skip to main content

Agenda item

Cais ar gyfer gosod pwerdy ~5MWe nwy wrth gefn gyda isadeiledd cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GWRTHOD

 

Rhesymau

 

  1. Nid oes tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno ar gyfer yr angen am y datblygiad na’i ddef-nydd o danwydd ffosil a fyddai’n tanseilio datganiad Cyngor Gwynedd o argyfwng hinsawdd. I'r perwyl hyn, ystyrir fod y bwriad yn groes i amcanion cyffredinol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017, ynghyd â pholisiau PS7 ac ADN3 yn be-nodol sy’n hyrwyddo darpariaeth ynni adnewyddadwy neu garbon isel, polisiau PS 5, PS6 ac PCYFF 5 ran lliniaru effeithiau hinsawdd a rheoli carbon, a Polisi Cynllunio Cymru, Ar-graffiad 11, 2021, paragraffau 5.7.2, 5.7.6 a 5.7.11.

 

  1. Nid oes cyfiawnhad penodol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar gyfer y bwriad ar y safle yma ac felly ni ellir cadarnhau fod y golled o dir cyflogaeth yn dderbyniol ac mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisïau PS5, PS13, CYF, CYF 3 na CYF 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 sy’n rheoli datblygiadau ar diroedd wedi eu dynodi ar gyfer defnydd cyflogaeth.

 

  1. Mae’r bwriad yn disgyn o fewn dosbarthiad datblygiad sy’n agored iawn i niwed, ac nid oes tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio a strategaeth y Cyngor, ac felly nid yw’r bwriad yn dderbyniol o ran llifogydd ac nid yw’n cydymffurfio a gofynion polisi PS 6 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a maen prawf (i) o baragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd.

 

Cofnod:

Cais ar gyfer gosod pwerdy ~5MWe nwy wrth gefn gydag isadeiledd cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer lleoli cyfleuster gorsaf cynhyrchu trydan yn gyflym ac hyblyg hyd at 5MWe ynghyd a gwaith cysylltiedig i gynnwys camerâu cylch-cyfyng, cabanau amwynder, ciosg nwy, tanciau, ffensio ac adeiladwaith amrywiol ar dir wrth ochr safle Gelert, Parc Busnes Penamser ar gyrion Porthmadog. Ategwyd bod y safle o fewn parth llifogi C1 ac yn safle Cyflogaeth i’w warchod fel y diffinnir o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)

 

Byddai’r bwriad, o'i ganiatáu, yn galluogi cynhyrchu trydan mewn amser byr pe byddai ei angen a phan na all y rhwydwaith lleol ei gynhyrchu. Eglurwyd y byddai’r cyfleuster yn rhedeg (er yn achlysurol) oddi ar nwy, ac felly yn ddibynadwy ar danwydd ffosil. Cydnabuwyd fod ceisiadau tebyg wedi eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol mewn lleoliadau eraill ar y sail y byddent yn ffurfio rhan o’r rhwydwaith cefnogol a gellid ei ddefnyddio pan nad yw’r cyflenwad adnewyddol yn ddigonol o fewn y rhwydwaith lleol. Erbyn hyn, mae cynigion tebyg wedi cael eu gwrthod ar apêl oherwydd eu dibyniaeth ar danwydd ffosil mewn amgylchiadau ble mae cynghorau wedi datgan argyfwng hinsawdd a ble mae diffyg tystiolaeth am yr angen i greu egni trwy losgi tanwydd ffosil. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi cydnabod a datgan argyfwng hinsawdd ym mis Mawrth 2019 ac yn hyrwyddo lleihau defnydd o garbon fel rhan o’u strategaeth.

 

I leddfu effeithiau newid hinsawdd, caniateir cynigion ar yr amod y gellid dangos bod ystyriaeth ac ymateb lawn i’r meini prawf sy’n cynnwys yr hierarchaeth ynni sy’n hyrwyddo lleihau’r galw am ynni, effeithlonrwydd ynni a defnyddio technolegau ynni carbon isel neu ynni di garbon lle bo hynny’n ymarferol manteisio i’r eithaf cyfraniad o dechnoleg ynni adnewyddadwy neu garbon isel i fodloni gofynion y cynnig am drydan a gwres. Amlygwyd bod datganiadau wedi eu cyflwyno gan yr asiant ond nad oedd tystiolaeth am angen penodol i’r ddarpariaeth yma, nac y byddai modd darparu’r cyflenwad drwy fodd arall carbon isel neu adnewyddadwy.  Nid oedd y  bwriad gerbron yn cynnig defnydd cyflogaeth, heibio’r cyfnod o osod y cyfarpar, ac er y cydnabuwyd bod y safle bwriedig yn fychan a lletchwith, ac unedau gwag o fewn y parc busnes, nid oedd cyfiawnhad penodol ar gyfer y bwriad ac na ellid cadarnhau bod colled o dir cyflogaeth yn dderbyniol yn nhermau polisïau PS13, CYF 1 na CYF 3 o’r CDLl.

 

Ategwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn parth llifogi C1 a’r bwriad yn un ar gyfer darparu pwerdy nwy ar gyfer creu trydan, sydd yn ôl diffiniadau a gynhwysir o fewn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd yn ddatblygiad sy’n agored iawn i niwed.

 

Yn gryno, ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail diffyg cyfiawnhad ar ei gyfer, bod ei  leoliad o fewn tir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd cyflogaeth ac o fewn parth llifogi, a’i fod yn defnyddio tanwydd ffosil pan mae’r Cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd ac yn hyrwyddo defnyddio llai o garbon.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol

 

·         Ei fod yn cyfeirio at lythyr a ddosbarthwyd i’r aelodau mewn ymateb i’r 3 rheswm gwrthod

·         1. Nid oes digon o dystiolaeth wedi ei gyflwyno yn dangos yr angen am y datblygiad na'i ddefnydd o danwydd ffosil a fyddai'n tanseilio datganiad Cyngor Gwynedd o argyfwng hinsawdd, a pholisïau'r CDLl.

Bod yr ymgeisydd yn anghytuno â hyn gan nodi bod y Datganiad Cynllunio a Dylunio a Mynediad yn darparu tystiolaeth glir o'r angen am ddatblygiad yn erbyn Polisi Cynllunio Cymru, CDLl a Phenderfyniadau Apêl Gweinidogion Cymru. Yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymwybodol bod yr Angen am Ddatblygu wedi’i egluro gan Weinidogion Cymru yn eu penderfyniad ym mis Tachwedd 2020 i gadarnhau Apêl ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Penderfynwyd hyn ar ôl i Pen-y-bont ar Ogwr a Gwynedd ddatgan eu Hargyfwng Hinsawdd. Canfu Gweinidogion Cymru fod defnyddio Safleoedd Brigo Nwy (Gas Peaking Plants)  yn dechnoleg allweddol wrth gyflawni’r targedau Sero Net gan sicrhau bod cyflenwad diogel ar yr un pryd.

·         2. Colli tir cyflogaeth

Bod yr ymgeisydd yn dadlau gyda’r sylw na ddarparwyd digon o dystiolaeth i'r defnydd o dir cyflogaeth. Mae'r Datganiad Cynllunio a Dylunio a Mynediad yn cynghori y bydd cyflogaeth tymor byr a hir yn cael ei sicrhau, sydd hefyd yn cael ei gadarnhau yn y Ffurflenni Cais Cynllunio. Disgrifir defnydd cyflogaeth y tir yn ogystal â'r math o gyflog uchel ei werth a fydd yn cael ei sicrhau ac amcangyfrifir bod hyn yn cynnwys dwy swydd cyflogaeth tymor hir (cyfwerth ag amser llawn) yn ystod y cam gweithredo a bod y gyflogaeth yma yn ychwanegol at gyflogaeth y safle presennol

·         3. Mae’r cynnig yn dod o fewn y diffiniad o ddatblygiad hynod fregus, ac nid oedd digon o dystiolaeth wedi’i chyflwyno i sicrhau bod y cynnig yn cydymffurfio â strategaeth y Cyngor, ynghyd a rhai’r CDLl a TAN 15.

Bod adrannau o’r TAN 15 y mae'r Adroddiad yn cyfeirio atynt yn ymwneud â Gorsafoedd Pŵer. Yn aml, ystyriwyd bod TAN 15 yn cael ei gamddehongli yng nghyd -destun prosiectau cyflenwad trydan graddfa fach sy'n wahanol i faint Gorsaf Bŵer. Eglurwyd bod gorsaf bŵer yn gweithredu i ddosbarthu trydan yn ganolog i'r Grid Cenedlaethol ac nid felly yn ddatblygiad sy'n cynhyrchu trydan ambell waith.

Bod yr ymgeisydd wedi dibynnu ar Benderfyniad Apêl Gweinidogion Cymru ar eu penderfyniad ynghylch y gwaith brigo nwy yng Nghasnewydd lle caniatawyd ar apêl. Derbyn bod y datblygiad ar gyfer fferm solar a chyfleuster uned BESS 200, ond yn debyg ym mhob ffordd i’r ddatblygiad brigo nwy cyfyngedig yma

“Diffinnir datblygiad hynod agored i niwed fel datblygiad lle mae gallu preswylwyr i benderfynu a ydynt am dderbyn y risgiau i fywyd ac eiddo sy’n gysylltiedig â llifogydd, neu allu rheoli canlyniadau risg o’r fath. Cynhwysir hefyd y defnyddiau diwydiannol hynny lle byddai risg i’r cyhoedd a’r amgylchedd dŵr pe bai’r safle’n cael ei foddi.”

Nid yw'r disgrifiadau hyn yn berthnasol i'r datblygiad hwn ac mae'n anodd deall sut gellid ystyried gwaith brigo nwy di-griw (unmanned) fel  “datblygiad hynod agored i niwed” yng nghyd-destun diffiniad TAN 15 - ym mis Hydref dywedodd yr ACLl eu bod yn cytuno â'r dehongliad hwn.

·         Bod yr ymgeisydd yn dibynnu ar benderfyniad Gweinidogion Cymru yn eu penderfyniad ar gyfer y prosiect yng Nghasnewydd (qA 1364896) “……Er bod TAN 15 yn nodi bod gorsafoedd pŵer yn enghraifft o “ddatblygiad diwydiannol arbennig o agored i niwed”, mae’n amlwg nad yw’r datblygiad arfaethedig yn disgyn i’r categori hwn ac nid yw’n ddatblygiad hynod fregus at ddibenion TAN 15.”. Ni ddylid felly cymhwyso TAN 15 i'r prosiect brigo nwy hwn.

·         Disgwyli’r i’r Pwyllgor wneud eu hasesiad cadarnhaol eu hunain o’r cais a gyflwynwyd a chymeradwyo’r cais yn unol â’u CDLl, Cynlluniau Cynllunio Cenedlaethol eu Datganiad Hinsawdd, a chadarnhad ysgrifenedig yr ACLl ei hun bod y cais yn gynaliadwy ac yn garbon isel.

·         Os gwrthodir y cais  bydd yr ymgeisydd yn symud ymlaen i apêl.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn cefnogi'r argymhelliad i wrthod y cais

·         Bod y cais yn groes i egwyddorion Cyngor Gwynedd o ran tanwydd ffosil

·         Cyngor Tref yn ceisio gwerthusiad ychwanegol i lifogydd yn yr ardal – graddfa yn codi

·         Ymgynghoriad cyhoeddus yn nodi nad oedd angen am y ddarpariaeth ac nad oedd y bwriad yn cydymffurfio a pholisïau

·         Nad oedd y bwriad yn cynnig gwaith tu hwnt i’r cyfnod gweithredol

·         Y bwriad yn cynnig defnydd achlysurol yn unig

·         Sŵn o’r orsaf yn achosi pryder

·         Nad oedd y bwriad o werth i’r ardal

 

ch)  Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod y cais

 

d)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Pryder nad oedd y Cyngor Tref wedi cyflwyno sylwadau

·         Cais anghywir yn y lleoliad anghywir

 

PENDERFYNWYD Gwrthod

 

Rhesymau

 

  1. Nid oes tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno ar gyfer yr angen am y datblygiad na’i ddef-nydd o danwydd ffosil a fyddai’n tanseilio datganiad Cyngor Gwynedd o argyfwng hinsawdd. I'r perwyl hyn, ystyrir fod y bwriad yn groes i amcanion cyffredinol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017, ynghyd â pholisiau PS7 ac ADN3 yn be-nodol sy’n hyrwyddo darpariaeth ynni adnewyddadwy neu garbon isel, polisiau PS 5, PS6 ac PCYFF 5 ran lliniaru effeithiau hinsawdd a rheoli carbon, a Polisi Cynllunio Cymru, Ar-graffiad 11, 2021, paragraffau 5.7.2, 5.7.6 a 5.7.11.

 

  1. Nid oes cyfiawnhad penodol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar gyfer y bwriad ar y safle yma ac felly ni ellir cadarnhau fod y golled o dir cyflogaeth yn dderbyniol ac mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisïau PS5, PS13, CYF, CYF 3 na CYF 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 sy’n rheoli datblygiadau ar diroedd wedi eu dynodi ar gyfer defnydd cyflogaeth.

 

  1. Mae’r bwriad yn disgyn o fewn dosbarthiad datblygiad sy’n agored iawn i niwed, ac nid oes tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio a strategaeth y Cyngor, ac felly nid yw’r bwriad yn dderbyniol o ran llifogydd ac nid yw’n cydymffurfio a gofynion polisi PS 6 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a maen prawf (i) o baragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd.

 

Dogfennau ategol: