Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
Cytunwyd mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru trwy gytundeb dirprwyo i Gyd-Bwyllgor
Corfforaethol Gogledd Cymru yn amodol ar;
a) bod
y fframwaith statudol mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu yn caniatáu
dirprwyo'r swyddogaethau gweithredol perthnasol i Gyd-Bwyllgor Corfforaethol,
b)
bod Cyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yn
cytuno i sefydlu Is-Bwyllgor, ag aelodaeth i'w gytuno gyda'r Cynghorau, i
gyflawni swyddogaethau'r Bwrdd
Uchelgais Economaidd.
Cynigwyd y trosglwyddiad hwn
er mwyn cyflawni model llywodraethu symlach, gan
osgoi dyblygu. Cyflwynir adroddiad manwl pellach ar y fframwaith ar gyfer
gweithredu i gyfarfod dilynol o'r Cabinet.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig
Siencyn
PENDERFYNWYD
Cytunwyd mewn egwyddor i drosglwyddo
swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru trwy gytundeb dirprwyo i
Gyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yn amodol ar;
Cynigwyd y trosglwyddiad hwn er mwyn
cyflawni model llywodraethu symlach, gan osgoi
dyblygu. Cyflwynir adroddiad manwl pellach ar y fframwaith ar gyfer gweithredu
i gyfarfod dilynol o'r Cabinet.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd bellach wedi ei sefydlu dan
ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mynegwyd ei bod yn orfodol bellach i chwe sir
y Gogledd ei sefydlu’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i drafod materion cynllunio a
thrafnidiaeth ac ei bod yn ddewisol i drafod llesiant Economaidd. Eglurwyd fod
yr adroddiad hwn yn gofyn i drosglwyddo Swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais
Economaidd trwy Gyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru.
Tywysodd y Pennaeth Cyllid, a gomisiynwyd i
gydlynu’r gwaith o sefydlu’r Cyd-Bwyllgor, trwy’r cyflwyniad gan amlygu’r prif
bwyntiau. Pwysleisiodd bellach fod y
ddeddfwriaeth yn ei le, ac o’i ganlyniad
fod angen gwneud y trefniadau priodol i gynnal cyfarfod cyntaf y Cyd-Bwyllgor
cyn diwedd mis Ionawr fel bod modd mabwysiadu’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Er
hyn, mynegwyd na fydd y swyddogaethau cychwynnol y Cyd-Bwyllgor ddim yn cychwyn
tan diwedd Mehefin 2022.
Eglurwyd fod dyletswydd cyfreithiol i ddelio
gyda materion cynllunio ynghyd a trafnidiaeth, ac mai grym dewisol yw i ddelio
a llesiant economaidd sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddelio drwy’r Bwrdd
Uchelgais. Mynegwyd fod y gofyniad cyfreithiol a dyletswyddau yn ddi-oed ac mae
brys i symud ymlaen. Pwysleisiwyd fod llawer o waith da wedi ei wneud yn
rhanbarthol ac fod y gwaith o sefydlu egwyddorion wedi ei wneud yn barod.
Amlygwyd yr angen i osgoi dyblygu trafodaeth, cadw costau i lawr tra yn ceisio
sicrhau fod penderfyniadau yn cael ei gwneud mor agos i’r bobl a sy’n briodol
bosib.
Amlygwyd swyddogaethau cychwynnol y
Cyd-Bwyllgor a oedd yn cynnwys paratoi a diwygio Cynllun Datblygu Strategol
ynghyd a datblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Pwysleisiwyd fod y Bwrdd
Uchelgais wedi bod yn gwneud gwaith da ac y bydd eu trosglwyddo i’r
Cyd-Bwyllgor yn sicrhau na fydd dyblygu ac yn symleiddio’r trefniadau. Mynegwyd
y bydd angen gwneud gwaith ar feysydd penodol cyn gwneud y penderfyniad yn
llawn.
O ran llywodraethu, mynegwyd mae yr
Is-Bwyllgorau fydd yn gwneud y gwaith trwm o ran y Cyd-Bwyllgor Corfforedig a
bydd angen Is-bwyllgor Archwilio ynghyd a Phwyllgor Safonau. Eglurwyd y bydd
modd dirprwyo aelodaeth y Is fyrddau a fydd yn
rhannu’r baich rhwng Aelodau Cabinet ynghyd a cyfethol aelodau o ddiddordeb i’r
maes i’r is-fyrddau. Nodwyd y bydd angen penodi
Swyddogion Statudol, ac y bydd modd menthyg y swyddogion gan awdurdod leol i
wneud y gwaith. Mynegwyd y bydd posibilrwydd mai Gwynedd fydd yn arwain ar y
gwaith gan fod y Swyddogion Statudol wedi ei penodi i’r Bwrdd Uchelgais.
Amlinellwyd y camau nesaf gan nodi fod
Cadeirydd Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei ethol fel cynrychiolydd y Parc ar y
Cyd-Bwyllgor. Mynegwyd y bydd trefniadau yn cael ei wneud gynnal y cyfarfod
cyntaf yn ystod mis Ionawr. Mynegwyd gan ei fod yn orfodol i’w sefydlu ac ei
fod yn cyfle i’w weithredu yn llwyddiannus ac mewn modd mae’r Cyngor a’r
partneriaid yn hapus a hwy.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Nodwyd dros y
blynyddoedd diwethaf nad oedd cefnogaeth rhanbarthol i’r Cyd-bwyllgor. Eglurwyd
nad oes dim dewis ond am symud y cynllun yn ei flaen gan nodi y bydd angen
trefniadau craffu.
¾
Mynegwyd ei fod yn
orfodol, ac o ganlyniad fod angen i’r Cyngor fod yn rhan ohono er mwyn llywio’r
trefniadau. Ychwanegwyd fod angen sicrhau yn ogystal fod y Gymraeg yn cael lle
priodol o fewn y Cyd-bwyllgor.
¾
Eglurwyd fod angen
derbyn ei fod yn gam tuag ar ad-drefnu Llywodraeth Leol drwy’r drws cefn gan
Lywodraeth Cymru, ynghyd a symud democratiaeth ymhellach oddi wrth y trigolion.
Pwysleisiwyd nad oes dewis ond am dderbyn ond fod y datrysiad hwn yn un pragmataidd.
Awdur:Dafydd Gibbard, Dafydd Edwards ac Iwan Evans
Dogfennau ategol: