Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd
Tachwedd 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf
parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
·
Nodwyd fod effaith ariannol Covid
yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a
llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i
ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.
·
Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad
yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen arbedion.
·
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni.
·
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾
Tanwariant o (£20k) yn ymwneud â chostau cyfalaf
yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾
Tanwariant net o (£1,846k) ar gyllidebau
Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i
wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad
i’r argyfwng Covid.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNWYD
¾
Tanwariant
o (£20k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r
rhaglen gyfalaf.
¾
Tanwariant
net o (£1,846k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r
Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r
Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng cofid.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei fod yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb
refeniw’r Cyngor a’r rhagolygon tuag at diwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd
fod adroddiadau blaenorol wedi amlygu fod effaith ariannol y pandemig wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor gyda cyfuniad o
gostau ychwanegol ynghyd â cholledion
incwm werth dros £20miliwn yn 2020/21 ac yn £10miliwn hyn yn hyn eleni.
Ychwanegwyd fod ceisiadau i ad-hawlio yn cael ei wneud yn fisol o gronfa caledi
Llywodraeth Cymru.
Mynegwyd
yn dilyn llunio rhaglen ddiwygiedig o
arbedion ar gyfer 2021/22 drwy ddileu, llithro ac ail broffilio cynlluniau
arbedion nodwyd fod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai meysydd,
gyda oediad o ganlyniad i’r pandemig yn ffactor
amlwg. Tynnwyd sylw at y prif feysydd ble mae gwahaniaethau sylweddol.
Mynegwyd
fod yr adran yn rhagweld gorwariant o bron i £1miliwn yn yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant eleni gyda methiant cyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor
amlwg. Nodwyd mai y prif feysydd gorwariant yw gwasanaeth pobl hŷn,
anableddau dysgu a gofal cymunedol. Pwysleisiwyd fod effaith pandemig wedi cael
ardrawiad sylweddol ar yr adran gyda gwerth dros £3miliwn wedi ei hawlio gan
Lywodraeth Cymru tuag at gostau ychwanegol yn y cyfnod.
Esboniwyd
o ganlyniad i’r Cyngor yn dyrannu £1.8miliwn ychwanegol i’r Adran Blant a
Cefnogi Teuluoedd yn y gyllideb 2021/22 i gwrdd â phwysau cynyddol, ynghyd â
dileu gwerth £1.1 miliwn o gynlluniau arbedion, fod rhagolygon ariannol yr
adran yn addawol iawn. Tynnwyd sylw at broblemau gorwariant yn y maes casglu a
gwaredu gwastraff yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd yn parhau.
Eglurwyd fod yr adran yn wynebu costau ychwanegol yn ymwneud a’r pandemig ond fod yr adran yn ffyddiog y bydd y Llywodraeth
yn parhau i ddigolledu’r adran am weddill y flwyddyn.
Yn
Gorfforaethol, nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn
gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ac hefyd yn cyfrannu at y tanwariant ar
Ostyngiadau Treth Cymru. O ganlyniad i hyn, mynegwyd fod sefyllfa ariannol y
Cyngor yn cael ei fantoli o ganlyniad i danwariant ar gyllidebau Corfforaethol
yn ogystal â’r mwyafrif o adrannau.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd fod gorwariant yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ddeillio o arbedion hanesyddol sydd yn anodd i’w
cyflawni ond eglurwyd fod gwaith yn mynd yn ei flaen i ddelio ar arbedion.
¾ Mynegwyd fod gwaith ymchwil yn
cael ei wneud ar hyn o bryd yn benodol i edrych ar y gorwariant yn y maes
Casglu Gwastraff yn yr Adran Briffyrdd. Eglurwyd nad yw’r cylchdeithiau newydd
wedi gwreiddio eto, ac amlygwyd costau ychwanegol sydd wedi bod yn y maes o
ganlyniad i’r pandemig.
¾ Nodwyd pryder am ddefnyddio y
gair gorwariant gan nad gorwariant yw’r costau yma ond gwir gost o redeg
gwasanaethau sydd yn cynorthwyo pobl, o ganlyniad mynegwyd yr angen i ofyn am
fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth San Steffan i ariannu awdurdodau lleol i gefnogi
trigolion Gwynedd.
¾ Diolchwyd i Lywodraeth Cymru am y
gefnogaeth i gadw canolfannau hamdden Gwynedd, Byw’n Iach, dros y cyfnod y pandemig. Mynegwyd fod y canolfannau ar agor gyda mesurau
diogelwch yn ei lle a rhoddwyd anogaeth i bobl fynd i’w defnyddio.
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: