Codi adeilad yn lle adeilad presennol (rhannol
ôl-weithredol) ar gyfer defnydd fel gweithdy masnachol, storfa, a modurdy, ac
hawl ol weithredol ar gyfer ffurfio mynedfa newydd ynghyd a ffordd mynediad
ynghyd a dymchwel modurdy a sied
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
Gohirio.
·
Cais am asesiad manylach o’r
effaith weledol ac ateb i’r cwestiwn, Pam bod angen safle gwaith ym Mhenygroes a Bontnewydd ?
Cofnod:
Codi
adeilad yn lle adeilad presennol (rhannol ôl-weithredol) ar gyfer defnydd fel
gweithdy masnachol, storfa, a modurdy, a hawl ôl weithredol ar gyfer ffurfio
mynedfa newydd ynghyd a ffordd mynediad ynghyd a dymchwel modurdy a sied
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd yr Rheolwr Cynllunio mai cais
rhannol ôl weithredol ydoedd ar gyfer codi gweithdy diwydiannol (dosbarth
defnydd B2) ar leoliad adeilad amaethyddol blaenorol. Adroddwyd y byddai’r gweithdy newydd yn mesur 20 medr o
hyd, 12 medr o led a 5.2 medr i’r crib ac yn cael ei adeiladu o fframwaith ddur
(sydd eisoes mewn lle) wedi ei orchuddio gyda sitiau
dur gyda’r tai preswyl agosaf wedi eu lleoli tua 200 medr oddi wrth y safle
Pwrpas y gweithdy yw ar gyfer
busnes yr ymgeisydd. Ategwyd bod bwriad codi modurdy domestig ar safle modurdy
blaenorol ynghyd a chadw mynedfa newydd i’r ffordd sirol di ddosbarth
cyfochrog.
Aseswyd egwyddor y bwriad yn ôl
Polisi CYF 6 o’r Cynllun lle nodir y gellid caniatáu cynigion ar gyfer
adeiladau er diben cyflogaeth/busnes newydd cyn belled fod posib cydymffurfio a
meini prawf y polisi. Nodwyd bod y polisi yn annog datblygiadau ar raddfa fach sy’n gwneud defnydd
priodol o adeiladau sy’n bodoli yn barod ac sy’n gweddu a’r ardaloedd gweledig.
Er hynny, nid yw Polisi presennol yn diffinio graddfa, ac felly bu rhaid pwyso
a mesur yr achos yn sgil pwrpas ac amcanion y Polisi ac anodd oedd gweld sut y byddai adeilad
diwydiannol dosbarth defnydd B2 o’r maint yma yn cydymffurfio a’r Polisi.
Eglurwyd bod yr ymgeisydd yn
rhedeg ei fusnes o Ystâd Ddiwydiannol Peblig yng Nghaernarfon ond bod y safle
hwnnw yn rhy fach ar gyfer gweithrediadau'r busnes ac felly bwriad yw ymestyn y busnes i eiddo arall ym Mhenygroes. Byddai'r trefniant yma yn caniatáu i staff y
cwmni i weithio o’r Ystâd Ddiwydiannol Penygroes ac i’r ymgeisydd weithio o’i
gartref am resymau personol. Nodwyd hefyd na fyddai angen i’r ymgeisydd weithio
o fewn unedau diwydiannol presennol oherwydd natur ei waith o fewn y busnes ac
felly ymddengys mai’r bwriad yw sefydlu'r busnes yn Llain Meddygon oherwydd
anghenion personol. Ystyriwyd felly, nid yw lleoliad cefn gwlad wedi ei ddangos
yn hanfodol i’r busnes y gellid ei reoli o leoliad arall ac nad oedd cyfiawnhad
cynllunio wedi dangos dros ganiatáu'r gweithdy ar safle y tu allan i ffin
datblygu.
Ni ystyriwyd bod maint, graddfa
na natur y bwriad yn cydymffurfio gydag amcanion polisi PCYFF1, PCYFF2, PCYFF3
na CYF6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ac felly'r argymhelliad
oedd gwrthod y cais
b)
Yn manteisio
ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:
·
Ef oedd perchennog Axis
Precision sydd yn cyflogi a hyfforddi pobl leol - yn cyflogi wyth aelod o staff
gyda saith ohonynt yn siarad Cymraeg.
·
Y busnes ar hyn o bryd ar ystâd Peblig
ond ar fin symud i ystâd Penygroes oherwydd bod y to yn gollwng a’r
peiriannau’n rhydu - nid yw’n lle da i
weithio, mae’n oer a llaith.
·
Ei wraig yn
dioddef o MS a’r salwch yn cael effaith mawr ar ei blant sydd wedi gofalu amdani
ers yn blant bach tra roedd yntau yn gweithio. Er yn anhapus gyda’r sefyllfa,
ei wraig yn deall bod rhaid rhoi amser i’r busnes ar y pryd
·
Wedi prynu Llain Meddygon oherwydd
gweld cyfle iddo allu rhedeg y busnes o’r cartref a gofalu am ei wraig - hyn yn
bwysig iddo gan nad yw’n deg rhoi’r cyfrifoldeb ar y plant sydd bellach angen
canolbwyntio ar eu bywydau eu hunain.
·
Gwaith wedi ei wneud ar y tŷ yn
Llain Meddygon i’w wneud yn addas i berson anabl - y gobaith yw symud i mewn yn
y gwanwyn.
·
Nid oedd yr adeiladau allanol
gwreiddiol mewn cyflwr da, ac felly penderfynodd brynu sied newydd. Derbyniodd
gyngor gwael ynghylch ceisiadau cynllunio ac roedd yn edifarhau am hyn
·
Petai y cais yn cael ei wrthod, mwy na
thebyg bydd swyddi yn cael eu colli a’r
busnes efallai yn cau yn gyfan gwbl.
c)
Yn manteisio
ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn
cefnogi’r cais ac yn derbyn fod y cais yn un anarferol
·
Y bwriad yw
hwyluso patrwm byw a gwaith yr ymgeisydd drwy roi cyfle iddo ef a’i fab weithio
o adre a gofalu am ei wraig
·
Cadarnhau mai symud oedd y busnes o
Peblig i Penygroes - nid oedd dau safle
·
Bod fframwaith y datblygiad eisoes wedi
ei godi ac yn debyg i’r sied wreiddiol ac er efallai yn hirach, bod crib y to
1m yn llai. Derbyn bod yr ymgeisydd wedi
dechrau ar y gwaith ond hyn oherwydd iddo gael ei gamarwain
·
Bydd y sied yn cael ei pheintio yn
wyrdd sydd yn debyg i adeiladau cyfagos
ac yn plethu i mewn i’r amgylchedd - dim yn niweidiol - o well safon na’r
adeilad gwreiddiol
·
Y CDLl yn
ffafrio cefnogi busnesau fel yr un sydd yma
·
Cyngor Cymuned Bontnewydd wedi trafod y
cais yn fanwl – dim gwrthwynebiad ar wahân i beth fydd yn gynwysedig yn yr
adeilad - erbyn hyn deallir y bydd sied a garej - nid yw’r adeilad ar gyfer
busnes yn unig
·
Bod bwriad plannu coed a thirweddu a
chreu un fynedfa newydd ddiogel
·
Gwelir unedau mwy mewn ardaloedd
gwledig
·
Cyfle yma i
gefnogi Cymry lleol
d)
Cynigwyd ac
eiliwyd i ohirio’r cais
e)
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y bwriad yn ymddangos yn well na’r
adeilad blaenorol
·
Angen gwell asesiad ar yr effaith o
ystyried bod yr adeilad yn llai na’r un blaenorol
·
Bod eglurhad
wedi ei dderbyn am y fynedfa
·
Y bwriad yn
cynnig gwaith a chyfleoedd yn lleol
·
Pam yr angen i gynnal safle ym Mhenygroes a Bontnewydd?
Mewn
ymateb i sylw am y fynedfa a’r cwrtil, nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd gan
y Swyddogion bryder ynglŷn â pharcio a maint y cwrtil gan mai dau yn unig
oedd yn bwriadu gweithio yn yr adeilad. Cydymffurfiaeth gyda pholisi CYF6 oedd
yn amlygu’r pryder mwyaf i swyddogion.
PENDERFYNWYD Gohirio.
Cais am
asesiad manylach o’r effaith weledol ac ateb i’r cwestiwn, pam bod angen safle
gwaith ym Mhenygroes a Bontnewydd ?
Dogfennau ategol: