Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cllr. Dafydd Meurig

Penderfyniad:

Cymeradwywyd adnoddau un tro am ddwy flynedd,sef £193,217 yn 2022/23 a £155,990 yn 2023/24 o’r Gronfa Adfer COVID tuag at y Rhaglen Cefnogi Pobl

 

Cofnod:

 Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd adnoddau un tro am ddwy flynedd, sef £193,217 yn 2022/23 a £155,990 yn 2023/24 o’r Gronfa Adfer COVID tuag at y Rhaglen Cefnogi Pobl.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cais am arian un tro oedd yr adroddiad er mwyn cefnogi’r rhaglen trawsadrannol Cefnogi Pobl. Mynegwyd fod y ddwy flynedd diwethaf o argyfwng Covid-19 wedi bod yn anodd ac wedi amlygu pa mor fregus yw rhai o drigolion Gwynedd.

 

Eglurwyd dros y ddwy flynedd diwethaf fod y cynllun wedi delio a materion yn ymwneud a tlodi tanwydd a digartrefedd, ond bellach fod angen ffurfioli’r gwaith sydd yn cael ei wneud. Mynegwyd fod rhaglen yn ei le a tynnwyd sylw at y cynlluniau fyddai’n cael eu blaenoriaethu megis tlodi bwyd, tlodi tanwydd a chynhwysiad digidol.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith sydd wedi ei wneud yn draws adrannol a gyda partneriaid. Diolchwyd am y cyd-weithio sydd wedi arwain at greu cynllun a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn y tymor byr i drigolion Gwynedd. Nodwyd y bydd yn cynllun yn gwneud popeth o fewn gallu’r Cyngor i gefnogi trigolion tra’n gweithio ar gynlluniau tymor hir. 

 

Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd fod yr adroddiad yn crynhoi beth oedd modd ei gynnal dros gyfnod yr argyfwng. Mynegwyd gyda cyfnod adfer yn dilyn y pandemig a cynnydd yn y galw fod gofyn am fuddsoddiad i sicrhau cefnogaeth i bawb. Diolchwyd yn ogystal i’r ymdrechion cymunedol ynghyd a gwaith y trydydd sector dros y ddwy flynedd diwethaf.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Cefnogwyd yr adroddiad gan nodi diolch i’r partneriaid ac yr adrannau am gydweithio ar y cynllun hwn. Mynegwyd fod tlodi yn rhoi effaith andwyol ar blant a nodwyd yr angen i gefnogi teuluoedd fydd yn dod mewn i’r system budd-daliadau am y tro cyntaf.

¾     Mynegwyd fod y sefyllfa yn un anghyffredin, ar un llaw yn ymfalchïo yn y ffaith fod y Cyngor yn gallu cefnogi y trigolion ond ar y llaw arall yn cywilyddu o fyw mewn gwlad sydd a Llywodraeth sydd yn gwthio trigolion i fynd i fanciau bwyd er mwyn cynnal eu teuluoedd.

¾     Amlygwyd y prosiectau tlodi bwyd gan holi os oes cyfleodd o ran mynd i’r afael a gwastraff bwyd ynghyd a tyfu bwyd yn gymunedol. Cynigwyd i ail enwi yr elfen hwn o’r cynllun o dlodi bwyd i wytnwch bwyd neu Sicrhau Bwyd i Bawb.

¾     Amlygwyd nad yw tlodi yn broblem diweddar yng Ngwynedd ac ei fod yn wedi bod yn broblem ers nifer o flynyddoedd. Mynegwyd fod yr arian ar gyfer cyfnod o ddwy flynedd a mynegwyd na fydd tlodi wedi diflannu ymhen diwedd y cyfnod. Pwysleisiwyd yr angen i gyfarch yr angen sydd ei angen i drigolion ac amlygwyd partneriaid posib y gellid gweithio a hwy.

¾     Tynnwyd sylw at Hyrddwr Budd-dal Ysgolion a holwyd pan mai am flwyddyn fydd yn cael ei ariannu. Nodwyd fod trafodaethau wedi ei cynnal gyda’r Adran Addysg a nodwyd fod Penaethiaid wedi amlygu mai cymorth tai a budd-daliadau yw’r prif anghenion sydd yn codi o fewn ysgolion. Ychwanegwyd o ganlyniad i hyn, bydd linc penodol i ysgolion yn cael ei ariannu am flwyddyn fel bod modd deall beth yw’r galw ac efallai yn y tymor hir bydd modd cyfeirio unigolion at wasanaethu penodol. 

 

 

Awdur:Morwena Edwards a Catrin Thomas

Dogfennau ategol: