Agenda item

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Porffolio, i roi diweddariad i'r Bwrdd ynghylch y gwaith o ddatblygu strategaeth i roi sylw i'r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y Cynllun Twf.

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad ar y gwaith o ddatblygu strategaeth fuddsoddi.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd y diweddariad ar y gwaith o ddatblygu strategaeth fuddsoddi.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Bob blwyddyn, mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cychwyn Adolygiad Porth annibynnol fel rhan o’i broses sicrwydd a llywodraethu. Amlygodd Adolygiad Porth y Portffolio ym mis Awst 2021 gradd hyder cyflawni Ambr/Gwyrdd sydd yn cydnabod bod cyflawni’n llwyddiannus yn ymddangos yn debygol. Fodd bynnag, nodwyd yr angen rhoi sylw parhau i sicrhau nad yw risgiau yn troi mewn i faterion mawr a fyddai’n fygythiad.

 

Un o argymhellion y panel adolygu oedd y dylid datblygu a mabwysiadu strategaeth ar lefel Portffolio i ddenu a sicrhau buddsoddiad sector breifat ac arall.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nod pob blwyddyn fod y Cynllun Twf yn cychwyn Adolygiad Porth annibynnol fel rhan o broses sicrwydd a llywodraethu. Cynhaliwyd yr adolygiad ym mis Awst 2021, a cyflawnwyd gradd hyder cyflawni o Ambr/Gwyrdd a oedd yn cydnabod fod cyflawni’n llwyddiannus yn edrych yn debygol. Eglurwyd fod y panel adolygu yn argymell y dylid datblygu a mabwysiadu strategaeth ar lefel Portffolio er mwyn denu a sicrhau buddsoddiad sector breifat ac arall.

 

Eglurwyd fod y Cynllun Twf yn seiliedig ar gyflawni prosiectau ar draws pum rhaglen a rhagwelir y bydd cyfanswm gwariant cyfalaf hyd at £1.1biliwn. O’r cyfanswm hwn, ategwyd fod £240miliwn wedi’i ymrwymo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a nodwyd fod disgwyliad i £179.2miliwn o gyfalaf o ffynonellau sector gyhoeddus eraill a £722miliwn yn cael ei ymrwymo gan y sector breifat. Mynegwyd fod y buddsoddiad yn cyfrannu at dwf economaidd y rhanbarth dros dymor o ddeg i bymtheg mlynedd ac fod y buddsoddiad wedi’i dargedu at y sectorau sy’n bwysig yn strategol drwy bum rhaglen portffolio.

 

Yn unol ag argymhellion y panel adolygu nodwyd fod drafft cychwynnol o’r Strategaeth wedi ei gyflwyno i’r Bwrdd Portffolio ar 26 Tachwedd i’w ystyried. Gofynnodd y Bwrdd Portffolio am amser ychwanegol i ystyried a rhoi mewnbwn i’r ddogfen. Nodwyd fod y strategaeth yn nodi saith amcan allweddol i fynd i’r afael â’i nodau’n effeithiol ynghyd ag annog cydweithio rhanbarthol a cheisio adnabod cyfleoedd a bygythiadau posib sy’n gysylltiedig a sicrhau buddsoddiad. Ategwyd y bydd cyflawnir amcanion yn llwyddiannus yn sicrhau ymagwedd gydlynol i sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen.

 

Tywyswyd drwy’r saith amcan o fewn y Strategaeth Buddsoddi. Eglurwyd y bydd cydweithio parhaus gyda’r rhan ddeiliaid rhanbarthol i adeiladu yr ymagwedd sydd wedi ei amlinellu a nodwyd y bydd diweddariad yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y Strategaeth ar yr 14 Rhagfyr 2021.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd pryder fod yr elfen leol ar goll o’r strategaeth ac fod yr elfen o drafodaeth leol yn cael ei dynnu o’r rhanbarth. Eglurwyd nad oes bwriad i’r ddogfen deimlo fod yr ymdeimlad lleol yn cael ei golli gan nodi fod y ddogfen yn llawn yn datgelu llawer yn fwy. Mynegwyd pwysigrwydd o edrych yn lleol am fuddsoddiad ac i ymestyn ymhellach i ddenu buddsoddiad pellach. Nodwyd mai bwriad y strategaeth oedd i osod amcanion pendant ar waith i hwyluso cyfleodd buddsoddi yn y rhanbarth ond i sicrhau fod yr ardal yn cael y buddsoddwyr cywir yn ogystal. Eglurwyd ei bod yn bwysig deall sut mae pob awdurdod eisiau denu’r buddsoddwyr ac ei blethu i mewn i’r strategaeth. 

¾     Mynegwyd yr angen i gael busnesau i fuddsoddi ac er mwyn gnwued hyn y bydd angen gweithio gyda’i gilydd ac i fod yn ardal groesawgar.

 

Dogfennau ategol: