Agenda item

AELOD CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER

 

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD:Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a thywyswyd yr aelodau drwy’r prif faterion.

 

Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau nad oes sbwriel ar briffyrdd a mannau cyhoeddus eraill.. ‘Roedd yn wasanaeth gweladwy a phwysig yn enwedig yn ystod y cyfnod pandemig. Eglurwyd bod y Gwasanaethau Stryd yn ymdrin â bob safle cyhoeddus a pob ffordd oedd wedi ei fabwysiadu a reolir gan y Cyngor

 

Amlygwyd bod ardaloedd wedi eu rhannu yn barthau yn ôl eu defnydd. Eglurwyd bod glendid ardal yn cael ei asesu trwy gymharu gyda safon, roedd amrediad safon o Gradd A i D. Ymhelaethwyd y caniateir cyfnod amser gwahanol i lanhau'r ardaloedd a'u dychwelyd i'r safon briodol..

 

Nodwyd bod yr Adran wedi wynebu toriadau yn y gorffennol, a phwysau ychwanegol

yn sgil cynnydd yn nhwristiaeth.   Manylwyd ar weledigaeth y Gwasanaeth gan ofyn i’r Pwyllgor am eu sylwadau ar y weledigaeth.

 

Ategodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd sylwadau’r Pennaeth gyda’r pwyntiau canlynol:

·         Cyfeiriodd at y cod ymarfer a nododd oherwydd sefyllfa Covid ni fyddai un newydd yn cael ei gyflwyno o fewn y flwyddyn. Nododd bod deddfwriaeth yn Lloegr i gosbi perchnogion ceir sy’n gollwng sbwriel, nid oedd hyn ar gael yng Nghymru ond yn cael ei hystyried.

·         Nododd fel rhan o’r peilot, bod 4 bin clyfar wedi eu harchebu a fyddai’n gweithio drwy bŵer solar. Byddai’r bin yn gwasgu’r sbwriel nifer o weithiau cyn anfon signal i hysbysu’r swyddogion bod angen ei wagio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Croesawyd y weledigaeth a holwyd am finiau ailgylchu ar strydoedd. Nododd bod pobl yn rhoi sbwriel yn y bin anghywir ar ddamwain neu yn ddiofal a gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y broses casglu a’r gofynion staffio i wahanu a sortio’r deunydd.

·         Holwyd ynghylch grwpiau codi sbwriel yn wirfoddol gan nodi bod digwyddiadau cyson ar draws y wlad ac yng Ngwynedd a’i fod yn syniad da bod y cyhoedd yn rhan o’r broses.

·         Holwyd beth yw’r drefn efo ysgubo ffyrdd ag a yw hyn yn parhau mewn llefydd gwledig. Ategodd bod cadw ffyrdd yn lan yn ddull o osgoi llifogydd.

·         Codwyd y mater o chwyn ar balmentydd yn enwedig rhai sy’n cael eu defnyddio yn llai aml.

·         Cyfeiriwyd at y Tîm Cymunedau Glan a Thaclus a’r angen i wybyddu aelodau o waith y tîm.

·         Derbynnir cwynion o ran arwyddion yn wyrdd a gydag ymgyrchoedd codi ysbwriel yn ail-gychwyn roedd bagiau duon yn cael eu rhoi tu ôl i finiau stryd. A ellir ystyried ysgubo’r llwybrau beicio yn dilyn torri tyfiant? Holwyd am drefniadau glanhau gwm cnoi.

·         Yn falch bod addysgu plant wedi ei gynnwys fel un o’r camau nesaf ond gall oedolion greu mwy o broblem e.e. peidio â chodi baw cŵn. Wedi gweld cyd-gynghorwyr yn arddangos cynhwysydd siâp asgwrn i ddal bagiau baw cŵn ar y cyfryngau cymdeithasol. Oedd rhai ar gael i aelodau eraill.

·         Bod staff yn ymwybodol o fannau problemus, dylid parhau i wagio biniau yn rheolaidd yn hytrach na defnyddio biniau clyfar.

·         Yr angen i ail-edrych o ran rôl gwirfoddolwyr a chynghorwyr, nid oedd digon o gosbau yn cael eu rhoi yn unol â rheoliadau cadw cŵn ar dennyn a chodi baw ci.

·         Pam fod y Cyngor yn rhoi bagiau baw cŵn i berchnogion gan mai eu cyfrifoldeb hwy ydyw?

·         Ble fyddai’r biniau clyfar wedi eu lleoli fel rhan o’r peilot?

·         Pryd fyddai’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ran codi baw cŵn yn cychwyn?

·         Bod angen cadw safleoedd biniau cymunedol yn daclus a’r angen i wneud deep clean yng nghanol trefi.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth a’r Rheolwr Gwasanaethau Stryd y canlynol:

·         Mewn perthynas â’r biniau ailgylchu ar y stryd,  bod 3 neu 4 rhan i'r bin ar gyfer deunyddiau gwahanol. Gwelir ychydig o lygru deunydd yn y biniau ailgylchu. Parheir i gyfathrebu’r neges o ran ail-gylchu.

·         Bod angen cyd-gordio ymgyrchoedd codi sbwriel grwpiau gwirfoddol gan roi ystyriaeth i fynediad at gyfarpar a lleoliad priodol i adael y sbwriel ar gyfer ei gasglu.

·         Bod ysgubo ffyrdd mewn ardaloedd gwledig yn digwydd o leiaf unwaith y flwyddyn, gydag ysgubo mewn pentrefi yn digwydd o leiaf un waith y mis. Tîm arall oedd yn chwistrellu chwyn ar balmentydd a hynny o leiaf un waith y flwyddyn.

·         Byddai nodyn yn cael ei anfon i holl aelodau’r Cyngor gyda gwybodaeth am y Tîm Cymunedau Glan a Thaclus.

·         Bod y tîm yn glanhau arwyddion. Gadael iddynt wybod am leoliad y bagiau duon tu allan i’r cyfarfod. Rhoddir ystyriaeth i ysgubo llwybrau beicio yn dilyn torri tyfiant fel rhan o’r adolygiad.

·         Ei fod yn anodd glanhau gwm cnoi, prynwyd peiriant newydd drwy arian grant i dreialu ei ddefnydd. Gobeithir y byddai’r gwaith yma yn dod yn rhan o waith y Tîm Cymunedau Glan a Thaclus.

·         Bod addysgu yn hanfodol a chynhelir gweithgaredd penodol.

·         Gallai aelodau gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Stryd i wneud cais am y cynhwysydd siâp asgwrn a byddai’n trefnu i’w rhoi i’r warden yn yr ardal.

·         Bod pwysau wedi bod ar y staff dros y ddwy flynedd diwethaf, edrychir ar drefniadau gwagio biniau stryd fel rhan o’r adolygiad. Credir bod lle i ddefnyddio biniau clyfar yn enwedig mewn llefydd pell.

·         Bod angen edrych yn fwy manwl ar y sefyllfa baw cŵn, rhoddir ystyriaeth i gyflogi mwy o wardeiniaid gorfodaeth.

·         Yn dilyn dyfodiad deddfwriaeth newydd nid oedd yn bosib i wirfoddolwyr orfodi ond edrychir ar wirfoddolwyr yn dosbarthu pecynnau a chynghori perchnogion cŵn. Hapus i gael trafodaeth bellach. 

·         Rhoddir pecynnau fel tacteg marchnata, sampl am ddim ond ni pharheir i’w rhoi.

·         Bwriedir rhoi’r biniau clyfar mewn lleoliadau prysur trefol.

·         Bod codi ymwybyddiaeth yn rhywbeth parhaus. Fel rhan o Caru Cymru, roedd ymgyrch cenedlaethol ‘Gadael olion pawennau yn unig’ yn cael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. Bod arwyddion newydd yn cael eu treialu gydag arwyddion bychan a oedd yn disgleirio yn y tywyllwch wedi eu gosod yn Nolgellau. Pe byddai aelodau eisiau treialu arwyddion newydd, dylent gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Stryd.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: