Agenda item

Adeiladu tŷ fforddiadwy 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled W Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

 

Gohirio – cais i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o wybodaeth a thystiolaeth ei fod yn gymwys am dŷ fforddiadwy

Cofnod:

Adeiladu tŷ fforddiadwy 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu tŷ fforddiadwy (4 ystafell wely) ar dir ger Uwch y Dôn, Pistyll.  Gwasanaethir y safle gan ffordd sirol ddi-ddosbarth serth sy’n arwain o ganol y pentref sydd o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. Caiff y tir ei adnabod fel Safle Bywyd Gwyllt Lleol Dolydd Pistyll.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.

 

Ymddengys Pistyll fel ‘pentref clwstwr’ yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ac mai’r polisi perthnasol a ystyriwyd oedd Polisi TAI 6 Tai mewn Clystyrau. Amlygwyd mai tai fforddiadwy yn unig a ganiateir mewn pentrefi clwstwr a hynny ar safleoedd addas cyfochrog ac adeiladau sydd wedi eu lliwio yn goch ar y Mapiau Mewnosod ac yn ddibynnol ar gydymffurfio â meini prawf y polisi. 

 

Amlygwyd bod y bwriad yn gallu cydymffurfio gyda meini prawf 2,3 a 4 o’r polisi ond yng nghyd-destun maen prawf 1, tra nad oedd amheuaeth bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio yn yr ystyr ei fod yn berson lleol, rhaid oedd ystyried os oedd yr ymgeisydd mewn gwir angen am dŷ fforddiadwy gan ei fod eisoes yn berchen ar dŷ. Ni dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth i ddangos nad yw’n bosib ehangu neu ymestyn y tŷ presennol i gwrdd â’u hanghenion ac nad yw’n glir faint o ecwiti fyddai’n cael ei ryddhau o werthu’r tŷ presennol. O ganlyniad, nid yw Tai Teg mewn sefyllfa i asesu os yw’r ymgeisydd mewn angen gwirioneddol am dŷ fforddiadwy. Fel eithriad i bolisi caniateir tai newydd yng nghefn gwlad, fel yr opsiwn olaf posib ac felly rhaid bod yn argyhoeddedig bod yr elfen fforddiadwy yn un dilys. Wrth werthfawrogi sefyllfa’r ymgeisydd, ar sail y wybodaeth ddaeth i law, nid oedd y cais yn cyrraedd gofynion maen prawf 1 y polisi.

 

Yn dilyn cyhoeddi’r rhaglen amlygwyd anghysondeb yng ngraddfa’r cynlluniau a argraffwyd a derbyniwyd cynlluniau diwygiedig 6/12/21. Disgwylid i dŷ 6 person 4 ystafell wely fod oddeutu 110m mewn arwynebedd llawr mewnol. Ymddengys y cynlluniau diwygiedig gyfanswm mewnol o 115m a gellid derbyn bod gan yr ymgeisydd angen gofod ychwanegol pwrpasol i swyddfa. Nid oedd gwrthwynebiad i faint y tŷ bellach, ond peth pryder yn parhau am faint y llain a gwerth yr eiddo gan na dderbyniwyd prisiad marchnad agored arno. Nid oedd y bwriad felly yn cydymffurfio gyda meini prawf 5, 6 a 7 o’r polisi.

 

Yn ogystal, amlygwyd diffyg gwybodaeth ynglŷn ag effaith y bwriad ar fwynderau trigolion cyfagos ac ar y safle bywyd gwyllt, ond gan nad oedd y bwriad yn cydymffurfio â rhai meini prawf ni ofynnwyd i’r ymgeisydd fynd i gostau o gyflwyno’r wybodaeth yma

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol ystyriwyd y bwriad yn annerbyniol oherwydd diffyg prawf am eiddo fforddiadwy ynghyd a phryder am faint y llain a’i werth. Ategwyd nad oedd y bwriad yn cadw nodweddion naturiol y safle yn y ffordd gorau posib i  leoliad gwledig o’r fath ac ni dderbyniwyd asesiad bywyd gwyllt. Er yn addas i bentref clwstwr, nid yw’n cwrdd â holl feini prawf Polisi TAI6

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn byw yn bresennol mewn hen dŷ Cyngor yn Nefyn

·         Byw mewn stryd cyngor gan ddioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gymdogion sydd yn rhegi a gweiddi pethau anaddas arno ef a’i deulu wrth iddynt dreulio amser yn yr ardd neu wrth fynd i’r car

·         Yn teimlo ofn yn ei eiddo ei hun gyda sŵn mawr ar y stryd ar adegau, sydd yn effeithio patrwm cysgu a datblygiad ei fab 3 oed. Y pryderon wedi eu cyfeirio at Adra ac i’r Heddlu ar fwy nag un achlysur. Y sefyllfa yn cael effaith ar fab arall 9 oed sydd yn dioddef anhwylder gan wneud ei hun yn sâl pan mae unrhyw gynnwrf.

·         Yn poeni yn ofnadwy am iechyd meddwl ei blant ac yn dymuno gadel y stryd ond aros o fewn ei gynefin fel na fyddai effaith negyddol ar y plant o orfod symud ysgol.

·         Yn enedigol o Pistyll ac yn ysu am yr hawl i fyw adra gan gyfrannu i’w fro a chael rhoi bywyd hapus i’w deulu fel y cafodd yntau.

·         Ei deulu yn byw yno ers 5 cenhedlaeth – ei rieni yn ffermio a’i dad, sydd bellach yn agosáu at oed ymddeol angen mwy o gymorth ar y fferm ac yn dioddef o effaith llawdriniaeth ar ei ben-glin. Fel unig fab, yn teimlo bod dyletswydd i barhau traddodiad teuluol.

·         Petai’n cael eu gorfodi i werthu ni fyddai’n bosib aros yn lleol gan iddynt gael eu prisio allan o’r farchnad dai (tai 4 llofft addas yn Nefyn dros £400,000 a dim tai rhent yn yr ardal). Nid yw’r pris yma yn realistig i gyflog un person - ei bartner yn astudio cwrs Iechyd Meddwl ac felly ddim yn ennill cyflog.

·         Yn ddibynnol ar ei fam i warchod y plant - cefnogaeth wrth gefn ym Mhistyll.

·         Tai Teg wedi dweud mai’r unig ffordd i gyfarch y maen prawf yw gwneud ei deulu yn ddigartref ond nad oedd sicrwydd ganddynt.

·         Bod ei dŷ presennol gyda chytundeb adran 157 arno ac felly mewn trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd i werthu'r tŷ presennol yn ôl iddynt

·         Byddai caniatáu'r datblygiad yn rhyddhau 2 dŷ i bobl leol yr ardal ac yn helpu adfer pentref Pistyll sydd yn prysur droi yn bentref gwyliau.

·         Yn erfyn ar y Pwyllgor i roi hawl i deulu lleol sydd yn fwy na bodlon cyfaddawdu gael yr hawl i fyw adra.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Bod y cais gerbron yn un unigryw

·         Bod yr ymgeisydd yn byw mewn cyn dŷ Cyngor yn Nefyn ond problemau ymddygiad gwrth cymdeithasol yn y stryd yn cael effaith sylweddol arno ef a’i deulu ac felly’n dymuno dychwelyd i Pistyll, ei bentref genedigol

·         Yr ymgeisydd wedi cael cynnig llain o dir gan ei dad i adeiladu tŷ i’r teulu - bydd hyn hefyd yn caniatáu iddo helpu allan ar y fferm

·         Amod 157 ar eiddo presennol yr ymgeisydd yn cyfyngu i un o Wynedd yn unig brynu’r tŷ. Yr ymgeisydd wedi cysylltu gydag  Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor i holi os oes diddordeb ganddynt brynu'r tŷ yn ôl - bydd hyn yn golygu dau deulu yn cael tŷ fforddiadwy

·         Cyngor Tai Teg yw i’r teulu wneud eu hunain yn ddigartref !

·         Nifer o’r agweddau yn cydymffurfio gyda meini prawf PTAI6 gyda’r ymgeisydd yn fodlon cyfaddawdu ymhellach gyda’r gofynion

·         Y gobaith yw sefydlu cartref am oes - nid palas o dy haf, ond tŷ fforddiadwy i deulu lleol

·         Nifer yn cefnogi’r cais - dim gwrthwynebiad - llythyrau wedi eu cyflwyno yn cefnogi’r cais

·         Gweledigaeth Strategaeth Tai Gwynedd yw cefnogi holl bobl Gwynedd i ffynnu ac i fyw bywyd cyflawn yn eu cymunedau ynghyd a gwella ansawdd bywyd - cyfle yma i wneud hyn - teulu yn cyfarch y gofynion, pam felly gwrthod? Cais haeddiannol

·         Cais i’r Pwyllgor feddu ar ddoethineb a gwarchod trigolion Gwynedd

 

ch)   Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Y cais yn gais anarferol - y maint yn dderbyniol ond angen sicrhau cysondeb gyda gofynion tai fforddiadwy

·         Bod yr ymgeisydd yn frodor o Pistyll ac yn weithgar iawn yn ei gymuned - cyfle euraidd yma i ddangos cefnogaeth i deulu lleol

·         Y bwriad yn gweddu yn dda i’r ardal a’r bythynnod cyfagos

·         Dim gwrthwynebiad lleol – Cyngor Cymuned yn erfyn ar y Pwyllgor i dderbyn y cais

·         Yr AHNE yn cyfeirio at y tŷ fel un o ddyluniad eithaf syml

·         Bod nifer o bwyntiau arwyddocaol wedi eu cynnwys yn yr ymgynghoriadau cyhoeddus

·         Prif fantra Strategaeth Tai Gwynedd yw rhoi tai i bobl leol

·         Lleoliad a maint y tŷ yn addas - yr unig wrthwynebiad yw’r angen i dystiolaethu bod yr ymgeisydd yn gymwys

·         Cytundeb 157 ar eiddo’r ymgeisydd fyddai’n rhyddhau tŷ yn Nefyn - hyn yn ateb problemau ardal gwledig

·         Bod tystiolaeth ddigonol yma i ganiatáu - ni fydd eiddo’r ymgeisydd yn cael ei werthu ar y farchnad agored - yn gaeedig i drigolion Gwynedd yn unig  - tybiwyd na fydd o werth uchel

·         Bod angen cymorth ar bobl i brynu yn lleol ac i aros yn eu cymunedau

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cynorthwyol, er yn cydymdeimlo gyda’r ymgeisydd, nad yw dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yn tystiolaethu bod yr ymgeisydd yn gymwys am dŷ fforddiadwy.  Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth yn dangos nad yw’n bosib ehangu neu ymestyn y tŷ presennol i gwrdd â’u hanghenion ac nad yw’n glir faint o ecwiti fyddai’n cael ei ryddhau o werthu’r tŷ presennol. O ganlyniad, nid yw Tai Teg mewn sefyllfa i asesu os yw’r ymgeisydd mewn angen gwirioneddol am dŷ fforddiadwy. Wrth werthfawrogi sefyllfa’r ymgeisydd, ar sail y wybodaeth ddaeth  i law, nid oedd y cais yn cyrraedd gofynion maen prawf 1 polisi TAI 6.

 

dd)     Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i ohirio’r cais fel bod modd cael mwy o wybodaeth

           

PENDERFYNWYD: Gohirio – cais i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o wybodaeth a thystiolaeth ei fod yn gymwys am dŷ fforddiadwy

 

 

Dogfennau ategol: