Cais i ddymchwel adeiladau presennol a chodi
adeilad 4 llawr i greu 36 uned breswyl, creu llecynau parcio cebydol
cysylltiedig, diwygiadau i'r fynedfa gerbydol presennol ynghyd chreu mynedfa
gerbydol ychwanegol
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Catrin Wager a’r
Cynghorydd Mair Rowlands
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio wrthod y cais yn seiliedig ar y rhesymau canlynol:
Cofnod:
Cais i
ddymchwel adeiladau presennol a chodi adeilad 4 llawr i greu 36 uned breswyl,
creu llecynnau parcio cerbydol cysylltiedig, diwygiadau i'r fynedfa gerbydol
bresennol ynghyd chreu mynedfa gerbydol ychwanegol
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu
mai cais llawn ydoedd ar gyfer datblygu safle gyferbyn a Ffordd Caergybi a
Llwybr Cwfaint/Convent Lane o fewn ffin datblygu
Dinas Bangor fel y’i cynhwysir yn CDLL - nid yw wedi ei ddynodi neu ei warchod
ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn
erbyn Polisi PCYFF 1 a Pholisi TAI 1 o’r CDLL.
Eglurwyd mai lefel cyflenwad dangosol tai i Fangor dros gyfnod y
Cynllun yw 969 uned ac yn Ebrill 2021 roedd y banc tir ar hap yn 1883 gyda
chaniatâd pellach am 70 uned ar safleoedd sydd wedi eu dynodi ar gyfer tai yn y
CDLl. Mewn amgylchiadau o’r fath bydd ystyriaeth yn
cael ei roi i’r unedau sydd wedi eu cwblhau hyd yma o fewn haen y Prif
Ganolfannau gyda Pholisi PS 17 y CDLL yn nodi bydd 53% o’r twf tai yn cael ei
leoli o fewn y Prif Ganolfannau. Yn ôl arolwg o’r sefyllfa mewn perthynas â’r
ddarpariaeth o fewn yr holl Brif Ganolfannau yn Ebrill 2021 ymddengys bod 1,647
uned o’r cyfanswm o 4,194 uned wedi eu cwblhau, a bod 943 yn y banc tir (ac yn
debygol o gael eu cwblhau). O ystyried y sefyllfa bresennol gellid cefnogi
cymeradwyo’r safle yma yn erbyn darpariaeth gyffredinol (yn seiliedig ar y
gyfradd gwblhau hyd yma) o fewn y categori Prif Ganolfannau ond yng ngoleuni
sefyllfa safleoedd ar hap ym Mangor, dylid adolygu unrhyw gyfiawnhad sydd wedi
ei gyflwyno gyda’r cais yn amlinellu sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch
anghenion y gymuned leol
Mewn ymateb i’r gofyniad, cyflwynodd yr ymgeisydd Asesiad Effaith
Tai ynghyd a gwybodaeth gefndirol. Mewn
ymateb i’r wybodaeth nododd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn isod:
·
Tra bod Cofrestr Tai Teg yn amlygu’r
angen am dai canolradd, mae’r angen ar gyfer fflatiau yn eithaf isel yn enwedig
fflatiau 1 ystafell wely - 3% ar gyfer fflatiau 1 llofft a 7% ar gyfer fflatiau
dwy lofft).
·
Ni cheir tystiolaeth benodol gan
werthwyr tai lleol ar gyfer unrhyw restrau aros
·
Nid yw’r Asesiad yn cyfeirio at gyn safle Jewsons
(caniatâd ar gyfer 77 fflat 1 a 2 lofft marchnad agored gan gynnwys 13 fflat
fforddiadwy canolradd)
·
Rhaid ystyried, felly, os yw’r
dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd am angen cyffredinol ar gyfer unedau
llai o ran maint yn ddigonol i gyfiawnhau rhoi caniatâd am 36 fflat ychwanegol
yn y ddinas a fyddai’n golygu cynyddu’r banc tir o fflatiau o 178 i 214 ar
gyfer Bangor.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, cyflwynwyd
gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd yn datgan: -
·
Bod gwerthwyr tai lleol mewn sefyllfa
fwy gwybodus na’r Cyngor parthed asesu’r angen masnachol am unedau preswyl ym
Mangor.
·
Gan fod yr ymgeisydd yn y busnes o
adeiladu a gwerthu tai, ni fyddai’n gwneud synnwyr i adeiladu unedau ble nad
oes llawer o angen amdanynt.
·
Bod yr Asesiad Effaith Tai yn dangos yn
glir bod angen am unedau 1 a 2 lofft cymdeithasol a chanolradd ym Mangor
·
Bod hi’n amhosib i’r ymgeisydd gadarnhau gydag unrhyw sicrwydd
amser adeiladau ar gyfer datblygiadau preswyl ym Mangor sydd y tu allan i’w
rheolaeth. Er bod gan yr ymgeisydd ddiddordeb yn cyn safle Jewsons
ni ellid datblygu’r safle yn bresennol ar gyfer 77 fflat oherwydd bod cais i
ryddhau amod manylion tai fforddiadwy i mewn gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
Petai
datblygiad Jewsons
(C17/0835/11/MG ar gyfer 70 fflat) ddim yn mynd yn ei flaen (gan nad oes
gwarant bydd y caniatâd hwn yn cael ei wireddu), byddai gostyngiad o 34 uned o
fewn y banc unedau preswyl a ganiatawyd (gan gynnwys safle Llys Ioan).
·
Byddai caniatáu mwy o unedau 1 a 2 lofft ym Mangor yn cael effaith
bositif ar fforddiadwyedd
·
Ystyriwyd y byddai datblygu’r safle
amlwg a diolwg yma (sydd hefyd yn dir llwyd) mewn lleoliad cynaliadwy o fewn y
ddinas yn ystyriaeth faterol o’r fath raddfa byddai’n gorbwyso unrhyw
bryderon/gwrthdrawiad polisi.
Dadleuwyd
mai’r mater allweddol yma yw bod y bwriad, yn gronnol gyda banc tir presennol a
dynodiadau tir ar gyfer datblygu tai yn y ddinas, yn golygu lefel o ddatblygiad
byddai uwchlaw'r galw dangosol am unedau preswyl yn
ystod cyfnod y CDLl. Byddai rhaid felly i’r Awdurdod
Cynllunio Lleol fod yn argyhoeddedig byddai’r bwriad yn gymorth i gyfarfod ag
anghenion y gymuned leol. Er hynny, wedi asesu’r holl wybodaeth, nid oedd yr
Awdurdod Cynllunio Lleol wedi eu hargyhoeddi’n ddiamheuol bod yr ymgeisydd wedi
cyfiawnhau darparu 36 unedau preswyl ar ffurf fflatiau 1 a 2 lofft sy’n
ychwanegol i’r 177 o fflatiau sydd eisoes o fewn y banc tir ym Mangor. O
ganlyniad, nid oedd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol yn
unol â Pholisi TAI8.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol ystyriwyd graddfa, dyluniad, gosodiad a
thirlunio a daethpwyd i’r canlyniad bod y bwriad yn dderbyniol ar
sail effaith mwynderau gweledol y rhan yma o’r treflun.
Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod anheddau preswyl
wedi eu lleoli i’r gogledd, dwyrain ac i’r gorllewin o’r safle a derbyniwyd
nifer o wrthwynebiadau yn dilyn ymgynghori cyhoeddus statudol yn ymwneud ag
aflonyddwch sŵn, llygredd golau, llygredd aer, sbwriel a chreu strwythur
gormesol. Er hynny, ystyriwyd oherwydd natur drefol y safle ni fyddai
aflonyddwch sŵn neu lygredd/sbwriel a all deillio o’r datblygiad
arfaethedig hwn fod yn gwbl wahanol mewn natur i unrhyw fath arall o
ddatblygiad sydd wedi ei leoli mewn ardal breswyl.
Cyflwynwyd
pryder hefyd ynglŷn ag effaith gormesol yr adeilad ar fwynderau trigolion
lleol er bod yr adeilad arfaethedig wedi cael ei ddylunio er mwyn lleihau ei
effaith ac adrawiad ffisegol o fewn y strydlun lleol.
Wedi ystyried y lefelau tir, gosodiad yr anheddau preswyl mewn perthynas â’r
adeilad arfaethedig ynghyd a’r gwagle sydd rhyngddynt, ni ystyriwyd y byddai’r adeilad yn creu mwgwd neu strwythur
gormesol sylweddol ar draul mwynderau cyffredinol deiliaid yr anheddau hyn gan
fod yr adeilad wedi ei ddylunio i leihau unrhyw or-edrych uniongyrchol
sylweddol.
Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad cyflwynwyd Datganiad Trafnidiaeth
gyda’r cais a daw’r Datganiad i’r canlyniad byddai lefelau trafnidiaeth a all
ddeillio o’r datblygiad fod yn dderbyniol ar sail diogelwch ffyrdd ynghyd a
diogelwch defnyddwyr y ffyrdd. Mewn ymateb i’r broses ymgynghori
statudol nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais ar sail
diogelwch ffyrdd a hygyrchedd y safle yn ddarostyngedig ar gynnwys
amodau/nodiadau perthnasol.
Cyflwynwyd Asesiad Effaith Iaith Gymraeg gyda’r
cais yn unol â gofynion Polisi PS1 o’r CDLL ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yn y
ddogfen CCA: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy.
Nodwyd, gyda’r bwriad yn darparu 7 uned
fforddiadwy, byddai’n cydymffurfio â gofynion Polisi TAI 15 o’r CDLL parthed
trothwyon tai fforddiadwy a’u dosbarthiad. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi derbyn
prisiad ar gyfer yr unedau fforddiadwy canolradd gan ddau gwmni gwerthu tai
lleol cymwysedig a byddai angen 20% disgownt i’r prisiad ar gyfer yr unedau 1
llofft a 30% disgownt i’r prisiad ar gyfer yr unedau 2 lofft er mwyn eu gwneud
yn fforddiadwy ar lefel canolradd.
Ystyriwyd
na fyddai’r bwriad i ddatblygu 36 uned breswyl ar y safle hwn yn dderbyniol
mewn egwyddor yn seiliedig ar ddiffyg tystiolaeth fod wir angen ym Mangor ar
gyfer unedau bach 1 a 2 lofft yn ychwanegol i’r 177 uned/fflat cyffelyb sydd
eisoes o fewn y banc tir ar gyfer y ddinas. Byddai caniatáu’r cais yn arwain at
anghydbwysedd yn y math yma o ddarpariaeth llety preswyl ym Mangor ac ni
fyddai’n ymateb yn bositif i anghenion tai sydd wedi cael eu hadnabod yn y Ddinas
ac felly ystyriwyd yn annerbyniol
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Byddai'r cynnig yn trawsnewid y safle
a'i osodiad yn llwyr gan wneud cyfraniad cadarnhaol at adfywio'r Ddinas.
·
Nad oedd gan y Swyddogion unrhyw
broblem gyda dyluniad yr adeilad ac maent yn cytuno ei fod yn gyfystyr ag
ailddatblygiad o ansawdd uchel ar safle tir llwyd mewn lleoliad cynaliadwy.
·
Bod yr unig bryder yn ymwneud â mater cyflenwad tai damcaniaethol.
Y swyddogion o'r farn, gan ystyried caniatadau eraill
ar gyfer datblygiadau preswyl ym Mangor, y byddai'r cynllun yma yn arwain at
orgyflenwad o dai a ddarperir gan safleoedd ar hap. Y pryder yn deillio o
dargedau tai a gyfrifwyd sawl blwyddyn yn ôl. Erbyn hyn mae digwyddiadau
sylweddol megis Brexit a Covid
wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd o fyw
a lle i fyw. Ar y sail yma, awgrymwyd bod y cyfrifiad wedi dyddio ac nad
yw bellach yn gwbl berthnasol.
·
Nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai’r holl ganiatadau
yn cael eu gweithredu. Gofynnodd y swyddogion am werthusiad o ganiatâdau cynllunio presennol a'r tebygolrwydd y gellid eu
cyflawni. Nid oedd hyn yn bosibl oherwydd ni ellid rhagweld bwriad
tirfeddianwyr a datblygwyr annibynnol neu amharod fyddent i ddatgelu'r
wybodaeth yma yn gywir
·
Ei gleientiaid yn berchen cyn safle Jewsons
yn y Ddinas sydd â chaniatâd cynllunio hen ond mewn bodolaeth ar gyfer 70 o
fflatiau. Annhebygol y bydd y safle yn cael ei ddatblygu yn unol â'r caniatâd
presennol oherwydd bod yr ymchwil marchnad ddiweddaraf yn dangos y byddai
cymysgedd o dai tref a fflatiau yn fwy addas ar ei gyfer. Byddai cymysgedd o'r fath yn haneru nifer yr
unedau tai y bwriedir eu datblygu.
·
Yr hen safle Jewsons yn safle gwahanol
iawn i leoliad y cais gerbron sy'n
ddelfrydol ar gyfer datblygiad fflatiau. Petai caniatâd safle Jewsons yn cael ei ail gyflwyno a’r cais gerbron yn cael ei
gymeradwyo, ni fyddai cynnydd net yn nifer yr unedau yn y banc tir. Nid oes
sicrwydd chwaith y byddai’r caniatadau eraill sy'n
cyfrannu at y banc tir yn cael eu gweithredu.
·
Pryder yn codi yn aml ynghylch fforddiadwyedd tai ym Mangor - y pris yn cael ei osod gan
angen a chyflenwad. Byddai atal datblygiadau fel hyn yn gwaethygu'r bwlch rhwng
yr angen a'r cyflenwad gan gynyddu prisiau ymhellach.
·
Swyddogion o'r farn bod hwn yn gynllun
o ansawdd uchel ac wedi ei ystyried yn dda. Byddai'r cam adeiladu yn rhoi hwb
enfawr i fasnachwyr lleol a'r gadwyn gyflenwi. Yn y tymor hir, byddai deiliaid
y fflatiau yn debygol o wario rhywfaint o’u hincwm yn y Ddinas fydd i’w
groesawu.
·
Bod buddion y cynllun yn gorbwyso unrhyw faterion gorgyflenwi
damcaniaethol ac anogir rhoi caniatâd.
·
Beth yw dyfodol y safle tirnod yma os
na ystyrir cynllun tai sydd wedi'i ddylunio'n dda yn dderbyniol? Pe bai'r safle'n parhau i fod yn ddiffaith,
beth fyddai hyn yn ei ddweud am uchelgeisiau adfywio'r Cyngor?
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd y Cynghorydd Catrin Wager
y sylwadau canlynol. Cyflwynwyd hefyd sylwadau cyd Aelod Lleol, y
Cynghorydd Mair Rowlands
Cynghorydd Mair Rowlands
·
Yn dilyn trafodaethau, pobl leol yn gwrthwynebu’r cais. Er yn
gefnogol o’r bwriad o geisio cyfarch anghenion tai lleol a datblygu unedau
fforddiadwy, mae gwahanol resymau dros wrthwynebu’r datblygiad yma.
·
Yr adeilad arfaethedig allan o
gymeriad - nid yn unig o fewn y strydlun
lleol ond hefyd o fewn y ddinas. Nid yw'r dyluniad yn cyd-fynd â'r ardal, yn
enwedig o gofio bod hwn yn safle strategol pwysig, yn edrych dros yr orsaf
reilffordd. Yr adeilad pedwar llawr yn dominyddu ac yn meddiannu'r holl dir
sydd ar gael ar y safle ac mae'n ormodol o ran graddfa ac uchder. Nid yw'r
cysyniad a'r dyluniad yn cydymdeimlo â chymeriad Bangor fel dinas hynafol a
hanesyddol.
·
Pryderon wedi codi am y traffig a
diogelwch ffordd - ystyriwyd y byddai’r
bwriad yn cynyddu’r drafnidiaeth ar hyd ffordd sengl ar draul diogelwch
cerddwyr gan gynnwys plant ysgol a myfyrwyr coleg sydd hefyd yn llwybr beics o
fewn y ddinas.
·
Yn or-ddatblygiad o’r math yma o unedau heb dystiolaeth am yr
angen am fwy o fflatiau ym Mangor. Nifer iawn o ddatblygiadau tai a fflatiau
wedi ei cymeradwyo a’u datblygu ym Mangor yn ddiweddar gan gynnwys datblygiad
Adra o Plas Farrar - fflatiau un a dwy stafell wely
ym Mangor fyddai dros y ffordd i’r datblygiad arfaethedig yma.
·
Nid yw’r ymgeiswyr yn gallu
cyfiawnhau'r angen i ddarparu 36 unedau preswyl ar ffurf fflatiau 1 a 2 lofft
sy’n ychwanegol i’r 177 o fflatiau sydd eisoes o fewn y banc tir ym Mangor ac
nid yw felly yn cyfarch anghenion y gymuned leol yn unol â Pholisi TAI8.
·
Byddai caniatáu’r cais yma yn golygu y
byddai’r cyflenwad yn mynd uwchben lefel twf dangosol Bangor a fyddai’n arwain
at anghydbwysedd yn y math yma o ddarpariaeth llety preswyl ym Mangor. Ni
fyddai’n ymateb yn bositif i anghenion tai ym Mangor.
Cynghorydd Catrin Wager
·
Yn cefnogi’r argymhelliad – nid yw’r datblygiad
yn cyfarch yr angen lleol
·
Cyngor Dinas Bangor a’r Gymdeithas Ddinesig wedi nodi
gwrthwynebiad er nad yw’r sylwadau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad
·
Anghytuno gyda’r datganiad ‘bod y bwriad yn dderbyniol ar sail
effaith mwynderau gweledol’ - y datblygiad 3m uwchlaw’r
ffordd ac yn 4 llawr - byddai’n ymddangos yn ormesol ac yn eithafol
·
Y safle yn strategol bwysig i Fangor
- yn safle sydd angen ei ddatblygu ac yn
rhan o gynlluniau adfywio Bangor
·
Nid yw’r dyluniad yn gweddu gydag adeiladau hanesyddol y rheilffordd
·
Adeilad y rheilffordd wedi ei gofrestru
– oni ddylai’r adeilad yma gael ei gofrestru hefyd? Cysylltiad hanesyddol dim
eisiau ei golli - angen gwarchod
treftadaeth y Ddinas
·
Yr ardal yn cynnig adeiladau sydd yn
gweddu gyda nodweddion arbennig – angen cadw hyn
·
Y safle yn wag ac yn broblemus – angen
cael yn ôl i ddefnydd ond nid hwn yw’r datblygiad cywir i’r safle yma
d)
Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
e)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Byddai’r datblygiad yn cael effaith
sylweddol ar y strydlun
·
Angen gwarchod adeilad hanesyddol
·
Angen dyluniad gwell i’r safle - y dyluniad yma yn ormesol mewn
safle amlwg
·
Dim cyfiawnhad dros yr angen –
datblygiad Jewsons heb symud yn ei flaen Pam? Dim
galw am y math yma o fflatiau?
·
Cynlluniau estronol
·
Cannoedd o fflatiau wedi eu hadeiladu
ym Mangor – dim angen mwy
·
Bechod troi lawr buddsoddiad o’r fath
ond datblygiad anghywir yn y lle anghywir sydd yma
·
Awgrym sail gwrthod ychwanegol o
effaith gweledol – graddfa a dwysedd
Mewn
ymateb i awgrym am sail gwrthod ychwanegol, nodwyd yr angen i’r cynigydd
gefnogi’r awgrym petai’r cais yn mynd i apêl. Derbyniodd y Cynghorydd Stephen
Churchman y cyngor ac fe gytunodd i’r sail gwrthod ychwanegol gael ei gyflwyno.
PENDERFYNWYD
dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod y cais yn seiliedig ar y
rhesymau canlynol:
1.
Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PS 17 a TAI 1 o Gynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) gan ystyrir nad yw’r ymgeisydd wedi cyflwyno
digon o dystiolaeth gyda’r cais i ddarbwyllo’r Awdurdod Cynllunio Lleol bod
angen am fflatiau 1 a 2 lofft ychwanegol ym Mangor gan ystyried bod y bwriad
hwn yn mynd uwchben lefel twf tai dangosol Bangor ar gyfer safleoedd ar hap. O
ganlyniad, mae’r bwriad hefyd yn groes i feini prawf 2, 3 4 a 5 o Bolisi TAI 8
o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) gan y credir byddai’n
creu anghydbwysedd yn y math a chymysgedd o unedau bach o fewn y ddinas ac nid
oes tystiolaeth wedi ei dderbyn bod y bwriad yn ymateb yn bositif i anghenion y
gymuned leol.
2.
Bod y bwriad yn groes i PCYFF 3 a 4 – effaith ar fwynderau gweledol –
graddfa, dwysedd, effaith ar y strydlun – yn adeilad gormesol
Dogfennau ategol: