Agenda item

Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C16/0886/15/LL ar gyfer gosod llinell cyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol

 

AELODAU LLEOL:  Cynghorwyr Kevin Morris Jones, Elfed Williams, Menna Baines, Elwyn Jones, Sion Wyn Jones a Berwyn Parry Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol.

 

  1. 5 mlynedd
  2. Cwblheir y diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 22/10/2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C16/0886/15/LL

Cofnod:

Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C16/0886/15/LL ar gyfer gosod llinell cyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod hyd y cysylltiad yn mesur oddeutu 9km ac yn gwbl danddaearol - yn rhedeg o fewn safle Glyn Rhonwy tuag at yr is-orsaf ym Mhentir. Eglurwyd bod y ceblau yn cael eu gosod o fewn dwythell wedi ei warchod mewn dyfnder o 1.7m yn y ffos.

Atgoffwyd yr Aelodau mai cais i newid amod 1 o ganiatâd cynllunio C16/0886/15/LL er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol oedd gerbron, heb newid i’r cynllun gwreiddiol. O ganlyniad, roedd egwyddor y bwriad eisoes wedi ei dderbyn a’i sefydlu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ganiatâd cynllunio C16/0886/15/LL. Er hynny, amlygwyd yr angen i ystyried os oedd amgylchiadau neu’r sefyllfa polisi cynllunio wedi newid ers caniatáu’r cais yn wreiddiol. Ategwyd pwysigrwydd asesu a chadarnhau os yw’r sefyllfa, yn nhermau cydymffurfio â’r Polisïau Cynllunio, yn parhau i fod yr un fath.

Yn sgil polisïau lleol, penderfynodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol y cais gwreiddiol ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ond sydd bellach wedi ei ddisodli gan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, felly, rhaid oedd ystyried unrhyw newidiadau materol yn y polisïau ers penderfynu’r cais blaenorol. Eglurwyd mai’r polisïau perthnasol oedd yn ymwneud a derbynioldeb egwyddor y cais diweddarafoedd Polisi ISA 1 ‘Darpariaeth Isadeiledd’ a PS 7 ‘Technoleg Adnewyddadwy’.

Nodwyd bod rhan o'r bwriad yn arwain drwy'r Ardal Tirwedd Arbennig 'Ymylon Gogledd-orllewin Eryri', yn gyfan gwbl o fewn tirwedd hanesyddol eithriadol 'Dinorwig' ac union gyferbyn Ardal Treftadaeth y Byd 'Ardal y Llechi'. Drwy hynny, ystyriwyd fod y bwriad i osod y llinell gyswllt tan ddaearol yn cyd fynd ag arweiniad ym mholisi PS 7 ac yn parhau i gydymffurfio gyda pholisïau perthnasol

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd Aelod Lleol ward Cwm y Glo, y Cynghorydd Berwyn P Jones nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais.

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

      

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol.

 

1.       5 mlynedd

 

2.       Cwblheir y diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 22/10/2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C16/0886/15/LL.

 

Dogfennau ategol: