Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Catrin Wager

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Catrin Wager.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn edrych ar ddwy adran a dechreuwyd gyda’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw at gynllun Cymunedau Glan a Thaclus gan amlygu fod y cynllun hwn yn un o flaenoriaethau y Cyngor. Pwysleisiwyd fod angen gweithio gyda cymunedau i sicrhau fod ardaloedd yn edrych yn lan ac yn daclus. Ategwyd yn ystod cyfarfod blaenorol y Cabinet eu bod wedi buddsoddi yn y timau i arwain y gwaith hwn.

 

Nodwyd fod y gwaith o ddad-garboneiddio y fflyd yn parhau ac y bydd dau gerbyd casglu biniau trydan yn cyrraedd cyn diwedd y flwyddyn. Ychwanegwyd fod grant o £300,000 wedi ei dderbyn er mwyn buddsoddi mewn pwyntiau gwefru cerbydau mawr o fewn lleoliadau’r Cyngor.

 

Amlygwyd cynllun Caerau Chwarae gan bwysleisio fod gan Gaeau Chwarae rôl bwysig o fewn y gymdeithas. Eglurwyd y bydd yr adran yn ail afael ar cynllun o gysylltu a chynghorau Cymuned neu grwpiau cymunedol i roi’r cyfle iddynt edrych ar ôl a rhedeg caerau chwarae plant. Nodwyd fod yr adran am gyflwyno bid i’r gronfa drawsffurfio i adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd hyd Fawrth 2020.

 

O ran perfformiad yr Adran Briffyrdd amlygwyd fod lleihad wedi bod yn y gyfradd ailgylchu ar draws y sir. Mynegwyd yr angen i atgoffa unigolion ailgylchu, a nodwyd y bydd y gwasanaeth yn parhau dros gyfnod y Nadolig. Nodwyd fod gorwario i’w gweld yn y maes Gwastraff ac fod hynny o ganlyniad i ansicrwydd grantiau, eglurwyd fod yr adran wedi comisiynu adolygiadau gan WRAP i edrych yn fanwl ar y gwasanaeth a gobeithir adrodd i’r Cabinet yn fuan.

 

Nodwyd mai prif flaenoriaeth adran Ymgynghoriaeth Gwynedd yw Rheoli Risgiau Llifogydd er mwyn cadw trigolion Gwynedd yn saff. Tynnwyd sylw at gynllun Wnion sydd i’w gweld yn ardal Meirionnydd ble mae’r adran yn cydweithio gyda’r Parc Cenedlaethol Eryri a  ffermydd cyfagos i weld sut y bydd modd atal llifogydd drwy ddulliau rheoli naturiol a drwy wneud hyn hybu bioamrywiaeth.

 

Amlygwyd pryder gyllidol o fewn yr adran Ymgynghoriaeth gan fod y ffigwr incwm wedi ei leihau wedi i Lywodraeth Cymru dynnu yn ôl o gynllun Ffordd Osgoi Llanbedr. Er hyn, mynegwyd fod y staff yn brysur ymgeisio i adfer yr incwm drwy gynlluniau amgen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Croesawyd yr adroddiad gan holi gyda chynllun Wnion yn ardal Dolgellau a holwyd os y bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Aelodau Lleol. Nodwyd y bydd trafodaethau lleol yn cael eu trefnu ym mis Ionawr.

¾    Tynnwyd sylw at y cyfraddau ailgylchu gan amlygu fod tueddiad i fwy o ailgylchu ddigwydd dros gyfnod yr haf nac yn y gaeaf. Eglurwyd fod y sefyllfa yn dymhorol yn hanesyddol ac fod twristiaeth yn rhoi effaith ar lif gwastraff gweddilliol sy’n cael ei gasglu. Amlygwyd fod y cyfnod o flaen yr adran yn un heriol ac y bydd angen cynllun penodol i symud ymlaen i fod yn ailgylchu 70% o wastraff erbyn Mawrth 2023.

¾    Amlygwyd nad oes sôn am sefyllfa ariannol yr adrannau yn yr adroddiad perfformiad a mynegwyd angen i’r wybodaeth gael ei nodi i’r dyfodol.

¾    Nodwyd cefnogaeth i’r prosiect Caeau Chwarae sydd yn  fater mor bwysig i drigolion Gwynedd. Mynegwyd o edrych ar siroedd eraill ei bod yn amlwg fod diffyg buddsoddiad yng nghaeau chwarae Gwynedd ac fod yr adran yn cydnabod yr angen i ail edrych ac i symud y cynllun yn ei blaen.

¾    Cytunwyd fod angen i flaenoriaethu gwaith atal llifogydd gan fod newid hinsawdd yn bryder sydd gan gymunedau. Ychwanegwyd fod gwaith datblygu yn cael ei wneud ar hyn o bryd i adnabod blaenoriaethau gan fod risgiau amlwg i’w gweld ar yr arfordir ac ar y mewndiroedd yn ogystal.

 

Awdur:Steffan Jones a Huw Williams

Dogfennau ategol: