Agenda item

Adeiladu 17 o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio’r cais er mwyn derbyn asesiad trafnidiaeth pellach ynghyd a mwy o luniau / fideo o’r safle a’i berthnasedd i’r ysgol uwchradd gyfagos

Cofnod:

Adeiladu 17 o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu 17 o dai fforddiadwy fyddai’n cynnwys 6 tŷ deulawr 4 person, 6 tŷ deulawr 5 person, 2 dŷ deulawr 7 person a 3 byngalo 3 person ynghyd ag adeiladu mynedfa a ffordd mynediad, llefydd parcio, tirlunio a phantiau draenio tir (swales) yng nghornel de ddwyreiniol y safle ar gyfer dal dŵr wyneb.  Lleolir y safle ymysg tai o fewn tref Caernarfon, gyferbyn ac Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen gyda’r safle oddeutu 0.55ha -  mae 17 uned yn golygu dwysedd o 30.9 tŷ i’r hectar sydd yn cydymffurfio efo Polisi PCYFF 2 yn y Cynllun.

 

Eglurwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle hwn wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 1, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL lle nodir y caniateir cynigion tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y Cynllun, polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill.

 

Yn ôl Polisi ISA 5, disgwylir i gynigion ar gyfer 10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol â safonau meincod Fields in Trust (FiT). Mae’r wybodaeth gyfredol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn dangos bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn lleol fel rhan o’r bwriad ac i’r perwyl hyn, felly, bydd angen gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer cyfarfod a’r diffyg darpariaeth yma. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd yn datgan y byddai yn fodlon gwneud cyfraniad o £3346.16 a gellir sicrhau hynny trwy gytundeb cyfreithiol 106. Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion Polisi ISA 5 o’r CDLL ynghyd a’r CCA: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd.

 

Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau yn datgan na fyddai'r bwriad yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd er cydnabuwyd sylwadau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r cais ar sail diogelwch ffyrdd. Gydag amodau a chyfraniad ariannol i sicrhau gwelliannau i’r ffordd trwy gytundeb 106, ystyriwyd y bwriad yn unol â’r polisïau trafnidiaeth.

 

Adroddwyd bod y Cyngor wedi derbyn gohebiaeth gan drigolion lleol yn datgan bod rhan isaf o’r safle yn gorlifo yn ystod cyfnod o law trwm ac yn pryderu y byddai'r datblygiad  yn gwaethygu'r sefyllfa yn hytrach na datrys y broblem gorlifo ar y safle. Er hynny, derbyniwyd gwybodaeth gyda’r cais i ddangos gellid dylunio system draenio gynaliadwy effeithiol ar gyfer y safle a fyddai’n gwella’r sefyllfa bresennol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y safle tir glas yn wag ers i’r defnydd rhandiroedd ddod i ben ac nad oedd dyraniad tir penodol na chyfyngiad datblygiad iddo

·         Nad yw'r tir yn fan agored hygyrch i'r cyhoedd felly does neb yn cael defnydd ohono ar hyn o bryd.

·         Gan fod y safle yn wag ac wedi'i amgylchynu gan ddatblygiadau, mae tai cyfagos wedi cal eu heffeithio gan ddŵr yn draenio o’r safle. Nid oes seilwaith draenio ar y safle ar hyn o bryd sydd wedi arwain at orlifo gerddi Cae Berllan ar ol glaw trwm

·         Bod  y datblygiad yn cynnwys cynllun seilwaith draenio cynhwysfawr a fydd yn gwella'r sefyllfa bresennol sy’n cynnwys soakaways fydd yn sicrhau y bydd unrhyw ddŵr yn aros ar y safle gan amddiffyn yr anheddau preswyl cyfagos.

·         Bod Adra yn cynnig pwynt mynediad lle mae'r giât bresennol.

·         Bod canllawiau dylunio priffyrdd yn argymell o leiaf 20m rhwng mynediad newydd a chroesfannau – byddai’r fynedfa newydd dros 50m i ffwrdd o'r groesfan reoledig a mynedfa Ysgol Syr Hugh, sydd yn llawer mwy na'r gofynion. Mae croesfannau presennol yn galluogi disgyblion i groesi Ffordd Bethel yn saff i gael mynediad diogel i’r ysgolion lleol. Nid yw’r datblygiad yn amharu ar y croesfannau hyn.

·         Mae’r arbenigwyr priffyrdd wedi cadarnhau na fyddai'r datblygiad yn cael effaith ar draffig lleol. Fodd bynnag, mae Adra'n cydnabod bod pryderon gan drigolion ac o ganlyniad wedi cytuno i gyfraniad ariannol fyddai’n galluogi Cyngor Gwynedd i wella'r sefyllfa bresennol. Bydd Cyngor Tref Caernarfon a’r trigolion lleol yn rhan o’r drafodaeth ar sut i ddefnyddio’r cyfraniad ariannol yma.

·         Y cais yn cynnig adeiladu 17 o dai fforddiadwy a fydd ar gael ar lefelau rhent cymdeithasol a canolraddol. Mae 440 o ymgeiswyr am dŷ 2, 3 neu 4 ystafell wely ar restr aros ward Cadnant yn unig gyda ffigwr o 1582 o ymgeiswyr yng Nghaernarfon - y ffigyrau yma yn dangos yr angen am dai fforddiadwy fydd yn galluogi teuluoedd i aros yn lleol

·         Dywedodd yr Aelod Cabinet Tai yn ddiweddar, bod 'na argyfwng tai yng Ngwynedd sydd yn amlwg yng Nghaernarfon.

·         Pa mor fforddiadwy ydi tai? Mae prisiau yng Ngwynedd wedi cynyddu dros 16% yn ystod y 12 mis diwethaf....gyda chynnydd uwch am eiddo 2, 3 a 4 ystafell wely yng Nghaernarfon. Nid oes gan deuluoedd lleol siawns o brynu tai yn lleol.

·         Bydd y datblygiad o ddeiliadaeth rhent cymysg yn cyfrannu'n aruthrol at ddechrau datrys yr argyfwng tai

·         Bod pob ymgynghorwr arbenigol yn gefnogol i’r datblygiad ac nad oedd rheswm technegol i wrthod y cais.

·         Petai’r cais yn cael ei ganiatáu, bydd y tai yn barod ymhen 15 mis ar gyfer pobl leol. Gyda’r mannau agored sydd yn rhan o’r cais, bydd hyn yn caniatáu i drigolion cyfagos gael defnydd o’r safle unwaith eto. Dylai'r ffactorau hyn fod yn arwyddocaol o blaid y cynnig yn nhermau polisi cynllunio

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelodau Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn derbyn yr angen am dai ond yn cwestiynu nad oedd mwy o ofyn am adeiladau un llawr fyddai’n rhyddhau tai i deuluoedd

·         Ei fod yn gwrthwynebu y cais ar sail materion diogelwch a llifogydd

·         Y tir heb ei ddynodi oherwydd problemau mynediad – nid yw’n addas felly fel lle i’w ddatblygu. Dau gais amlinellol wedi eu cyflwyno yn y gorffennol ond heb eu datblygu oherwydd rhesymau mynediad

·         Bod diffyg ymateb i bryderon Cyngor Tref

·         Syndod nad yw’r Uned Drafnidiaeth yn rhagweld problemau trafnidiaeth - 6 tŷ yn unig a adeiladwyd ar stad gyfagos Llwyn Ceirios oherwydd problemau mynediad - pam bod y sefyllfa yn dderbyniol erbyn hyn?

·         Yn dilyn archwiliad i broblemau trafnidiaeth yn yr ardal gosodwyd llinellau melyn yng Nghae Berllan a'r Glyn - hyn yn cydnabod problemau

·         Nid oedd y lluniau a gyflwynwyd yn adlewyrchu'r sefyllfa

·         Uned Trafnidiaeth wedi cynnal astudiaeth ym mis Medi - yn ystod y cyfnod clo a  Ffordd Bethel wedi cau i drafnidiaeth oherwydd gwaith ar y ffordd osgoi -  hyn yn awgrymu llai o ddefnydd ac felly ddim yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa

·         Siomedig nad oedd lluniau llifogydd mis Tachwedd wedi eu cynnwys yn y cyflwyniad - problemau llifogydd hanesyddol yma

·         Diogelwch plant yn flaenoriaeth - mynediad i’r stad gyferbyn a mynediad i’r Ysgol sydd yn cael ei defnyddio gan rhan fwyaf o’r plant, yn hytrach na’r fynedfa gerbydol

·         Llywodraethwyr yr Ysgol wedi amlygu pryder

·         Awgrymu i’r Pwyllgor ymweld â’r safle er mwyn deall y sefyllfa

 

ch) Cynigwyd ac eiliwyd gohirio’r cais fel bod modd derbyn sylwadau pellach am ddiogelwch ffyrdd yn dilyn awgrym yr Aelod Lleol a’r Cyngor Tref ac ymweld â’r safle

 

d)    Mewn ymateb i’r awgrym o gynnal ymweliad safle nododd y Pennaeth Cyfreithiol bod asesiad trafnidiaeth arbenigol wedi ei gynnal a bod hyn yn fwy priodol na chynnal un ymweliad safle. Ategodd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod yr asesiad wedi ei gynnal gan yr ymgeisydd a bod y datblygwr wedi cynnig cynnal trafodaethau gyda’r gymuned.

 

Nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod y cais yn gais 100% am dai fforddiadwy o fewn y ffin datblygu gyda mewnbwn arbenigol gan arbenigwyr trafnidiaeth. Awgrymodd y byddai modd cyflwyno fideo yn rhoi gwell cyd-destun o’r lleoliad. Ategodd bod yr ymgeisydd hefyd yn cynnig mesurau ychwanegol mewn ymateb i’r pryderon rheoli traffig ac yn barod i drafod gyda’r gymuned.

 

dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Yr ardal tu allan i’r Ysgol (900+ o ddisgyblion) yn le prysur iawn – y lluniau ddim yn dangos hyn

·         A yw’ rhandiroedd wedi eu hail leoli?

·         Pam gorfod defnyddio safle tir glas? A oes ardal tir llwyd ar gael?

·         O blaid tai fforddiadwy - awgrym i osod arwyddion 20mya tu alla i’r Ysgol (fel y mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu)

·         Mynedfa yn anaddas - angen asesiad pellach o’r sefyllfa ar adegau prysur

·         Bod angen mwy o wybodaeth ac ail asesiad trafnidiaeth

·         Nid yw mynedfa’r Ysgol wedi ei amlygu yn y cynlluniau / lluniau - angen ystyried llwybrau cerddwyr

·         Y cais yn ymateb i’r angen am dai fforddiadwy yng Nghaernarfon

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn derbyn asesiad trafnidiaeth pellach ynghyd a mwy o luniau / fideo o’r safle a’i berthnasedd i’r ysgol uwchradd gyfagos

 

 

 

Dogfennau ategol: