skip to main content

Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran hygyrchedd ysgolion, gan amlinellu sut y bu cyrraedd at y sefyllfa hon, gan edrych hefyd ar y ffordd ymlaen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Awgrymwyd y byddai rhieni’n dewis anfon eu plentyn anabl i’r ysgol gymunedol leol, yn hytrach nag i’r ysgol ddynodedig, os o gwbl yn bosib’, ac felly croesawyd y cynnydd oedd wedi digwydd yn y maes ers 2017.

·         Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at rampiau a lifftiau, ond bod anabledd yn faes amrywiol iawn, a holwyd beth oedd darpariaeth y Cyngor o ran anableddau neu gyflyrau gwahanol megis awtistiaeth, anabledd dysgu, nam synhwyrol ayb.

·         Croesawyd y defnydd o liwiau cyferbyniol ar y grisiau yn Ysgol Botwnnog.

·         Nodwyd y dymunid cael sicrwydd, cyn anfon plentyn i ysgol ddynodedig, bod pob carreg yn cael ei throi i weld a yw’n fforddiadwy i ganiatáu i’r plentyn gael yr addysg ar ei stepen drws ei hun.

·         Bod yr addasiadau hygyrchedd yn cael dylanwad positif ar yr ysgol gyfan, ac nid yn unig ar y plant hynny sydd ag anghenion dysgu neu anabledd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Mai’r maen tramgwydd mewn llawer o ysgolion oedd y gwaith ffisegol drud, a bod rhai pethau fwy o fewn cyrraedd yr addasiadau rhesymol y byddai disgwyl i ysgolion eu gwneud. 

·         Bod yna addasiadau heblaw’r rhai ffisegol a nodwyd yn yr adroddiad sy’n rhan o’r strategaeth hygyrchedd, e.e. y cydweithio rhwng rhieni a disgyblion ac ysgolion o ran gwneud addasiadau i’r cwricwlwm / amserlen, a newid defnydd ystafelloedd fel bod cwricwlwm mor llawn â phosib’ ar gael i bob disgybl. 

·         O ran penderfynu ar y math o addasiadau ffisegol sydd eu hangen, y gofynnid i’r swyddogion Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADY a CH) edrych ar sefyllfa ac anghenion disgyblion unigol, a chyflwyno argymhellion ar sail hynny.

·         Nad oedd gan yr Adran yr hawl i gyfeirio unrhyw blentyn i ysgol ddynodedig, ac roedd yn ddewis agored i rieni i ba ysgol y dymunent yrru eu plant.  Roedd y mwyafrif llethol yn dewis gyrru eu plant i’w hysgol leol, a gellid edrych ar ddarparu mwy o wybodaeth i rieni o ran beth yw’r cyfleusterau sydd ar gael mewn gwahanol ysgolion.

·         Bod rhieni’n rhan o’r sgwrs ynglŷn â’r posibilrwydd o wneud addasiadau mewn ysgol gyffredin.  Roedd y Tîm ADY a CH yn ymwneud â disgyblion cyn oedran ysgol, ac yn gwybod am ddisgyblion sydd am symud i mewn, ac roedd sgyrsiau’n digwydd rhwng rhieni a’r gwasanaethau canolog.  Gan hynny, roedd dewis rhydd i rieni, ond gorau oll bod y dewis hwnnw’n seiliedig ar wybodaeth ynglŷn â beth yw natur yr ysgol(ion) y mae ganddynt ddiddordeb mewn anfon eu plant iddynt.

·         Ei bod yn hawdd anghofio effaith bositif y newidiadau ar yr ysgol gyfan, a’i bod yn bwysig bod plant, waeth beth yw eu hanghenion, yn gallu dod i’r ysgol heb deimlo’n wahanol i’w cyfoedion mewn unrhyw ffordd, ac yn cael eu cynnwys ym mhopeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: