Rhyddhau ynghyd a diwygio amod rhif 2 (man
newidiadau i edrychiadau allanol a mewnol i rhai o'r tai ynghyd a codi ffens
preifatrwydd ychwanegol) o ganiatad apel APP/Q6810/A/20/3264389.
AELOD
LLEOL: Cynghoyrdd Gareth A Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch
Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amod isod: -
Cwblheir y
diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r
manylion a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y
ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er
gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad
mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd
cynllunio rhif C19/1072/11/LL
Cofnod:
Rhyddhau a diwygio amod rhif 2 (man newidiadau i
edrychiadau allanol a mewnol i rai o'r tai ynghyd a chodi ffens preifatrwydd
ychwanegol) o ganiatâd apêl APP/Q6810/A/20/3264389.
a) Amlygodd
y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais cynllunio
o dan Adran 73 o’r Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref, 1990 ydoedd ar gyfer
diwygio amod rhif 2 o ganiatâd apêl APP/Q618/A/20/3264389 i godi 30 tŷ ar safle Pen y Ffridd ym Mangor.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar sail bod maint y safle yn fwy
na 0.5ha mewn arwynebedd ac yn ymwneud ac ymgymryd â’r newidiadau canlynol:
·
Codi ffens coedyn hit and miss 1.8m o uchder rhwng gerddi
ochr llain rhif 26 a 27 a chefn rhif 1 a 2 Bythynnod Pen y Ffridd er mwyn
sicrhau preifatrwydd i ddeiliaid y bythynnod.
·
Disodli to gwastad gyda tho llechi ar
gyntedd blaen tai lleiniau rhif 23 i 26; 27 i 30; 5 i 14 a 21 i 22.
Eglurwyd bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer datblygiad
preswyl eisoes wedi ei dderbyn
gan yr Arolygiaeth
Gynllunio yn Ebrill 2021 ac felly byddai ystyriaeth o’r cais diweddaraf yma yn cael
ei gyfyngu i effaith y bwriad
ar fwynderau gweledol a mwynderau preswyl deiliad cyfagos. Golygai’r bwriad ddisodli toeau gwastad ar
gyfer cynteddau blaen 20 tŷ gyda thoeau o lechi
naturiol i gyd-weddu a’r brîf
doeau. O ystyried gofynion Polisi PCYFF 3 ble disgwylid i
ddatblygiadau arddangos dyluniad o ansawdd uchel, ystyriwyd bod y bwriad o ddisodli toeau gwastad mewn
mannau amlwg ar du blaen y tai yn welliant i’r
hyn a ganiatawyd yn flaenorol ar
gyfer toeau gwastad.
Nodwyd hefyd y byddai gosod ffens coedyn
1.8m o uchder yn dderbyniol rhwng gerddi ochr llain
rhif 26 a 27 a chefnau rhif 1 a 2 Bythynnod Pen y Ffridd ar sail ei effaith ar
fwynderau gweledol. Byddai’r ffens yn sicrhau preifatrwydd
i ddeiliaid y bythynnod ac ar yr un pryd, yn
cydymffurfio ag amod a gynhwysid ym mhenderfyniad
yr Arolygydd Cynllunio parthed cyflwyno manylion triniaeth ffiniau. Ystyriwyd y byddai’r cais yn dderbyniol
ar sail diogelu mwynderau gweledol yr ardal leol
a mwynderau preswyl deiliaid cyfagos.
b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Nad oedd diwygiadau arfaethedig i'r cynlluniau yn arwyddocaol
- yn ymwneud â mân newidiadau i'r cynllun yn
unig
·
Y diwygiadau
arfaethedig yn gysylltiedig â disodli to gwastad y cyntedd gyda tho llechi,
yn ogystal â mân newidiadau i'r cynllun mewnol
ar y tai fforddiadwy math
4P2B a 5P3B ac eiddo preifat
math 5P3B. Bydd y newidiadau
arfaethedig yn gwella ymddangosiad yr eiddo.
·
Bod y mân welliannau yn ymddangos ar
gynllun safle diwygiedig
·
Bod diwygiadau
arfaethedig i'r Cynllun Trin Ffiniau
yn ymwneud a chodi ffens bren
‘hit and miss’ 1.8m o uchder
ar y ffin rhwng Bythynnod Pen y Ffridd (rhif 1 a 2) a lleiniau 26 a 27. Bydd hyn yn
sicrhau preifatrwydd i ddeiliaid y bythynnod.
·
Bod y newidiadau arfaethedig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio lleol a chenedlaethol ac felly dylid eu cymeradwyo
c) Cynigwyd
ac eiliwyd caniatáu’r cais
PENDERFYNWYD dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amod isod: -
Cwblheir
y diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r
manylion a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y
ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er
gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad
mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd
cynllunio rhif C19/1072/11/LL
Dogfennau ategol: