Agenda item

AELOD CABINET: Y CYNGHORYDD DAFYDD MEURIG

 

Rhoi trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd a Môn yn ystod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2021-22.

Penderfyniad:

1.    Derbyn cynnwys yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau, a chefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.

2.    Cysylltu gyda Chadeirydd y Cyngor i nodi dymuniad y Pwyllgor i estyn gwahoddiad i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gyfarfod o’r Cyngor Llawn.

3.    Gofyn i'r bartneriaeth rhoi ystyriaeth i  aelodau eraill y bartneriaeth fod yn bresennol yng nghyfarfod Trosedd ac Anrhefn y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, gosododd y cefndir a’r cyd-destun, gan nodi bod gan awdurdodau lleol dyletswydd statudol i weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub, i ymdrin â diogelwch cymunedol. Eglurodd y gwneir asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau yn rhanbarthol,  ‘roedd y cynlluniau lleol i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn gerbron y Pwyllgor.

 

Trosglwyddwyd i'r Swyddog Gweithredu a Phrosiectau Diogelwch Cymunedol. Rhoddwyd trosolwg o’r prif bwyntiau o fewn yr adroddiad ac eglurwyd bod gofyn i'r bartneriaeth adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn flynyddol i ddiweddaru ar waith y bartneriaeth. Aethpwyd ati i nodi’r prif gerrig filltir a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod diweddaraf a rhoddwyd trosolwg o’r gwaith oedd ar y gweill.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:

·         Holwyd ynghylch y 5 cam gweithredu oedd heb eu cyflawni ers bron i ddwy flynedd. Beth oedd y camau nesaf i'w cyflawni?

·         Cyfeiriwyd at y gwaith i adnabod adeiladau priodol ar gyfer y tîm camddefnyddio sylweddau ym Mangor a holwyd os oedd modd cael mwy o wybodaeth.

·         Holwyd am y cynllun bugeiliaid stryd a pham nad ydynt yn weithredol gan fod y Cyngor yn defnyddio Zoom ers deunaw mis oedd modd iddynt ei ddefnyddio.

·         Gofynnwyd a oedd gwaith yn ymwneud a chaethwasiaeth fodern yn rhan o’r bartneriaeth.

·         Mynegwyd siom nad oedd cynrychiolwyr eraill o’r bartneriaeth yn bresennol i ateb cwestiynau.

·         Holwyd faint o waith mae’r bartneriaeth yn ei wneud i gydweithio i rwystro troseddau megis trais yn y cartref.

·         Nododd aelod ei bod yn pryderu am y cynnydd mewn pobl a oedd angen cefnogaeth iechyd meddwl, rhai yn camddefnyddio alcohol a digartrefedd yn enwedig yng Ngwynedd.

·         Gofynnwyd a fyddai’n bosib cael cyfarfod â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd, bu ei ragflaenydd gerbron y Cyngor Llawn yn y gorffennol.

·         Dywedwyd bod y pynciau o fewn yr adroddiad yn berthnasol i glybiau ieuenctid a holwyd os oedd y clybiau ieuenctid yn rhan o’r bartneriaeth.

·         Cefnogwyd y syniad o wahodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i'r Cyngor Llawn fel bod modd i'r holl aelodau ei gyfarfod.

·         Holwyd ynghylch trosedd seibr gan fod problemau yn codi oddi ar wefannau cyfryngau cymdeithasol wrth i bobl ddatgelu data wrth ymateb i gwestiynau cyffredinol. Bod angen rhoi pwysau ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i weithredu pan fo achosion yn cael eu hadrodd.

·         Ategwyd at hyn gan nodi ei fod yn broblem ar draws y wlad, roedd angen gweithrediad gan Lywodraeth San Steffan.

 

Mewn ymateb, nododd y swyddogion:

·         O ran y 5 cam gweithredu, oherwydd blaenoriaethau eraill nid oedd modd eu cyflawni.  Byddai rhai ohonynt yn cael eu hystyried eto yn y dyfodol.

·         Mewn perthynas â’r bugeiliaid stryd, dros y cyfnodau clo  nid oedd pobl yn mynd allan wrth i dafarndai fod ar gau, felly doedd dim eu hangen. Yn ogystal ag hyn, wrth i’r cyfyngiadau lacio nid oeddent yn teimlo’n ddiogel bod allan oherwydd covid-19. Ategodd y byddai modd ail ymweld â hyn yn y dyfodol .

·         Nododd y byddai’r wybodaeth ynghylch adeiladau priodol i'r tîm camddefnyddio sylweddau yn cael ei ddarparu i'r aelod wedi’r Pwyllgor hwn.

·         Nid oedd achosion yng Ngwynedd o gaethwasiaeth fodern hyd yn hyn, ond yn ymwybodol ei fod yn rhywbeth all godi mewn unrhyw ardal.

·         Nododd bod ymgynghoriad ar strategaeth trais yn y cartref a thrais rhywiol yn agored tan 1af Chwefror. O ran y maes addysg, bydd materion yn ymwneud â pherthynas iach yn dod yn rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru.

·         Bod asiantaethau wedi bod yn cynnig cefnogaeth rithiol a gwaith cymorth o ran camddefnyddio alcohol yn ystod y pandemig.

·         Ei fod yn bosib i’r Gwasanaeth Ieuenctid fwydo i mewn i waith y bartneriaeth.

·         Bod trosedd seibr yn fater ‘roedd yr Heddlu yn cymryd o ddifrif ac roeddent yn cynnal hyfforddiant i bobl hŷn i godi ymwybyddiaeth. Am godi’r mater yng nghyfarfod y Bartneriaeth gan ofyn beth oedd yr ymateb a derbynnir gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol pan yn adrodd.

 

PENDERFYNWYD:

  1. Derbyn cynnwys yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau, a chefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.
  2. Cysylltu gyda Chadeirydd y Cyngor i nodi dymuniad y Pwyllgor i estyn gwahoddiad i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gyfarfod o’r Cyngor Llawn.
  3. Gofyn i'r bartneriaeth rhoi ystyriaeth i  aelodau eraill y bartneriaeth fod yn bresennol yng nghyfarfod Trosedd ac Anrhefn y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

 

 

Dogfennau ategol: