Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys
Penderfyniad:
a.
Dynodwyd dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod o
wyliau ychwanegol i staff y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr
llywodraeth leol, ar gyfer dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu
yn unol a paragraff 2.10 o’r adroddiad.
b.
Awdurdodwyd swyddogion i ymchwilio i opsiynau
posib i wneud trefnant o’r fath yn un parhaol ac i’r perwyl hwnnw cynnal
trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig a parhau i lobio am
gefnogaeth Llywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym
iddynt fedru sefydlu gwyliau banc i Gymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNWYD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor Llawn ar y 7 Hydref wedi penderfynu gofyn
i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod
o wyliau i’w gweithlu ynghyd a galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli y
grym i Lywodraeth Cymru i fedru creu gwyliau banc i Gymru fel y drefn sydd i’w
gweld eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pwysleisiwyd fod y penderfyniad a
wnaethpwyd yn y Cyngor Llawn yn un unfrydol a trawsbleidiol a oedd yn dangos
awydd clir i weithredu.
Eglurwyd
nad oedd y mater yn un hawdd a fod cost ynghlwm a’r penderfyniad ond diolchwyd
i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Pennaeth Cyllid am wneud y gwaith
ymarferol i wneud hyn yn bosib.
Mynegwyd
fod y llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth San Steffan yn ymateb i’r lythyr y
Cyngor yn warthus ac yn arddangos anealltwriaeth lwyr
o ddatganoli a Chymru. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet yn deall fod rhai
unigolion yn anghytuno gyda’r penderfyniad oherwydd y gost i Gyngor Gwynedd,
ond ei fod yn rhoi’r cyfle i ddangos gwerthfawrogiad i staff y cyngor am eu
gwaith yn ystod y cyfnod y pandemig. Ychwanegwyd fod
cefnogaeth wedi ei dderbyn gan unigolion ar draws y wlad ac fod angen ei weld
fel cyfle i ddefnyddio yr ŵyl banc i roi hwb i’r economi. Gofynnwyd i
Lywodraeth Cymru i ddilyn Cyngor Gwynedd ac i alw am yr hawliau i’w galluogi i
sicrhau fod Dydd Gŵyl Dewi yn troi yn Ŵyl Banc Cenedlaethol.
Ychwanegodd
Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod yr adroddiad yn egluro fod modd
i’r Cyngor allu ystyried gwneud y penderfyniad i roi diwrnod ychwanegol o
Wyliau Banc i rhan helaeth o weithlu’r Cyngor, ond gan fod amodau gwaith
Athrawon yn cael ei penderfynu yn genedlaethol nad oes modd eu cynnwys yn y
penderfyniad hwn. O ganlyniad nodwyd fod y penderfyniad yn berthnasol i holl
staff y Cyngor gan eithrio Athrawon.
Yn dilyn y
penderfyniad bydd 1 Mawrth yn cael ei gyfri fel Gŵyl Banc arferol, gan
nodi y bydd lleoliadau megis llyfrgelloedd ar gau ond y bydd gwasanaethau gofal
yn parhau. Eglurwyd y bydd y staff fydd yn gweithio yn cael diwrnod o wyliau
ychwanegol neu addasiad cyflog, ac fod y £200,000 yn cynnwys ystyriaeth o’r
holl ffactorau. Eglurwyd o ran ail ran y penderfyniad fod hyn yn rhoi hawl i
Swyddogion barhau gyda’r trafodaethau a undebau i drafod y syniad i’r dyfodol
ac i barhau i lobio Llywodraeth Cymru i gael yr hawl i sefydlu gwyliau banc i’r
dyfodol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Amlygwyd fod y penderfyniad hwn
yn benderfyniad unfrydol gan y Cyngor Llawn a nodwyd fod angen gweithio gyda
partneriaid megis Llywodraeth Cymru er mwyn penderfynu fel Cymry am Wyliau Banc
ac i beidio gorfod gofyn am ganiatâd Llywodraeth Lloegr.
¾ Nodwyd fod sylwadau yn nodi mai
arian trethdalwr fydd yn talu am y Gŵyl Banc ychwanegol yma gan amlygu mai
hyn yr un arian sydd ar gael i ariannu pob un o wyliau banc ar draws y
flwyddyn.
¾ Amlygwyd pryder fod Cyngor
Gwynedd yn penderfynu rhoi gŵyl banc ychwanegol ar ben ei hun, gan nad
yw’n wyliau cenedlaethol.
¾ Mynegwyd pryder am y gost yn
flynyddol, ond nodwyd mai penderfyniad i’w ariannu ar gyfer un tro yw’r cais
hwn. Ychwanegwyd fod angen edrych ar ymarferoldeb ei wneud ar gyfer y tymor
hir.
¾ Mynegwyd siom yn ymateb sarhaus
Llywodraeth San Steffan i lythyr Cyngor Gwynedd, a ychwanegwyd ei fod yn
amlygu’r berthynas sydd i’w weld rhwng Cymru a Lloegr fod angen gofyn caniatâd
am wyliau i ddathlu gŵyl sydd yn bwysig i’r genedl.
¾ Amlygwyd yr angen i gael
trafodaeth gyda busnesau hefyd i weld beth sydd yn bosib i’r dyfodol.
¾ Pwysleisiwyd siom nad oes modd
cynnwys athrawon a staff ysgolion yn rhan o’r penderfyniad.
¾ Pwysleisiwyd fod Dydd Gŵyl
Ddewi yn ddiwrnod o ddathlu Cymreictod a diwylliant Cymraeg. Mynegwyd
dealltwriaeth am bryder am gost ynghyd a staff y Cyngor yn cael gwyliau tra
gweithwyr allweddol eraill ddim yn cael. Er hyn nodwyd nad oes gan y Cyngor ddylanwad
tu allan i’r Cyngor ac mae San Steffan sydd ar dylanwad yma. Mynegwyd fod y
llythyr gwrthod yn sarhad ar y Cymry.
Awdur:Geraint Owen
Dogfennau ategol: