidleisiwyd ar y cynnig i
ganiatáu y cais
Disgynnodd y cynnig
Pleidleisiwyd ar y cynnig i
wrthod y cais
PENDERFYNWYD gwrthod
y cais
RHESYMAU
1.
Nid yw’r bwriad yn briodol fel
estyniad rhesymegol i’r anheddle oherwydd
ei leoliad a’r ffiniau presennol
sy’n gwahanu’r anheddle oddi wrth
gefn gwlad yn y lleoliad yma.
Mae’r datblygiad felly yn groes i
ofynion polisïau PCYFF 1,
TAI 15 ac 16 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n sicrhau datblygiadau tai fforddiadwy addas fel eithriad ar
gyrion ffiniau datblygu.
2.
Mae maint
yr eiddo a’r cwrtil bwriedig
yn rhy fawr
i alluogi’r eiddo fod yn
fforddiadwy yn y dyfodol a chydymffurfio a graddfa dwysedd datblygu. Yn ogystal,
mae angen yr ymgeisydd ar
gyfer eiddo dau lofft, ac mae’r
arwynebedd llawr a gynigir yn ormodol
ar gyfer yr angen yma.
Mae’r datblygiad felly yn groes i
ofynion polisïau TAI 15 a
PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n sicrhau datblygiad o raddfa dderbyniol ac a fyddai’n fforddiadwy i’r dyfodol.
3.
Mae’r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn gwlad
agored heb unrhyw gyfiawnhad ac yn groes i
ofynion polisïau PCYFF 1 a pharagraff 6.4.36 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn 2011-2026 a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer cymunedau
gwledig cynaliadwy.
Dogfennau ategol: