Agenda item

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo cynnydd mewn gwariant ar staff yr Uned Pensiynau erbyn 2022/23.

Penderfyniad:

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cymeradwyo cynnydd £137,929 mewn gwariant ar staff yr Uned Bensiynau erbyn 2022/23:

 

Ø  Creu 4 swydd newydd

Swyddog Pensiynau (i gefnogi gwaith AVSs) a 3 Cymhorthydd Pensiynau (Cytundeb 2 flynedd ar gyfer prosiect McCloud – gyda phosibilrwydd o estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd)

(cyfanswm costau blynyddol £121,135)

 

Ø  Cynyddu cyflog 6 Cymhorthydd Pensiynau o GS3 i GS4

(cyfanswm costau blynyddol  £16,794)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Pensiynau am adnoddau ychwanegol fyddai’n galluogi'r Uned Weinyddu Pensiynau i ymateb i bwysau gwaith cynyddol ac ymdopi'n effeithlon â lefel y gwaith sydd angen ei gwblhau. Er mwyn gwella effeithlonrwydd yr Uned Gweinyddu Pensiynau, cynigiwyd addasiadau i’r strwythur presennol ac amlygwyd mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Pensiynau oedd pennu cyllideb i sicrhau adnoddau digonol ar gyfer gweithredu hyn.

 

Eglurwyd bu cynnydd yn yr angen am ddealltwriaeth ddwys o reoliadau cymhleth y gronfa bensiwn, a bu arfarniad o swyddi’r Cymhorthyddion Pensiynau o raddfa GS3 (amrediad cyflog £19,312 - £19,698) i raddfa GS4 (£20,092 - £21,748). Gydag ychwanegiad costau cyflogwr yn gynnydd o £2,799 ar gyfer 6 swydd (ar uchafbwynt y raddfa) byddai’r gost o ariannu’r cynnydd yn £16,794 y flwyddyn.

 

Nodwyd bod Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy wedi cyflwyno opsiwn deniadol ar gyfer Cyfraniadau Gwirfoddol Aberthu Cyflog (AVCs) ac o ganlyniad  rhagwelwyd cynnydd mawr mewn defnydd o’r cynllun yma wedi i’r Cynghorau ei hyrwyddo’n llawn. I gyfarch y cynnydd yn y gwaith o weinyddu’r cyllun, cynigiwyd cyflogi un Swyddog Pensiynau newydd ar raddfa S2 (£24,982 - £27,041).  Gydag ychwanegiad costau’r cyflogwr, ar uchafbwynt y raddfa, byddai’r gost o ariannu’r swydd newydd yn £35,704.  Ategwyd bod prif gyflogwyr y Gronfa yn gwireddu arbedion sylweddol wrth leihau cyfraniadau yswiriant cenedlaethol gyda’r Cynllun AVCs - arbedion llawer mwy na chost ariannu’r swydd Swyddog Pensiynau.  Felly, mewn egwyddor, o ystyried cyllidebau’r cyflogwyr ynghyd â chyllideb y Gronfa Bensiwn, ni fyddai cynnydd yn y gyllideb net.

 

Yn ychwanegol, mewn ymateb i ddyfarniad y Llys Apêl yn achos ‘McCloud’ yn erbyn Llywodraeth y DU, adroddwyd bod y Llywodraeth bellach wedi cadarnhau y bydd newidiadau i bob prif gynllun sector cyhoeddus, gan gynnwys y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, i ddiddymu gwahaniaethu ar sail oedran.  Mewn ymateb i weithredu’r newidiadau (a elwi’r yn Prosiect McCloud), bydd angen casglu gwybodaeth am yr oriau a weithiwyd, ynghyd â manylion toriadau mewn gwasanaeth ar gyfer yr holl weithwyr cymwys sy'n cwmpasu'r cyfnod 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2022. Yn ogystal â diweddaru’r cofnodion, bydd angen ail-gyfrifo’r buddion marwolaeth, y buddion ymddeoliad, a’r buddion gohiriedig o’r aelodau sydd wedi gadael yn ystod yr 8 mlynedd ddiwethaf.  Bydd hyn yn golygu ail-edrych ar ffeithiau ac ail gyfrifo miloedd o gofnodion aelodau. Er bydd gweithredu Prosiect McCloud yn waith sylweddol i’r Uned, mae’n debyg mai nifer fechan iawn o aelodau fydd yn gweld cynnydd yng ngwerth eu buddion ar ddiwedd y prosiect.

 

Adroddwyd bod nifer o gronfeydd pensiwn tebyg o ran maint wedi comisiynu staff o asiantaethau allanol i ymgymryd â’r gwaith, ond byddai hynny yn opsiwn ddrud o’i gymharu â chadw’r gwaith yn fewnol. Cytunodd sawl aelod byddai’r Gronfa yn isafu’r gost drwy gyflogi 3 Cymhorthydd Pensiynau ychwanegol dros dro am gyfnod o 2 flynedd (gyda phosibilrwydd o estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd) er mwyn ymgymryd â gwaith Prosiect McCloud.

 

Ategodd Cyfarwyddwr y Gronfa bod yr argymhellion wedi eu herio gan yr Adran Cyllid a’u bod yn argymhellion rhesymol ac anorfod. Nododd hefyd er y byddai prif gyflogwyr y Gronfa yn gwireddu arbedion sylweddol wrth leihau cyfraniadau yswiriant cenedlaethol gyda’r cynllun AVCs, mai arbedion i’r cyflogwyr fyddai'r rhain ac nid arbedion i’r Gronfa.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod effeithlonrwydd staff yn allweddol i’r cynllun.

·         Bod yr opsiwn o gadw’r gwaith yn fewnol i’w groesawu.

·         Bod yr £85k (Prosiect McCloud) yn swm dros dro - rhaid derbyn bod costau i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn gywir.

·         Nad oedd modd osgoi’r gwaith ychwanegol - yr argymhellion yn ffordd o symud ymlaen mewn modd realistig.

·         Bod yr argymhellion yn gost effeithiol ac yn cynnig cyfleoedd i staff.

 

Ategodd Aelod o’r Bwrdd Pensiwn bod gweinyddiaeth y Gronfa yn faes blaenoriaeth sydd angen arbenigedd a phroffesiynoldeb. Roedd yn ffyddiog byddai’r Bwrdd Pensiwn yn gefnogol i’r argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

·         Derbyn a nodi’r wybodaeth

·         Cymeradwyo cynnydd £137,929 mewn gwariant ar staff yr Uned Bensiynau erbyn 2022/23:

§  Creu 4 swydd newydd

Swyddog Pensiynau (i gefnogi gwaith AVSs) a 3 Cymhorthydd Pensiynau (cytundeb 2 flynedd ar gyfer prosiect McCloud – gyda phosibilrwydd o estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd)

(cyfanswm costau blynyddol £121,135)

 

§  Cynyddu cyflog 6 Cymhorthydd Pensiynau o GS3 i GS4

(cyfanswm costau blynyddol £16,794)

 

Dogfennau ategol: